Manylion y penderfyniad

Proposed Disposal of 103 Hectares of Agricultural Land Subject to Tenancy Adjoining Hendre Owen Farm at Dyffryn Rhondda Port Talbot

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, yn amodol ar ddiwallu'r rhwymedigaethau a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio (mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio Economaidd a Chymunedol) gytuno ac ymrwymo i ddogfennau priodol ar gyfer gwaredu 103 hectar, neu oddeutu hynny, o dir amaethyddol (yn amodol ar denantiaeth amaethyddol) sy'n ffinio â Fferm Hendre Owen, Dyffryn Rhondda, Port Talbot i hwyluso'i ddefnyddio fel Safle Cydadfer Lliniaru Bioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â chyrchfan Wildfox yng Nghwm Afan.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I gael derbyniad cyfalaf ar gyfer gwerthu tir a hwyluso cydymffurfiaeth â chytundeb Adran 106 rhwng y cyngor a'r datblygwr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 18 Ebrill 2023.

 

Dyddiad cyhoeddi: 30/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/04/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/04/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Dogfennau Cefnogol: