Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Gyda
chytundeb y Cadeirydd, symudwyd yr eitem hon o sesiwn breifat i un gyhoeddus
(ac eithrio atodiadau B ac C sy'n aros yn eithriedig o dan baragraffau 13, 14 a
15).
Penderfyniadau:
1.
Mewn perthynas â'r ymgynghoriadau a gwblhawyd, gadarnhau'r penderfyniad
mewn egwyddor blaenorol i newid y Ganolfan Adfer Deunyddiau ac Ynni (CADY) yn
orsaf drosglwyddo a fydd yn gallu ailgylchu rhagor o ddeunydd;
2.
Cyflwyno strwythur diwygiedig i'r Pwyllgor Personél mewn perthynas â staff
er mwyn gweithredu gorsaf drosglwyddo a fydd yn gallu ailgylchu rhagor o
ddeunydd, er mwyn iddo benderfynu arno, a darparu hysbysiadau o newid a/neu
golli swyddi fel y'u hystyrir yn briodol gan y Pwyllgor Personél (bydd Amodau a
Thelerau Llywodraeth Leol yn berthnasol i unrhyw rolau newydd).
3.
Nodi gofynion cyfalaf a chymeradwyo dyrannu £5.55m o raglen gyfalaf y
cyngor, gan gynnwys cronfa wrth gefn;
4.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gofal Strydoedd i amrywio'r hawlen
amgylcheddol yn unol â'r newid i'r gwasanaeth;
5.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gofal Strydoedd a Phennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol i ymgymryd ag ymarfer caffael ar gyfer contract trin
gwastraff gweddilliol am hyd at 5 mlynedd, ac i wneud unrhyw drefniadau sy'n
briodol er mwyn hwyluso'r ymarfer caffael hwn a dyfarnu'r contract i'r cynigiwr
sy'n sgorio uchaf;
6.
Bydd y Pennaeth Gofal Strydoedd yn ymchwilio i ddichonoldeb a manteision
ail-leoli cerbydlu casglu gwastraff ac ailgylchu'r cyngor i'r Orsaf
Drosglwyddo, ac yn adrodd yn briodol wrth yr Aelodau am ganfyddiadau er mwyn
cael penderfyniad pellach.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Penderfynu ar ddyfodol y
CADY, mewn perthynas â'r newidiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol mewn
egwyddor, ac sy'n destun ymgynghoriad. Bydd y cyfeiriad teithio ar
gyfer gwastraff gweddilliol yn parhau ar duedd am i lawr wrth i ailddefnyddio
ac ailgylchu etc. barhau i gynyddu. Ni fydd y trefniadau gwasanaeth presennol
felly'n cyd-fynd â'r cyd-destun rheoli gwastraff sy'n datblygu os na wneir
newidiadau.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi
ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem hon wedi bod yn
destun ymgynghoriad â staff.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Gobeithiwyd
y byddai rhagor o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y flwyddyn o
ganlyniad i'r costau cynyddol a gafwyd yn ystod pandemig COVID-19. Nododd yr
aelodau y byddai costau ychwanegol pellach wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu
llacio a dod i ben ar draws y wlad.
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a'r symudiadau o ran arian wrth gefn a
gynigir, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Nodi'r materion gweithredol ac ariannol a ddisgrifir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
3.
Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac yn unol â
deddfwriaeth, rheoliadau a chyfeiriadau, i gyflwyno gwasanaethau yn ystod yr
adeg heriol hon.
4.
Nodi'r grantiau ychwanegol a dderbyniwyd.
5.
Bydd y cyngor yn parhau i geisio arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i
dalu am ganlyniadau COVID-19 sef gwariant uwch, colli incwm, cost gynyddol
Cymorth Treth y Cyngor a diffygion o ran casglu trethi, sy'n effeithio'n
andwyol ar gyllid a gweithgarwch y cyngor.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Diweddaru
Cyllideb y cyngor ar gyfer 2020/21 a hysbysu'r Aelodau o'r risgiau ariannol
sy'n codi o COVID-19.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Yn dilyn
sylwadau ychwanegol gan y Bwrdd Iechyd, ychwanegwyd argymhelliad arall gan
swyddogion yn ystod y cyfarfod, a chytunodd yr Aelodau arno (penderfyniad 2
isod):
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo'r Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach' -
ymateb ar y cyd y cyngor a'r Bwrdd Iechyd i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod,
Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a
Diogelu'r Cyhoedd i gytuno ar unrhyw fân newidiadau terfynol i'r strategaeth
cyn ei chyhoeddi.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Cymeradwyo'r
strategaeth yn ffurfiol a sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'r dyletswyddau
o dan adran 5 (1) Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol (Cymru) 2015.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Rhoi
cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Gwahardd Aros, 8am i 6pm 2020 ar gyfer
Evelyn Terrace a Manor Street, Port Talbot, 2020 (fel y nodwyd yn Atodiad A yr
adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r
cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Port Talbot;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Rhoi
cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Gwahardd Aros, dydd Llun i ddydd Gwener,
8am i 6pm, 2020 ar gyfer Cyncoed Road a Bertha Road, Margam, (fel y nodwyd yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Margam;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Gwrthod y
gwrthwynebiad i'r Gorchymyn (Arbrofol er mwyn Gwahardd Gyrru) 2019 ar gyfer y
ffordd ger 63 a 65 Beechwood Road, Margam, Port Talbot, a gwneud y Gorchymyn yn
Arbrofol yn barhaol fel yr hysbysebwyd, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn briodol.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Atal
mynediad i draffig cerbydau er mwyn diogelu plant ysgol er diogelwch y ffordd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Margam;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Gwrthod y gwrthwynebiadau
i Orchymyn (Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw Adeg) (Arhosiad
cyfyngedig) a (Deiliaid Hawlen i Breswylwyr) 2020 (fel y nodwyd yn Atodiad A
i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ar gyfer Ormond Street, Ymysmaerdy Road ac Old Road, Llansawel,
Castell-nedd, a rhoi'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith fel y'i
hysbysebwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd a darparu cynllun parcio i breswylwyr yn
unig yn unol â pholisi parcio i breswylwyr presennol y cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Briton Ferry East;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1.
Bydd y cyngor yn ymgymryd ag ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar gynnig i estyn
y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn Nhraeth Aberafan.
2.
Ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad, cyflwynir adroddiad pellach a fydd yn cynnwys
crynodeb o'r ymatebion a'r argymhellion, er mwyn penderfynu arno
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau bod
y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n gweithredu’n dymhorol yn Nhraeth
Aberafan ar hyn o bryd yn cael eu hadolygu'n amserol fel y gellir eu hestyn os
oes angen.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Sandfields East; Sandfields West;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Argymell yr
argymhellion canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:
1.
Cytuno ar yr ymatebion a'r argymhellion a wnaed i'r sylwadau a dderbyniwyd
ac fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Cytuno ar yr Adroddiad Adolygu terfynol fel y nodwyd yn Atodiad 2 i'r
adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau y
cydymffurfir ag Adran 69 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau
Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015; a
Llawlyfr Cynlluniau Datblygu (Rhifyn 3) 2020, ac i sicrhau y rhoddir y
gweithdrefnau mabwysiadu a chyhoeddi ar waith fel y'u nodir yn yr adroddiad.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Rhoddir y
penderfyniadau ar waith ar ôl i'r cyngor eu cymeradwyo.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 08/07/2020
Effective from: 25/06/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Cytuno ar
feini prawf diwygiedig Cronfa Gymunedol yr Aelodau, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Hwyluso
llywodraethu a chyflwyno Cronfa'r Aelodau yn ei ail dymor
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);