Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/04/2023 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 13/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad:
1.
Rhoddir cymeradwyaeth i gais a
gyflwynwyd i'r Comisiwn Elusennau ar gyfer cynllun elusennol ar gyfer gwario'r
arian o werthiant hen dir Ysgol Gyfun Glan Afan.
2.
Rhoddir cymeradwyaeth i'r
arian gael ei wario ar gynllun sy'n cefnogi dysgu ac addysgu yn yr 21ain
ganrif.
3.
Rhoddir cymeradwyaeth i'r
gronfa fod yn rhydd o gyfyngiadau o ran gwariant unrhyw gyfalaf perthnasol, a
benderfynwyd dan Adran 282 Deddf Elusennau 2011.
4.
Rhoddir cymeradwyaeth i
fuddsoddi arian y gwerthiant o dan Adran 290 Deddf Elusennau 2011.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol i ryddhau'r
arian o ganlyniad i werthiant hen safle Ysgol Gyfun Glan Afan.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Rhoddir y penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 17 Ebrill 2023.
Ymgynghoriad:
Yn dilyn cymeradwyaeth, efallai y bydd y Comisiwn
Elusennau'n gofyn am gynnal ymgynghoriad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/04/2023 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 13/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/04/2023 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 13/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i Atodiad A yr adroddiad a
ddosbarthwyd, penderfynwyd rhoi caniatâd i ymgynghori o ran dyddiadau tymor
ysgol arfaethedig 2025/2026.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Galluogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau
statudol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 17 Ebrill
2023.
Ymgynghoriad:
Ymgynghorir â chyrff llywodraethu, cynrychiolwyr
undeb llafur ac awdurdodau derbyn, gan gynnwys y rheini yn y maes perthnasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 13/04/2023 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 13/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid newid y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:-
Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy
Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Cwmni |
Categori |
Cwmni Peirianneg Sifil Trident (T038) |
89 |
Pren W R Lloyd (W043) |
101,111 |
RIS Reactive Integrated Services Ltd (R045) |
31,111 |
Nolan uPVC Ltd (N019) |
21,21A,21C,21G |
Enava Ltd (E033) |
6 |
SRK Scaffolding Ltd (S0100) |
11 |
Speedy Asset Services Ltd (L032) |
2,57,111 |
Rheswm dros y Penderfyniad:
Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.
Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiad i'r A474 Heol Newydd, Gellinudd
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith ar y safle
fel yr hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar yr A474 Heol Newydd, Gellinudd, Rhos o fewn y fwrdeistref
wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o
20mya ar waith mewn ardaloedd trefol ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: Rhos;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig, caiff y gwrthwynebiadau eu cadarnhau yn rhannol i'r Ffordd o Goetre
i Fryn (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30Mya) – Gorchymyn 2022 (fel y nodir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig
(fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u
hysbysebir.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Roedd angen y Gorchymyn i ganiatáu addasu'r terfyn cyflymder presennol ar y
Ffordd o Goetre i Fryn i 20mya er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth
Cymru i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith mewn ardaloedd trefol/gwledig
ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Ym marn y cyngor fel Awdurdod Priffyrdd Lleol, nid oedd y bylchau rhwng
goleuadau stryd yn dilyn y rheoliad ac felly roedd angen rhoi terfyn cyflymder
20mya ar waith.
Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 20mya arfaethedig yn derfyn
cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y terfyn cyflymder
arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.
Wards affected: Bryn and Cwmavon;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i Heol y Bryn, Cwmllynfell, Heol
Coedffaldau, Rhiwfawr, Heol y Gwrhyd, Rhiwfawr a Heol y Goedlan, Rhiwfawr
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y nodir yn Atodiad
A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr hysbysebwyd
a'i fonitro wrth symud ymlaen. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn
unol â hynny.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn
cyflymder presennol o 30mya ar Heol y Bryn, Cwmllynfell, Heol Coedffaldau,
Rhiwfawr, Heol y Gwrhyd, Rhiwfawr a Heol y Goedlan, Rhiwfawr o fewn y
fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder
diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: Cwmllynfell and Ystalyfera;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i'r A474 James Street i Ffordd
Pontardawe (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir
yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith fel yr
hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn
cyflymder presennol o 30mya ar yr A474 Stryd Iago i Heol Pontardawe o fewn y
fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder
diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: Pontardawe;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
·
Bydd y gwrthwynebiadau'n cael
eu cadarnhau mewn perthynas â'r A474 Heol Pontardawe, Rhyd-Y-Fro, Pontardawe,
A474 Heol Y Gors, Cwmgors, A474 Heol Cae Gurwen, Gwauncaegurwen, A474 Heol Y
Graig, Gwauncaegurwen, A4069 Heol Brynaman, Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf,
A4069 Heol Canon, Brynaman Isaf, A4069 Stryd Y Parc, Brynaman Isaf, A4069 Heol
Aman, Brynaman Isaf, A4069 Heol Yr Orsaf, Brynaman Isaf (Diddymu) A (Terfyn
Cyflymder 30Mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd)
·
Ymgynghorir ar gynllun
diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle
fel y'u hysbysebir. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar yr A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf o fewn y fwrdeistref
wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o
20mya mewn ardaloedd trefol/gwledig ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 30mya
arfaethedig yn derfyn cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y
terfyn cyflymder arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynaman; Pontardawe;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Cymeradwyo hysbysebu'r cynlluniau canlynol, yn unol â'r
gofynion statudol:
·
Rhaglen Gyfalaf Traffig
2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
·
Rhaglen Teithio Llesol
2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
·
Rhaglen Lleoedd Parcio Unigol
i'r Anabl (LlPUA) 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a
ddosbarthwyd)
·
Rhaglen Cyflwyno Terfyn Cyflymder
Diofyn 20mya Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad
Ch i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
2.
Bod y cynlluniau'n cael eu
rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y
Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau. Os bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas
ag unrhyw gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Roedd y cynlluniau'n angenrheidiol er budd
diogelwch ffyrdd, gan leihau cyflymder, hyrwyddo Teithio Llesol, darparu
Lleoedd Parcio Unigol i Bobl Anabl (LlPUA), cilfachau parcio â blaenoriaeth ar
y stryd a chyflwyno darpariaethau parcio ddigonol o fewn y Fwrdeistref.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig:
·
Cymeradwyo mabwysiadu'r polisi
profi cerrig coffa diwygiedig fel y nodir yn Atodiad A.
·
Bydd y cyngor yn ymgymryd â
gwaith, sydd wedi ei ariannu o'r rhaglen gyfalaf, i adfer cerrig coffa sydd wedi
methu'r asesiad o dan y polisi blaenorol, ac er cysondeb, byddant yn ad-dalu'r
perchnogion beddi sydd eisoes wedi ymgymryd â'r gwaith.
·
Rhoi gwybod am y newidiadau i
bolisi'r cyngor ar ddiwrnodau agored o fewn y mynwentydd a thrwy wefannau'r
mynwentydd, cyn ailddechrau profi.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei
ddyletswydd gofal mewn perthynas â diogelwch cerrig coffa yn ei fynwentydd, i
leihau'r risgiau cysylltiedig i ymwelwyr a'r cyngor, a chynnal mynwentydd y cyngor mewn trefn dda.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 30/05/2023
Effective from: 14/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Nodi’r adroddiad.

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a
Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd
yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiadau i'r argymhellion canlynol, fel y nodir
isod:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
·
Cymeradwyo mesur 5 gan ystyried
defnyddio'r biniau storio deunydd ar gyfer cyflwyno fel yr awgrymir gan y
pwyllgor craffu.
·
Cymeradwyo mesur 11 heb ohirio
ymgynghoriadau ar newidiad posib i gasglu sbwriel bob 3 wythnos, er gwaethaf yr
awgrym gan Graffu i'r gwrthwyneb, fodd bynnag, cynhelir yr ymgynghoriad fel
ymagwedd fesul cam.
·
Datblygu protocol Cyfathrebu i
sicrhau ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol mewn perthynas â chael adborth ar
wasanaethau gwastraff drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud drwy banel y dinasyddion
sefydledig ac yn ystod cysylltiadau â chwsmeriaid gyda'r gwasanaeth.
Roedd yr aelodau'n gefnogol o'r argymhellion
canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
·
Cymeradwyo mesurau 1, 4, 6, 7,
9, 10, 12, 13, 14, 15, 16, 17, ac 18, a gynhwysir o fewn yr adroddiad a
ddosbarthwyd;
·
Cymeradwyo mesur 2, sydd wedi'i
gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoi pwyslais ar bwysigrwydd
addysgu'r cyhoedd ar y mesurau newydd posibl, a sicrhau bod taflenni, hysbyseb
a fideos 'sut i' rhithwir yn cael eu darparu i'r cyhoedd er mwyn sicrhau
ymgysylltu a chynyddu ymwybyddiaeth'. Rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth am
yr hyn sy'n digwydd i ailgylchu ar ôl iddo gael ei gasglu;
·
Cymeradwyo mesur 3, sydd wedi'i
gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Darparu diweddariad ar ddarparu
bagiau baw cŵn yn yr adroddiad perfformiad chwarterol cyntaf sydd ar gael
12 mis ar ôl i'r bagiau fod ar gael yn gyhoeddus, i gynnwys amserlen o fannau
casglu ar draws y Fwrdeistref Sirol;
·
Cymeradwyo mesur 8, sydd wedi'i
gynnwys o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Bydd goruchwylwyr Gwasanaethau
Gwastraff a Chymdogaethau yn parhau i fonitro lefelau glendid stryd ar draws y
Fwrdeistref Sirol a gwneud eu gorau, ynghyd â rheolwyr gwasanaeth, i sicrhau
cysondeb o ran cyflwyno gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol trwy
gyfeiriad yr adnoddau sydd ar gael iddynt;
·
Datblygu protocol cyfathrebu i
dynnu sylw at bolisi'r cyngor ar gasgliadau a gollwyd a sicrhau negeseuon
cyson;
·
Caiff y swm o £350k ei
ddefnyddio at ddiben bwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu, a nodwyd fel rhan o
broses gyllideb refeniw 2023/24 ar gyfer gwastraff, a'i gynnwys yn y gyllideb
sylfaenol fel trosglwyddiad untro o gronfeydd wrth gefn;
·
Bydd Pennaeth Gofal Strydoedd
yn gwneud cais i'r Cabinet, drwy'r Grŵp Llywio'r Rhaglen Gorfforaethol, ar
gyfer dyraniad o £230,000 o'r cyllid cyfalaf o'r cyfalaf wrth gefn er mwyn bwrw
ymlaen â'r mesurau a gymeradwywyd.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Y prif reswm dros roi'r cynllun gweithredu ar waith
oedd i barhau i wneud cynnydd tuag at gyrraedd y targed ailgylchu statudol
nesaf, sef 70%, wrth hefyd fynd i'r afael â rhai materion gwasanaeth.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:
1. Bod y Gyllideb Refeniw ar gyfer
2023/2024 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei
gymeradwyo.
2. Bod ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau gweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet
perthnasol, a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol a
bod angen pennu ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau gweithredol sy'n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol
2023/2024 sy'n berthnasol mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol, ym marn y
Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, cyn y flwyddyn ariannol am resymau
gweithredol.
3. Bod y ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau anweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a
Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol a
bod angen pennu ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau anweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, cyn y flwyddyn ariannol honno
am resymau gweithredol.
4. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei
roi i'r Prif Swyddog Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr
Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder
Cymdeithasol i wneud unrhyw welliant angenrheidiol drwy ddefnyddio cronfeydd
wrth gefn cyffredinol o ganlyniad i unrhyw amrywiad rhwng taliad terfynol
Llywodraeth Cymru a'r taliad dros dro.
5. Bod Treth y Cyngor yn cynyddu 4.5%
yn 2023/2024. Bod y swm cyfatebol ar gyfer Band D Treth y Cyngor 1,737.72/2021
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o £1,737.72, yn cael ei
argymell i'r cyngor i'w gymeradwyo.
Rheswm dros
y Penderfyniad
Er mwyn
cyflawni'r gofyniad statudol i bennu’r gyllideb ar gyfer 2022/2023.
Darparu dull
ar gyfer ymdrin ag unrhyw amrywiad rhwng setliadau dros dro a therfynol
Llywodraeth Cymru.
Cytuno ar
drefniadau ar gyfer gosod ffïoedd a thaliadau.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y
cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Bod y
strategaethau a'r polisïau canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael eu cyflwyno i'r cyngor i'w cymeradwyo:
·
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys
·
Strategaeth Buddsoddi Flynyddol
·
Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw
·
Dangosyddion Darbodus
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Cymeradwyo
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi Flynyddol, Strategaeth
Gyfalaf a Pholisi Darpariaeth Isafswm Refeniw yr awdurdod fel sy'n ofynnol gan
Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chôd Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol
(2017).
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Rhoddir y
penderfyniad ar waith ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Craffu'r Cabinet ac wedi i
benderfyniad gael ei wneud gan y cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Bod y
canlynol yn cael ei argymell i'r cyngor i'w cymeradwyo:
·
Y Strategaeth Gyfalaf
·
Y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/2024 i 2025/2026 fel y nodir yn Atodiad 2
yr adroddiad hwn.
·
Y trefniadau dirprwyo fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Cymeradwyo
Rhaglen Gyfalaf yr Awdurdod yn unol â'r Cyfansoddiad.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y
cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr
adroddiad monitro yn cael ei nodi.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod y Polisi
Rheoli Risgiau Corfforaethol diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Er mwyn
cefnogi'r cyngor wrth gyflawni ei ddyletswydd i fod yn effeithlon, yn dryloyw
ac yn atebol i bobl leol a chynnal safonau uchel o lywodraethu corfforaethol.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr
ymateb drafft, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael
ei gymeradwyo, a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Weithredwr i
gyflwyno’i ymateb ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Er mwyn
ymateb i ymgynghoriad agored Llywodraeth Cymru ar Reolau drafft Etholiadau
Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Cytunodd y
Cadeirydd Craffu y gellid rhoi'r eitem hon ar waith ar unwaith. Ni fyddai
unrhyw gyfnod galw i mewn ar gyfer yr eitem hon.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr
adroddiad yn cael ei nodi.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Tynnwyd yr
eitem hon oddi ar agenda cyfarfod heddiw gan fod y fersiwn anghywir o'r
Adroddiad Ymgynghori wedi'i dosbarthu. Byddai'r strategaeth yn cael ei
hailgyflwyno i'r Cabinet ar ddyddiad diweddarach.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1.
Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer
Strategaeth Hybu'r Gymraeg (yn atodedig yn Atodiad 2 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd) am gyfnod o 4 wythnos.
2.
Bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan Grŵp Tasg a
Gorffen Strategaeth Hybu'r Gymraeg a bod copi terfynol Strategaeth Hybu'r
Gymraeg yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet am benderfyniad.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Er mwyn
sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r
Gymraeg (Rhif 1) 2015.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);