Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, dylid diystyru'r gwrthwynebiad i'r A474 Heol Newydd, Gellinudd
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2023 (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) a rhoi'r cynllun ar waith ar y safle
fel yr hysbysebwyd. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar yr A474 Heol Newydd, Gellinudd, Rhos o fewn y fwrdeistref
wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o
20mya ar waith mewn ardaloedd trefol ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: