Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
·
Bydd y gwrthwynebiadau'n cael
eu cadarnhau mewn perthynas â'r A474 Heol Pontardawe, Rhyd-Y-Fro, Pontardawe,
A474 Heol Y Gors, Cwmgors, A474 Heol Cae Gurwen, Gwauncaegurwen, A474 Heol Y
Graig, Gwauncaegurwen, A4069 Heol Brynaman, Gwauncaegurwen a Brynaman Isaf,
A4069 Heol Canon, Brynaman Isaf, A4069 Stryd Y Parc, Brynaman Isaf, A4069 Heol
Aman, Brynaman Isaf, A4069 Heol Yr Orsaf, Brynaman Isaf (Diddymu) A (Terfyn
Cyflymder 30Mya) - Gorchymyn 2023, (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a
ddosbarthwyd)
·
Ymgynghorir ar gynllun
diwygiedig (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd). Os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiad, caiff y cynigion eu rhoi ar waith ar y safle
fel y'u hysbysebir. Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Roedd angen y Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder
presennol o 30mya ar yr A4069 Heol Aman, Brynaman Isaf o fewn y fwrdeistref
wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o
20mya mewn ardaloedd trefol/gwledig ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Yn ôl y cyngor, roedd y terfyn cyflymder 30mya
arfaethedig yn derfyn cyflymder priodol ar gyfer y math yma o ffordd ac roedd y
terfyn cyflymder arfaethedig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: