Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1. Rhoddir cymeradwyaeth i ddyfarnu grantiau i sefydliadau'r
Trydydd Sector fel y manylir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2. Cytunwyd i beidio â dyfarnu grantiau i'r sefydliadau fel y manylir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
3. Bydd swm y grant sy'n daladwy i bob Partner Strategol yn cael
ei gymeradwyo fel y manylir yn Atodiad 3 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Er mwyn galluogi grantiau i sefydliadau'r trydydd sector
gael eu hystyried yn unol â Chynllun y Cyngor.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw
i mewn o dridiau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo cyllid fel y manylir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd i wneud gwaith atgyweirio ym Mhwll Nofio
Pontardawe.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Os na fydd y
gwaith yn cael ei wneud, byddai Pwll Nofio Pontardawe ar gau yn barhaol.
Rhoi'r
penderfyniad ar waith:
Gyda
chytundeb Cadeirydd Pwyllgor Craffu'r Cabinet, bydd y penderfyniad yn cael ei
roi ar waith ar unwaith. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' ar gyfer yr eitem
hon.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Nodi’r
adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 05/12/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Trafododd yr
Aelodau'r cynnig i ddiwygio'r argymhellion er mwyn osgoi cynnal y cyfnod
ymgynghori dros gyfnod y Nadolig a awgrymwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor
Craffu'r Cabinet a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn. Ar ôl trafod, cytunwyd i roi awdurdod
dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes,
mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r aelodau gofynnol, ystyried ymestyn y cyfnod
ymgynghori fel y manylir isod.
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiadau effaith mewn perthynas â chydraddoldeb, risg,
defnydd cymunedol a'r Gymraeg, ac i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru 2015), ynghyd â'r goblygiadau cyfreithiol, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, cymeradwyo ymgynghori ar y
cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer plant 3-11 oed gyda chanolfan
cymorth dysgu arbenigol, mewn adeiladau newydd i ddarparu ar gyfer disgyblion o
ddalgylchoedd presennol Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre'r-graig ac
Ysgol Gynradd Llangiwg, bydd pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2025 a rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, mewn
ymgynghoriad â'r Arweinydd, Aelod Cabinet dros Addysg a Chadeirydd Craffu'r
Cabinet, gytuno ar estyniad addas i'r cyfnod ymgynghori er mwyn galluogi
aelodau'r cyhoedd i ymateb i'r ymgynghoriad.
Y dyddiad ar
gyfer rhoi hwn ar waith fydd 1 Medi 2025.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Bydd y
penderfyniad hwn yn galluogi'r cyngor i gydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad
ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion.
Yn amodol ar
ganlyniad yr ymgynghoriad, bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i
hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei
ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.
Rhoi'r
penderfyniad ar waith:
Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad
Mae'r adroddiad yn gofyn am ganiatâd i
ymgynghori.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Nodi’r
adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 30/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Cymeradwyo
Sylfaen Treth y Cyngor net ar gyfer 2023/2024:
·
48,808.10 ar gyfer y Fwrdeistref
Sirol gyfan; ac
·
ar gyfer pob ardal Cyngor Tref a
Chymuned, y swm a ddangosir ym mharagraff 6 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
I benderfynu
ar Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Gyda
chytundeb Cadeirydd Craffu'r Cabinet.
Bydd y penderfyniad yn cael ei rhoi ar waith ar unwaith.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 05/12/2022
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1. Cymeradwyo'r meini prawf dosbarthu ar gyfer gweddill
cyllid Cynllun Cymorth Costau Byw Dewisol Llywodraeth Cymru fel y manylir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Prif Swyddog Cyllid ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros
Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol benderfynu ar ddull dosbarthu
priodol ar gyfer cyllid a ddyrennir i fanciau bwyd.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
I sicrhau
bod yr holl gyllid sydd ar gael i'r cyngor yn cael ei ddefnyddio yn unol â
thelerau ac amodau'r grant.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 30/11/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/09/2023
Effective from: 05/12/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo dechrau ymgynghoriad 12
wythnos ar y Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus Ddrafft fel y manylir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd rhwng 5 Rhagfyr 2022 a 26 Chwefror 2023.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Er mwyn
galluogi cyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus derfynol a fydd yn sicrhau
bod y cyngor yn cyflawni dyletswyddau cyfreithiol a nodir yn Neddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fel y maent yn ymwneud â gweithgareddau
cyfranogiad y cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Derbyniodd aelodau gyflwyniad ar y cais oedd wedi’i gynnwys ar agenda'r
cyfarfod hwn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Nododd yr Aelodau'r rhestr o Apeliadau a Dderbyniwyd o 11 Awst 2023 i 4
Medi 2023.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Nododd yr Aelodau'r rhestr o Apeliadau y Penderfynwyd arnynt o 11 Awst 2023
i 4 Medi 2023.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Darparodd Swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn
(Newid o
ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO (Dosbarth C4) yn rhif 65, Cwrt Sart,
Llansawel SA11 2SR) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelod Ward Lleol wedi gofyn i’r cais gael
ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio ac roedd yn bresennol i roi ei sylwadau
yn y cyfarfod.
Yn unol â phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy'r
cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio gan wrthwynebydd i’r cais.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo
Cais Rhif P2023/0461, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Wards affected: Briton Ferry East;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau am ymweliad(au)
safle.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 1 Awst 2023 a 22 Awst 2023 fel cofnod cywir.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/09/2023 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/09/2023
Effective from: 12/09/2023
Penderfyniad:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.