Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Cymeradwyo hysbysebu'r cynlluniau canlynol, yn unol â'r
gofynion statudol:
·
Rhaglen Gyfalaf Traffig
2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
·
Rhaglen Teithio Llesol
2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
·
Rhaglen Lleoedd Parcio Unigol
i'r Anabl (LlPUA) 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a
ddosbarthwyd)
·
Rhaglen Cyflwyno Terfyn Cyflymder
Diofyn 20mya Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2023-2024 (fel y nodir yn Atodiad
Ch i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
2.
Bod y cynlluniau'n cael eu
rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y
Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau. Os bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas
ag unrhyw gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Roedd y cynlluniau'n angenrheidiol er budd
diogelwch ffyrdd, gan leihau cyflymder, hyrwyddo Teithio Llesol, darparu
Lleoedd Parcio Unigol i Bobl Anabl (LlPUA), cilfachau parcio â blaenoriaeth ar
y stryd a chyflwyno darpariaethau parcio ddigonol o fewn y Fwrdeistref.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill
2023.
Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: