Manylion y penderfyniad

Memorial Safety Testing Policy

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo mabwysiadu'r polisi profi cerrig coffa diwygiedig fel y nodir yn Atodiad A.

·        Bydd y cyngor yn ymgymryd â gwaith, sydd wedi ei ariannu o'r rhaglen gyfalaf, i adfer cerrig coffa sydd wedi methu'r asesiad o dan y polisi blaenorol, ac er cysondeb, byddant yn ad-dalu'r perchnogion beddi sydd eisoes wedi ymgymryd â'r gwaith.

·        Rhoi gwybod am y newidiadau i bolisi'r cyngor ar ddiwrnodau agored o fewn y mynwentydd a thrwy wefannau'r mynwentydd, cyn ailddechrau profi.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd gofal mewn perthynas â diogelwch cerrig coffa yn ei fynwentydd, i leihau'r risgiau cysylltiedig i ymwelwyr a'r cyngor, a chynnal mynwentydd y cyngor mewn trefn dda.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Dogfennau Cefnogol: