Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig, caiff y gwrthwynebiadau eu cadarnhau yn rhannol i'r Ffordd o Goetre
i Fryn (Diddymu) a (Terfyn Cyflymder 30Mya) – Gorchymyn 2022 (fel y nodir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig
(fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u
hysbysebir.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Roedd angen y Gorchymyn i ganiatáu addasu'r terfyn cyflymder presennol ar y
Ffordd o Goetre i Fryn i 20mya er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth
Cymru i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar waith mewn ardaloedd trefol/gwledig
ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Ym marn y cyngor fel Awdurdod Priffyrdd Lleol, nid oedd y bylchau rhwng
goleuadau stryd yn dilyn y rheoliad ac felly roedd angen rhoi terfyn cyflymder
20mya ar waith.
Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 20mya arfaethedig yn derfyn
cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y terfyn cyflymder
arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw
i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: