Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
*Ail-gadarnhaodd y Cyng. W.Griffiths ei gysylltiad
a gadawodd y cyfarfod*
Eglurodd swyddogion fod yr 'Asesiad Effaith
Integredig' anghywir wedi'i gynnwys fel rhan o'r pecyn agenda a ddosbarthwyd; a
chynghorwyd, wrth ystyried yr adroddiad, y dylai Aelodau ddefnyddio'r 'Asesiad
Effaith Integredig' a ddosbarthwyd fel atodiad i'r agenda.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, dylid gwahardd Rheolau Gweithdrefn Contract y cyngor yn unol â
rheol 5 a rhoi'r awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddyfarnu
contract yn uniongyrchol i Mc Avoys am £1,793,500.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn caniatáu i'r cyngor ddiwallu anghenion
disgybl mewn darpariaethau prif ffrwd ac arbenigol drwy ddarparu llety
ychwanegol yr oedd ei angen ar frys.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith ac
felly nid yw'n destun i'r cyfnod galw i mewn o dridiau
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: