Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

18/03/2024 - Council Tax Premium on Long Term Empty Dwellings and Second Homes ref: 4077    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd J Hale ei budd yn yr eitem hon, a gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais ar hynny.

 

Penderfyniadau:

 

Bod y canlynol, ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo:

 

1.   Bod Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar Anheddau Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi'n cael ei gymeradwyo gyda dyddiad gweithredu o fis Ebrill 2025.

 

2.   Ni chodir unrhyw bremiwm lle gellir cael mynediad i eiddo gwag trwy adeilad busnes yn unig ac nad oes ganddo fynedfa ar wahân. Ni fydd y categori hwn yn berthnasol os yw'r adeilad yn cael ei newid i gael gwared ar fynedfa ar wahân bresennol.

 

3.   Ni chodir unrhyw bremiwm lle byddai premiwm yn daladwy ar eiddo gwag hirdymor sy'n cael ei werthu, ni chodir premiwm ar y perchennog newydd am hyd at 6 mis o'r dyddiad gwerthu tra bod gwaith adeiladu mawr yn cael ei wneud.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

1.           Er mwyn caniatáu i bremiymau Treth y Cyngor gael eu codi ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi, yn effeithiol o 1 Ebrill 2025.

 

2.           I annog perchnogion tai i ddychwelyd eu heiddo i ddefnydd da. 

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 


18/03/2024 - Capital Programme Update following the Outcome of a Tender Exercise ref: 4079    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 23/03/2024


18/03/2024 - Celtic Leisure Formal Contract Notice ref: 4078    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 18/03/2024


06/03/2024 - Capital Strategy and Capital Programme 2024/25 to 2026/27 ref: 4023    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

Penderfynwyd cyflwyno'r canlynol i'r Cyngor i'w cymeradwyo:

 

1.           Y Strategaeth Gyfalaf.

 

2.           Y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2024/25 i 2026/27 fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

3.           Y trefniadau dirprwyo fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf yr Awdurdod yn unol â'r Cyfansoddiad.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl i'r Cyngor ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

 

Wards affected: (All Wards);


06/03/2024 - Appointment of Chairperson ref: 4018    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 


06/03/2024 - Public Question Time ref: 4021    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 


06/03/2024 - Chairpersons Announcement/s ref: 4019    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 


06/03/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4020    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 


06/03/2024 - Revenue Budget Proposals 2024/25 ref: 4022    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.        Bod y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/2025 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei chymeradwyo.

 

2. a)    Bod y Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer 2024 – 2025 am Swyddogaethau Gweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol, a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol

 

b) Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer Swyddogaethau Gweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen eu gosod cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.

 

c) Bod y Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer 2024 – 2025 am Swyddogaethau Anweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol

 

ch) Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer Swyddogaethau Anweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen eu gosod cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.

 

3.        Bod y cynnydd o 7.9% yn Nhreth y Cyngor yn 2024/25 - yr hyn sydd gyfwerth â Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn £1,871.76 - yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Er mwyn cyflawni'r gofyniad statudol i bennu’r gyllideb ar gyfer 2024/2025.

 

Darparu dull ar gyfer ymdrin ag unrhyw amrywiad rhwng setliadau dros dro a therfynol Llywodraeth Cymru.

 

Cytuno ar drefniadau ar gyfer gosod ffïoedd a thaliadau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y cyngor.

 

Ymgynghoriad

 

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori cyhoeddus rhwng 20 Rhagfyr 2023 a 10 Ionawr 2024. Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau ymgynghori yn ystod y cyfnod hwnnw ac ystyriwyd yr adborth a gafwyd yn ofalus wrth ddatblygu'r opsiynau cyllidebol fel y manylwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

 

 

 

Wards affected: (All Wards);


06/03/2024 - Treasury Management Strategy, Annual Investment Strategy, and Minimum Revenue Provision Policy ref: 4024    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

Argymell y strategaethau a'r polisïau canlynol, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

        Strategaeth Rheoli'r Trysorlys

        Strategaeth Buddsoddi Flynyddol

        Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw

        Dangosyddion Darbodus

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi Flynyddol, Strategaeth Gyfalaf a Pholisi Darpariaeth Isafswm Refeniw yr awdurdod fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chôd Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (2017).

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor.

 

Wards affected: (All Wards);


29/05/2024 - Replacement Community Services Transport Vehicle ref: 4286    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 29/05/2024


29/05/2024 - Proposed Easement in Perpetuity - Pontardawe Retail Park ref: 4287    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 29/05/2024


29/05/2024 - Hackney Carriage ("Taxi") Fare Increase ref: 4285    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 29/05/2024

Penderfyniad:

Decision:

 

That having had due regard to the Integrated Impact Screening Assessment, the increase to the hackney carriage fare, as set out at Appendix 1 to the circulated report, be approved, however, should an objection be received following public advert, a report be brought back to Cabinet for a determination to be made.

 

Reason for Decision:

 

To determine a hackney carriage fare increase.

 

Implementation of Decision:

 

The decision will be implemented after the three day call in period.

 

Consultation:

 

A consultation exercise was carried out with all existing proprietors and drivers. The consultation exercise resulted in 42 responses which are summarised within the circulated report.


29/05/2024 - Appointment of a Senior Coroner for Swansea and Neath Port Talbot ref: 4284    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 29/05/2024

Penderfyniad:

Decisions:

 

That having had due regard to the integrated impact screening assessment, delegated authority be granted to the Head of Legal and Democratic Services, in consultation with the Cabinet Member for Finance, Performance and Social Justice –

 

   to agree the job description, contractual terms and appointment process for the post of Senior Coroner and to make arrangements to suitably advertise the post;

 

      to take all necessary steps to progress the appointment of a Senior Coroner;

 

      in consultation with the City and County of Swansea Council and the Chief Coroner’s officer, to establish a panel in order to draw up a short-list, interview applicants and to appoint the successful applicant as the Senior Coroner for Swansea and Neath Port Talbot.

 

Reason for Decisions:

 

To ensure the appointment of a Senior Coroner for Swansea and Neath Port Talbot and to meet the legal requirements of the Coroners and Justice Act 2009.

 

Implementation of Decisions:

 

The decisions will be implemented after the three day call in period.

 

 


29/05/2024 - Establishment of a Joint Committee with Pembrokeshire County Council in respect of Celtic Freeports ref: 4283    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/06/2024

Effective from: 29/05/2024

Penderfyniad:

Members were advised of an error within the circulated report – the implementation of decision within the report should have read ‘Following the three day call in period’ and was not, as stated, ‘For immediate implementation’.

 

Decisions:

 

That having had due regard to the integrated impact assessment:

 

1.                   The Chief Executive, in consultation with the Leader, be granted delegated authority to enter into the Joint Committee Agreement with Pembrokeshire County Council. This is subject only to Pembrokeshire County Council doing likewise, taking account of any minor amendments which may prove necessary and do not alter the substance of the document, as detailed at Appendix 1 to the circulated report.

 

2.                   The Leader, the Cabinet Member for Finance, Performance and Social Justice and the Cabinet Member for Climate Change and Economic Growth, be appointed as the Neath Port Talbot County Borough Council representatives to the Joint Committee.

 

3.                   That any Cabinet Member be authorised to sit as an alternative representative to the Joint Committee in the absence of the Leader, the Cabinet Member for Finance, Performance and Social Justice and the Cabinet Member for Climate Change and Economic Growth

 

4.                   Members note a future report to Full Council, agreeing the establishment of a Joint Overview and Scrutiny Committee with Pembrokeshire County Council.

 

Reason for Decisions:

 

To agree the establishment of a Joint Committee with Pembrokeshire County Council in respect of the Non Domestic Rates and Seed Capital funding schemes that will be developed.

 

Implementation of Decision:

 

The decisions will be implemented following the three day call in period.

 

Consultation:

 

The Freeport bid has been developed by the two local authorities, Associated British Ports and Milford Haven Port Authority, working in partnership. Wider consultation has also taken place with a wide range of public and private sector organisations including business networks within the Freeport proposed area.


18/04/2024 - Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ref: 4232    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Trefniadau cytundebol ar gyfer Gwasanaethau'r Trydydd Sector ac Anrheoliadol a ariennir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

Trefniadau Cytundebol 2024/25 ar gyfer Amrywiaeth o Wasanaethau a Ariennir drwy'r Grant Cymorth Tai

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 


18/04/2024 - Mynediad i gyfarfodydd ref: 4230    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Penderfynwyd: bod aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 


18/04/2024 - Eitemau brys ref: 4229    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 


18/04/2024 - Craffu Cyn Penderfynu ref: 4231    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Adroddiad Blynyddol - Ymgysylltu a Chyfranogiad

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr eitem hon yn ymwneud â'r Gwasanaethau Plant. Bydd adroddiadau'n ymwneud â'r Gwasanaethau Oedolion a Thai yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at yr adroddiad a amlinellodd fod cyfarfod wedi'i gynnal â landlordiaid. Holodd yr aelodau faint o landlordiaid preifat a oedd yn y cyfarfod. Ar ben hynny, gofynnwyd faint o landlordiaid preifat sydd yn CNPT ac a allai aelodau gael rhestr o landlordiaid fel y gall yr aelod ymchwilio i faint o dai rhent preifat sydd ar gael o'u cymharu ag eiddo cymdeithasau tai. Cadarnhaodd swyddogion mai landlordiaid preifat yn unig oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cynhaliwyd y fforwm i ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i landlordiaid ynghylch pethau a all fod yn berthnasol i'r landlordiaid. Y bwriad yw cynnal y fforymau hyn bob chwarter. Dywedodd swyddogion na fyddent yn gallu darparu rhestr o holl landlordiaid preifat yr ardal ac na allent gadarnhau faint o eiddo preifat sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, efallai fod Iechyd yr Amgylchedd yn cadw'r wybodaeth hon.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Rhentu Doeth Cymru'n meddu ar lawer o wybodaeth am yr eiddo rhent preifat sydd ar gael mewn wardiau penodol. Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion roi gwybod i'r pwyllgor am unrhyw fforymau/ddigwyddiadau y gall aelodau'r pwyllgor ddod iddynt yn y dyfodol, gan eu bod yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'r aelodau.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Adroddiad Cwynion Blynyddol

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar dudalen 40. Nodwyd bod pob cwyn yn cael ei datrys yng ngham 1, ond holodd yr aelodau a oes unrhyw gwynion yn symud ymlaen i gamau pellach. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu cwynion a gafodd eu cadarnhau'n rhannol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw apeliadau. Cadarnhaodd swyddogion y byddai nifer o gwynion wedi symud ymlaen i'r cam nesaf. Amlinellodd swyddogion wahanol gamau'r broses gwyno. Mae Cam 1 yn ymchwiliad gan swyddogion mewnol. Mae Cam 2 yn ymchwiliad gan swyddogion allanol ac mae Cam 3 yn atgyfeiriad i'r Ombwdsmon. Dywedodd yr Aelodau y byddai'n ddefnyddiol gweld y nifer amrywiol o gwynion ar wahanol gamau a amlinellir yn yr adroddiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'n cael gafael ar yr wybodaeth honno ar gyfer aelodau.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 42 yr adroddiad a'r weithdrefn cwynion corfforaethol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw gwynion yn unol â'r weithdrefn hon a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd swyddogion fod yr wybodaeth hon yn cael eu hanfon at swyddogion yn wythnosol a'i bod ar gael. Mae cwynion corfforaethol yn tueddu i ymwneud â mwy nag un gyfarwyddiaeth. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r wybodaeth am gwynion a oedd yn cael eu hystyried drwy'r broses cwynion corfforaethol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Polisi Atal ac Adennill Ôl-ddyledion Rhent a Thaliadau Gwasanaeth

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Mae'r polisi’n nodi proses y byddai swyddogion yn ei dilyn i atal pobl sy'n byw mewn llety dros dro rhag cronni ôl-ddyledion, a pha gamau a fyddai'n cael eu cymryd pe bai pobl yn methu'n barhaus â thalu eu rhent neu eu tâl gwasanaeth. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd helpu pobl sy'n byw mewn llety dros dro i wneud taliadau rheolaidd tuag at y costau a nodwyd, a bod y rhai hynny sy'n wynebu ôl-ddyledion yn cael eu cefnogi a'u helpu i weithio tuag at dalu'r ddyled honno. Yn ogystal â'r effaith ariannol ar y Cyngor, amlinellodd swyddogion ei fod yn llawer anos i bobl adael llety dros dro pan fydd ganddynt ôl-ddyledion a hanes o ddyled wael, a bod hyn yn rhan bwysig o'r broses hon. Gall hyn gael effaith niweidiol ar yr unigolyn ei hun ac arwain at gost ariannol fawr i'r Cyngor hefyd.

 

Amlinellodd swyddogion y broses os oes gan berson hawl i gael budd-dal tai. Mae'r budd-dal tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r Cyngor, felly mae'n anghyffredin i bobl fynd i ddyled. Fodd bynnag, os nad yw unigolyn yn derbyn budd-dal tai, mae angen polisi fel hyn er mwyn galluogi'r Cyngor i gymryd camau lle mae person yn gyfrifol am dalu ei rent ac nad yw'n ei dalu. Ochr yn ochr â rhent, codir tâl gwasanaeth gwerth oddeutu £16 yr wythnos y mae'n ofynnol i breswylwyr sy'n byw mewn llety dros dro ei dalu. Dan yr amgylchiadau hyn y bydd y ddyled yn codi'n aml gan fod pobl sy'n byw mewn llety dros dro’n gyfrifol am dalu'r tâl hwnnw'n uniongyrchol i'r Cyngor. Hyd yn hyn, ni fu llawer o oblygiadau os yw unigolyn yn methu gwneud taliadau rheolaidd i'r awdurdod. Bydd y polisi yn nodi fframwaith clir sy'n manylu ar sut bydd yr awdurdod yn gweithio gyda phobl sy'n cronni ôl-ddyledion yn ogystal â helpu pobl i beidio â mynd i ddyled yn y lle cyntaf.

 

Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd na fydd y polisi'n rhoi pobl ddiamddiffyn dan anfantais. Roedd swyddogion yn cydnabod bod pobl sy'n byw mewn llety dros dro ymhlith aelodau mwyaf diamddiffyn y gymuned yn aml. Dywedodd swyddogion na fyddai'r polisi'n cael ei weithredu nes y byddent yn fodlon bod popeth wedi'i wneud i geisio helpu'r unigolyn sy'n byw mewn llety dros dro i beidio â chronni ôl-ddyledion. Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o’r hyn a wneir cyn i rywun gael cynnig llety dros dro, er enghraifft nodi'r taliadau gofynnol, darllen drwy gontractau cysylltiedig ac ati, a hynny mewn ffordd sy'n eglur i'r unigolyn.

 

Pan fydd rhywun yn cael ei roi mewn llety dros dro, dyrennir Swyddog Cefnogaeth a Llety iddo. Ei rôl yw cyfathrebu â'r person a datblygu cynllun cymorth personol ar gyfer yr unigolyn hwnnw sy'n berthnasol i'w amgylchiadau bywyd.

Cadarnhaodd swyddogion fod ganddynt gysylltiadau â sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Hawliau Lles, a allai helpu i gefnogi'r unigolyn. Bydd y swyddog hefyd yn mynd gyda'r unigolyn i wahanol apwyntiadau i'w helpu i ddeall y cyngor a ddarperir o bosib. Ar ben hynny, gall y swyddog gyfeirio'r unigolyn i asiantaethau arbenigol sy'n rhoi cymorth ar ddyledion i’w helpu i reoli ei ddyledion. Mae'r awdurdod hefyd yn darparu cyrsiau ‘paratoi ar gyfer tenantiaeth’. Mae'r cwrs hwn yn helpu pobl i baratoi a meithrin y sgiliau i reoli cartref, er enghraifft cyllidebu. Mae cymorth hefyd yn cael ei ddarparu i helpu pobl i gael mynediad at gyflogaeth.

 

Rhoddodd swyddogion enghraifft lle na fyddai'r polisi yn cael ei weithredu. Gallai hyn ddigwydd pan fydd budd-daliadau'n cael eu hatal, gan atal yr unigolyn rhag gallu talu'r taliadau sy'n ofynnol ar gyfer llety dros dro mwyach. Gwnaeth y swyddog helpu'r unigolyn i adfer ei fudd-daliadau yn ogystal â gwneud ôl-daliad. Roedd hyn yn golygu y gallai'r person wedyn ad-dalu'r ôl-ddyledion.

 

Holodd yr aelodau faint o ôl-ddyledion sydd heb eu casglu ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion nad oeddent yn gwybod yr union gyfanswm ond bod rhai symiau amlwg heb eu casglu. Dywedodd swyddogion y gallent gael gafael ar y cyfanswm a'i ddosbarthu i'r aelodau.

 

Nododd yr aelodau y gefnogaeth helaeth a gynigir gan y gwasanaeth a oedd wedi cael ei hamlygu yn ystod y cyfarfod.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

 

Trefniadau Cyllid Grant Cymunedau Cynaliadwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Darparu Mannau Cynnes a Chroesawgar

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Gofynnodd yr aelodau am restr o'r mannau cynnes sydd ar gael i bobl ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r wybodaeth hon.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet

 

 


18/04/2024 - Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol ref: 4228    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2024 fel cofnod gwir a chywir.

 


18/04/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4233    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Y Cynghorydd H.C. Clarke – Eitem 13, Personol – mae cyfaill yn gweithio i sefydliad a nodwyd mewn adroddiad.

 

Y Cynghorydd S. Freeguard – Eitem 12, Personol – yn aelod o fwrdd sefydliad a nodwyd mewn adroddiad.

 


18/04/2024 - Chair's Announcements ref: 4227    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 26/06/2024

Effective from: 18/04/2024

Penderfyniad:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 


16/04/2024 - Construction Impact Assessment Summary ref: 4214    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Cyflwynodd Jon Burnes yr adroddiad i aelodau'r pwyllgor.

Nododd yr aelodau yn yr adroddiad fod y bwlch o £43 miliwn wedi ei ostwng i £12.75 miliwn o ran y mesurau lliniaru a nodwyd bod effaith chwyddiant wedi bod yn ddifrifol. Gofynnodd yr aelodau pa mor hyderus oedd swyddogion fod y bwlch o £12.75 miliwn ar draws y prosiectau cyfan yn gywir.

Dywedodd swyddogion mai amcangyfrifon yw'r rhain ar hyn o bryd a dyna pam mae'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru'n fisol. Mae swyddogion yn credu y bydd y bwlch yn cynyddu dim ond oherwydd mae caffaeliadau i ddod o hyd, a chostau i'w hamcangyfrif ar gyfer caffaeliadau eraill sydd wedi'u cynllunio.

Hysbyswyd yr aelodau ei bod yn annhebygol y byddai gostyngiad sylweddol mewn costau adeiladu a chwyddiant yn ystod y 2 flynedd nesaf. Dywedodd swyddogion fod angen iddynt reoli a lliniaru a lleihau'r bwlch gymaint â phosib. Maent yn hyderus ei fod mor gywir ag y gall fod ar hyn o bryd.

Esboniodd swyddogion mai Prosiect Morol Doc Penfro, Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, Yr Egin ac Isadeiledd Digidol yw'r pedwar prosiect sy'n rhan o'r bwlch £12.75 miliwn.

Hysbyswyd yr aelodau hefyd, pan ddaw mwy o gaffaeliadau i law, y gallai'r bwlch gynyddu, a datblygwyd rhai o'r achosion busnes sawl blwyddyn yn ôl.

Roedd gan yr aelodau gwestiynau ynghylch cam 2 Yr Egin a sut mae'r adroddiad yn sôn am y model cyflawni diwygiedig, gan nodi'r ddarpariaeth arfaethedig newydd o gyfleuster cynhyrchu rhithwir ar gampws Caerfyrddin. Roedd yr aelodau eisiau esboniad ynghylch pam, os yw'n brosiect newydd neu wedi'i ailwampio a fyddai'n costio £10.3 miliwn yn wreiddiol, y mae'r amcangyfrif presennol yn £12.9 miliwn a pham nad ydynt yn cael gwybod y dylai'r gwaith gael ei wneud o fewn y gyllideb wreiddiol o £10.3 miliwn?

Esboniodd swyddogion, er bod y syniad hwn ar gyfer Yr Egin wedi cael ei gyflwyno, nid yw wedi'i gymeradwyo a byddai angen cyflwyno cais am newid trwy grwpiau llywodraethu BDdBA. Roedd y ffigwr yn adlewyrchu eu meddylfryd presennol o ran faint y gallai cam dau gostio. Eglurodd swyddogion hefyd fod yr holl brosiectau'n cael eu llywodraethu gan yr amlen ariannol a oedd ganddynt o'r Fargen Ddinesig, ond hefyd gyfraniadau gan y sector preifat a chyhoeddus. Mae yna hefyd yr allbynnau, (darparu adeilad); a'r canlyniadau, fel swyddi, codiad cyflog, cynyddu gwerth tir. 

Nododd swyddogion fod Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r uwch dîm rheoli yn ystyried eu hymrwymiadau yn y dyfodol ar gyfer ymgymryd â phrosiectau cyfalaf gan gynnwys Cam 2 Yr Egin a'r Ganolfan Arloesi yng Nglannau Abertawe. Mae'r angen busnes a sefydliadol am isadeiledd ychwanegol hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses hon.

Eglurodd yr aelodau mai rhagfynegiad yn unig o'r hyn y byddai unrhyw newidiadau yn ei gostio yw'r cynnydd o 25%, ond nid yw'n bendant. Cadarnhaodd swyddogion mai syniad ar gyfer ateb cyflwyno yn unig ydyw, yn hytrach na rhywbeth sydd wedi'i roi ar waith.

Nododd yr aelodau hefyd nad oedd yr amcangyfrif o'r gost yn cynnwys arian y Fargen Ddinesig yn unig a'i fod hefyd yn cynnwys cyfraniadau cyllid gan bartneriaid eraill fel rhan o'r pecyn cyllido cyffredinol.

Nodwyd yr adroddiad.

 


16/04/2024 - Response from the Chair of the Swansea Bay City Region Joint Committee in relation to 'Gross Value Added' ref: 4210    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cadeirydd y llythyr. Nid oedd gan yr aelodau unrhyw gwestiynau.

 

Nodwyd y llythyr.


16/04/2024 - Change Control Procedure and Thresholds. ref: 4216    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr, BDdBA yr adroddiad ar Drothwyon Rheoli Newid arfaethedig ar gyfer cymeradwyo ac adrodd am ofynion newid y rhaglenni a'r prosiectau cysylltiedig o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe a rhannodd y weithdrefn Rheoli Newid ddiwygiedig.

 

Diolchodd yr aelodau i swyddogion am esbonio beth yw'r newid sylweddol.

 

Gofynnodd yr aelodau pwy sy'n eistedd ar y Bwrdd Cynghori Newid.

 

Eglurodd swyddogion fod y Bwrdd Cynghori Newid yn fwrdd y byddai swyddogion yn ei gychwyn pe bai angen. Ni fu angen amdano hyd yn hyn ond y math o bobl a fyddai'n eistedd arno fyddai Jonathan Burns (neu bobl o'r swyddfa bortffolio), efallai y bydd rhywun o'r bwrdd strategaeth economaidd neu'r bwrdd rhaglen, y grŵp gweithredol. Dywedodd swyddogion nad yw'n debygol o fod yn gyd-bwyllgor oherwydd nhw yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn gwirionedd, a byddai'n annhebygol o fod yn sefydliad cyflawni prosiect arweiniol oherwydd nhw yw'r rhai a fyddai'n darparu'r wybodaeth a fyddai'n cael ei phrofi a'i herio eto trwy Fwrdd Cynghori Newid.

 

Hysbyswyd yr aelodau nad oes digon o geisiadau am newid yn cyrraedd ar lefel gymeradwyo er mwyn cyfiawnhau'r bwrdd cynghori newid o reidrwydd ac er iddynt dderbyn sawl un , maent wedi cael eu cyflwyno i’r llywodraethau er mwyn eu cymeradwyo. Felly doedd dim pwynt cael Bwrdd Cynghori Newid yn y canol, ond mae byrddau cynghori newid yn arfer safonol ar gyfer y math yma o beth.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr ymweliadau safle a drefnwyd â safleoedd Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a'r ymweliad safle â Phrosiect Morol Doc Penfro gan eu bod wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac roedd aelodau'r pwyllgor yn teimlo ei bod yn dda gweld cymaint yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd. Gwnaeth yr aelodau longyfarch swyddogion ar y gwaith sy'n cael ei wneud.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 


16/04/2024 - Swansea Bay City Deal Portfolio Business Case Update. ref: 4215    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Darparodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr wybodaeth ddiweddaraf am Achos Busnes Portffolio'r Fargen Ddinesig yr oedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Gofynnodd yr aelodau pa mor gadarn yw'r achos busnes mewn termau ariannol.

Dywedodd swyddogion ei fod yn fforddiadwy o hyd, y mae'r achos busnes yn cadarnhau hyn. Fodd bynnag, mae heriau a mesurau lliniaru'n parhau ac mae risgiau a materion o hyd ar gyfer y rhaglen gyflawni ond ar hyn o bryd mae'n parhau i fod yn fforddiadwy ar draws yr holl raglenni a phrosiectau.

Gofynnodd yr aelodau a yw'r adroddiad yn gipolwg ar fisoedd yn ôl. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn seiliedig ar ffurflenni chwarter 3 2023/24.

Nododd yr aelodau y gallent gael diweddariad gwell yn y cyfarfod craffu nesaf lle gall aelodau ofyn am faterion fforddiadwyedd yr achos busnes.

Dywedodd swyddogion fod adroddiadau ariannol rheolaidd yn cael eu llunio bob chwarter. Ychwanegodd swyddogion hefyd, pan ysgrifennwyd yr achosion busnes sawl blwyddyn yn ôl, fod y gwerth i'r economi, y gwerth i'r darparwyr arweiniol, y rhanddeiliaid dan sylw a'r buddiolwyr ohono yn uwch heddiw nag yr oedd ychydig flynyddoedd yn ôl am sawl rheswm, mewn rhai achosion.

Defnyddiodd swyddogion yr enghreifftiau o'r Rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, yn benodol Canolfan Dechnoleg y Bae a’r prosiect datgarboneiddio dur (SWITCH). Mae'n debygol bod ganddynt bellach fwy o werth economaidd na phan ddatblygwyd yr achos busnes dair blynedd yn ôl. Mae hyn yn golygu, er y gall costau gynyddu, y bydd yr elw economaidd y bydd yr adeiladau hynny'n ei gynhyrchu yn uwch i'r rhanbarth.

Dywedodd swyddogion y bydd yn rhaid iddynt fod yn llwyr ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn yr ystyr hwnnw a nodwyd mai fforddiadwyedd yw'r peth pwysig, ac mae ganddynt fecanwaith i wirio hynny trwy'r monitro ariannol chwarterol yn ogystal â diweddariadau achosion busnes ymysg eraill, i sicrhau eu bod yn hyfyw ac yn fforddiadwy o hyd a'u bod yn cael eu cyflawni fel y cynlluniwyd.

Nododd yr aelodau, oherwydd y cychwynnwyd ar nifer o achosion busnes tua 2017, mae cymdeithas a'r byd busnes wedi newid yn llwyr. Gofynnodd yr aelodau pa mor berthnasol yw'r Fargen Ddinesig heddiw o ran yr hyn a gynhyrchwyd bryd hynny a'r hyn sydd yma nawr.

Dywedodd yr aelodau hefyd, er bod swyddogion yn ymgymryd â mesurau lliniaru i roi prosiectau mewn sefyllfa i gael y budd gorau o'r hyn sy'n cael ei wneud, roedd yr aelodau'n teimlo bod angen iddynt ddeall beth yw'r newid yn yr achos busnes hwnnw, fel eu bod yn gwybod beth sy'n cael ei wneud.

Cytunodd swyddogion â hyn a chyfeiriwyd at y weithdrefn rheoli newid sydd ar waith i nodi'r newidiadau hynny. Rhoddodd swyddogion yr enghraifft, ar gyfer Prosiect Morol Doc Penfro, nad oedd gwynt ar y môr yn rhan o'r prosiect yn wreiddiol. Ond aeth y prosiect trwy broses rheoli newid i ymgorffori hynny ynddo. Arhosodd yr amlen ariannol yr un peth ar gyfer y prosiect, ond newidiodd y ffocws, a'r hyn a fyddai'n digwydd wedyn yw byddai'r enillion ar hynny yn llawer uwch na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol. Cyfeiriodd swyddogion at SWITCH a nodwyd bod angen dwysach yn y rhanbarth oherwydd y sefyllfa gyda Tata Steel.

Dywedodd swyddogion fod yn rhaid i gam dau Yr Egin sicrhau ei fod yn hyfyw a'i fod yn cyd-fynd â busnesau ac anghenion y brifysgol a bod pob prosiect yn profi dulliau rheoli newid a bod swyddogion yn cefnogi'r prosiectau hynny trwy'r broses honno.

Dywedodd yr aelodau y bu brys i adeiladu swyddfeydd yn y gobaith ein bod yn dychwelyd i ddefnydd swyddfeydd cyn y pandemig, a'u bod yn pryderu nad oes llawer o dystiolaeth i brofi y bydd pethau'n dychwelyd i'r lefel honno. Roedd yr aelodau'n falch bod swyddogion yn ymchwilio ac yn adrodd yn ôl oherwydd dyna'r pethau parhaus a fydd o bwys ar ôl i'r holl brosiectau hyn gael eu hadeiladu'n wreiddiol.

Cytunodd swyddogion fod pwrpas yr adeiladau a'r math o le sydd ynddynt yn bwysig a defnyddiodd Yr Egin fel enghraifft, sydd wedi profi yng Ngham Un ei fod wedi bod yn agos at ddeiliadaeth lawn trwy gydol y pum mlynedd gyfan o weithredu. Mae gan Ganolfan Dechnoleg y Bae labordy y mae ei angen ar ddiwydiant ac mae rhandai Prosiect Morol Doc Penfro ar safle lle mae angen iddynt weithio mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill i roi technoleg yn y Môr Celtaidd. Dywedodd swyddogion fod rhesymau da dros gael y safleoedd hyn, ond mae'n ymwneud ag addasu a sicrhau bod yr hyn y cofrestrwyd ar ei gyfer ychydig flynyddoedd yn ôl yn hyfyw o hyd ac yn addasu ac yn sicrhau eu bod yn newid i angen y busnes.

Nodwyd yr adroddiad.


16/04/2024 - Swansea Bay City Deal Highlight Report. ref: 4213    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Bae Abertawe'r adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed ynghylch y rhaglenni a'r prosiectau a oedd yn rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu'r digwyddiad 'Cwrdd â'r Fargen Ddinesig' ac yn teimlo ei fod yn werth mynychu ar gyfer unrhyw fusnesau newydd a'i fod yn agoriad llygad i'r hyn sydd ar gael i fusnesau na fyddai llawer ohonynt byth wedi gwybod amdano pe na bai hyn wedi cael ei roi ar waith.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd fod yr ymweliad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Aberafan wedi bod yn gyfle diddorol i weld yr hyn sy'n digwydd ac mae'n gobeithio y bydd llawer mwy o'r adeiladau hyn yn cael eu hadeiladu i bobl elwa ohonynt.

 

Dywedodd swyddogion y gellid trefnu mwy o ymweliadau safle wrth i'r adeiladau eraill ar gyfer prosiectau fel y Matrics, Pentre Awel, a Ffordd y Brenin fynd ar-lein.

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

 


16/04/2024 - Campuses Project Update ref: 4212    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Cyflwynodd  Miles Willis, Rheolwr Datblygu Strategol ym Mhrifysgol Abertawe a phartner arweiniol y prosiect adroddiad a chyflwyniad PowerPoint cysylltiedig i roi gwybod i aelodau am y cynnydd a wnaed a statws Prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Rhoddodd drosolwg hefyd o sut maent yn cysylltu'r byd chwaraeon â'r byd meddygol a'r llwybr a gymerir ar gyfer hyn yw trwy'r byd technoleg sy'n cysylltu ag allbynnau'r fargen ddinesig o amgylch adfywio, edrych ar gynnwys  y gymuned ac iechyd cyffredinol pobl a chysylltu â busnesau fel busnesau newydd a thechnoleg chwaraeon.

 

Dywedodd yr aelodau fod caeau chwarae Ashley Road (Abertawe) o fewn meysydd ymddiriedaeth yn ogystal â chaeau chwarae'r Brenin Siôr V sy'n rhan o gaeau chwarae Ashley Road. Nododd yr aelodau fod y datblygiad yn cwmpasu Ashley Road yn ei chyfanrwydd a gofynnwyd beth yw'r broses gyfreithiol a ddilynwyd mewn perthynas â'r datblygiad a'r meysydd chwarae hyn gan eu bod yn cael eu defnyddio ar gyfer rygbi, criced a phêl-droed ac nid yw aelodau sy'n cynrychioli Abertawe wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn ystod eu cyfarfod o'r pwyllgor craffu.

 

Gofynnodd yr aelodau hefyd am ddatganiad Miles Willis yn y cyflwyniad fod gan yr ardal lawer o dir ac mae'n gymharol rad o gymharu â Rhydychen a Chaergrawnt, roedd aelodau eisiau gwybod beth roedd swyddogion yn ei olygu wrth hynny a ble roedden nhw'n sôn amdano?

 

Esboniodd swyddogion fod perchnogaeth gymysg ar waith yng Nghaeau chwarae Ashley Road sy'n cynnwys nid yn unig Prifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe ond trydydd partïon hefyd. Esboniodd swyddogion eu bod wedi cydnabod hyn yn ystod y broses ac nid oes ganddynt unrhyw fwriad i wneud unrhyw beth ar feysydd chwarae'r Brenin Siôr.

 

Hysbyswyd yr aelodau eu bod yn rhan o ymddiriedolaeth a bod y draenio'n wael, sy'n golygu nad yw plant yn gallu chwarae pêl-droed yno. Dywedodd swyddogion y byddant yn gwneud unrhyw beth y gallant ei wneud i helpu gyda'r broses honno a dywedwyd bod y caeau wedi dioddef am gyfnod oherwydd diffyg buddsoddiad.

 

Dywedodd swyddogion y byddant yn gwneud unrhyw beth y gallant ei wneud ynghylch y cyfleusterau newid gwael wrth gadw statws ymddiriedolaeth y safle mewn cof.

 

Eglurodd swyddogion hefyd y byddai hyn yn deillio o ddarn o waith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda chyllid y gronfa ffyniant gyffredin ynghylch yr hyn y gall y Cyngor a'r brifysgol ei wneud yn yr achos hwn mewn perthynas â'r tranc hwnnw. Dyna pam roedd Miles Willis yn cynnwys caeau chwarae Brenin Siôr V yn ogystal â thir y brifysgol ei hun a thir y Cyngor.

 

Dywedodd Miles Willis ei fod yn obeithiol y gallai dawelu unrhyw ofnau eu bod yn bwriadu adeiladu yno ac nid oes ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i wneud hynny, ond bydd y brifysgol yn gwneud beth bynnag y gall wneud i helpu gyda'r ongl gymunedol honno, a bydd yn gwneud ei gorau glas i weithio gyda'r Cyngor i wneud hynny.

 

Mewn perthynas â'r cwestiwn ynghylch tir, dywedodd Miles Willis, yn yr ymgynghoriad â'r cwmni Archus, nodwyd ym mhle y mae cwmnïau chwaraeon a thechnoleg feddygol y sector preifat wedi'u lleoli a sut i'w denu i ardal Abertawe. Mae Rhydychen a Chaergrawnt yn y triongl euraidd lle byddai'r cwmnïau hyn am roi ffatrïoedd ond nid ydynt yn gallu dod o hyd i leoliadau addas yno gan nad oes lle na digon o dir rhad ar gael.

 

Mewn cymhariaeth, mae gan Abertawe ddigon o dir cymharol rad a defnyddiwyd Felindre fel enghraifft i ddangos y gallant bartneru â sefydliadau academaidd a phartneriaid masnachol a gweithio gyda nhw a dweud wrthynt am ddod i'r rhanbarth ac edrych ar y mathau o leoedd sydd ar gael. Nid yw swyddogion wedi gwneud gwaith cysylltu tir yno, ond maent yn gweithio gyda'r Cyngor i ddeall ble mae'r mannau hyn, o faint ffatri mawr i uned fach.

 

Nododd Miles Willis fod gan Ganolfan Dechnoleg Baglan, a agorwyd yn ddiweddar fel rhan o'r fargen ddinesig, dri chwmni sydd naill ai'n deillio o'r brifysgol neu sydd wedi'u datblygu yn y brifysgol. Hysbyswyd yr aelodau fod gan y brifysgol rôl i'w chwarae yn hyn i gyd ac yn enwedig os yw'n gweithio gyda phrosiectau fel 'Tramshed' sy’n rhan annatod ohono. Mae angen i'r brifysgol gydnabod hynny fwy ac mae angen iddi benderfynu sut i symud y busnesau hyn i'r cam nesaf, o'r labordai deori i ffatri oherwydd dyna lle bydd y swyddi ar gael.

 

Yr wybodaeth am y farchnad y mae swyddogion wedi'i derbyn yw bod angen i gwmnïau technoleg chwaraeon a thechnoleg meddygol yn benodol gael eu hymgorffori mewn prifysgol neu mewn ysbyty trwy gysylltu ag athrawon a chlinigwyr, dyna beth sydd ei angen yn ôl swyddogion.

 

Nodwyd yr adroddiad.


16/04/2024 - Pembroke Dock Marine Update ref: 4211    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Rhoddodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau gyflwyniad i'r aelodau mewn perthynas ag adroddiad diweddaru Prosiect Morol Doc Penfro. Diolchodd i'r aelodau a oedd wedi mynychu'r ymweliad safle â Doc Penfro ym mis Ionawr.

 

Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â'r meysydd canlynol.

1) Diweddariad am gynnydd Prosiect Morol Doc Penfro;

2) Canlyniad Adolygiad Gateway Prosiect Morol Doc Penfro, gan gynnwys argymhellion a chamau gweithredu lliniarol;

3) Adendwm achos busnes Prosiect Morol Doc Penfro.

4) Hysbysiadau newid a dderbyniwyd gan Brosiect Morol Doc Penfro.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r aelodau i'r swyddogion am yr ymweliad safle â Doc Penfro gan ddweud ei fod wedi bod yn addysgiadol ac yn werth chweil gweld yr hyn a ddatblygwyd.   

 

Nododd yr aelodau mai cam hanfodol o’r prosiect oedd yr elfen fasnacheiddio a gofynnwyd am y cynnydd ynghylch ceisio cael partneriaid masnachol i gymryd rhan, ac yn benodol o ran yr unedau, a oes unrhyw swyddi gwag eraill?

 

Hysbyswyd yr aelodau, pan roedd swyddogion yn ymwybodol bod yr asedau bron â'u cwblhau, eu bod wedi dechrau ymgyrch rwydweithio a oedd yn cynnwys mynd i Iwerddon, Ewrop a Lloegr yn ogystal â siarad â'r holl ddatblygwyr gwahanol mewn cynadleddau sy'n arddangos pryd y bydd yr asedau'n barod.

 

Edrychodd swyddogion ar nodi marchnadoedd o ran deall pryd roedd gwynt ar y môr sefydlog yn dechrau yn Iwerddon, a defnyddiwyd yr esiampl ar gyfer 'Aráe Dulyn'. Nododd swyddogion pwy yr oedd yn ennill y cystadlaethau hynny ar gyfer Aráe Dublin ac yn marchnata'r asedau hynny'n uniongyrchol i'r mathau hynny o sefydliadau.

Dywedodd swyddogion fod y canlyniadau hyd yma wedi bod yn gymysg ond nid yw'n mynd yn wael am y flwyddyn gyntaf. Esboniodd swyddogion fod cwmni sy'n adeiladu cychod/cwmni atgyweirio yn defnyddio'r llithrfa fawr. Erbyn hyn mae gan y cwmni hwnnw 67 metr o lithrffordd ac oherwydd eu craen, maent yn gallu creu hyd yn oed mwy o le. Mae hyn yn fwy na'r 20 metr o lithrffordd a oedd ganddynt yn flaenorol.

 

Dywedodd swyddogion fod rhai datblygwyr ton a llanw wedi mynegi diddordeb, fodd bynnag, mae'r prawf a'r arddangosiad ar gyfer y gwynt ar y môr arnofiol 400 MegaWat yn cael ei oedi ac nid oes yr un o'r datblygwyr wedi dechrau ar y rownd Contract ar gyfer Gwahaniaeth cynhyrchu trydan carbon isel. Roedd swyddogion wedi gobeithio y byddai'n gyfle uniongyrchol.

 

Hysbyswyd yr aelodau fod rhai pontynau wedi'u hychwanegu at gefn pont lwytho'r fferi ac mae'r archebion cyntaf wedi'u derbyn, gydag eitemau'n cael eu gosod yn eu herbyn yr wythnos hon.

 

Mae datblygwr hydrogen ar y cam statws penawdau telerau drafft gyda swyddogion.

 

Cynghorwyd yr aelodau ei bod hi'n drueni bod y cais Cynllun Buddsoddi Gweithgynhyrchu Gwynt ar y Môr Arnofiol wedi'i wrthod oherwydd pe bai wedi'i dderbyn, byddai gwaith ar ochr arall y porthladd wedi dechrau ar unwaith a byddai wedi creu cyfleuster integreiddio y byddai galw amdano erbyn hynny yn ôl pob tebyg gan y datblygwyr profi ac arddangos ar gyfer eu hangorfeydd newid angorau. Gallai'r elfen honno fod ychydig ymhellach i ffwrdd o ganlyniad. Mae swyddogion yn ceisio dod o hyd i gyllid amgen ar gyfer hynny, ond mae eu huchelgais yr un peth ac maen nhw'n mynd i weithio ychydig yn galetach.

 

Hysbyswyd yr aelodau fod y rhandy mwyaf sydd ynghlwm wrth y sied awyrennau yn dal i fod ar gael, ac ar hyn o bryd mae opsiynau ar gyfer hynny'n cael eu hystyried. Mae gan y ddwy uned lai yn yr adeilad hwnnw un brydles ac mae un arall bron ar brydles ond yn aros am lofnodion contract.

 

Roedd 'Booster' wedi cymryd y rhandy ar ochr ddwyreiniol y porthladd sy'n golygu bod 3 allan o 4 naill ai ar brydles neu’n mynd i gael eu prydlesu, gydag un gwag ar y lleiaf.  

 

Nodwyd yr adroddiad.


16/04/2024 - Eitemau brys ref: 4218    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.


16/04/2024 - Forward Work Programme 2023/24 ref: 4217    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Nododd aelodau'r pwyllgor y Flaenraglen Waith.


16/04/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4209    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.


16/04/2024 - Chair's Announcements ref: 4208    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 16/04/2024

Penderfyniad:

Mae'r Gwasanaethau Democrataidd wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Cyng. J Beynon, y Cyng. J Curtice a'r Cyng. G Morgan.


06/03/2024 - Craffu Cyn Penderfynu ref: 4033    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Cynigion y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau am y gwahaniaeth mewn incwm net o'r ffigurau yn yr adroddiad a ymgynghorwyd arnynt a'r adroddiad i'w ystyried yn ystod y cyfarfod. Nodwyd bod y bwlch yn y gyllideb wedi lleihau tua £230,000 rhwng y ddau adroddiad. Fodd bynnag, mae lefel treth y cyngor y mae ei hangen i gau'r bwlch hefyd wedi lleihau o 10.3% i 7.9%. Holodd yr Aelodau sut y penderfynwyd ar y cyfrifiadau mewn perthynas â'r incwm a nodir yn y ddau adroddiad a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y rhagolygon ar gyfer yr incwm yn gywir.

 

Dywedodd swyddogion fod cynigion drafft y gyllideb yn nodi y gallai treth y cyngor gynyddu i oddeutu 10% ond nid oedd cynnig penodol yn cael ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad o ran y ffigur y mae ei angen i gau'r bwlch. Mae'r rheswm dros y gwahaniaeth sylweddol yn ymwneud â rhagdybiaethau ynghylch cynllun cymorth treth y cyngor. Ym mis Rhagfyr defnyddiwyd ymagwedd ddarbodus wrth ymdrin â'r ffigurau gydag amcangyfrif darbodus iawn o dreth y cyngor net. Pan gyrhaeddodd y ffigurau, roedd modd mewnbynnu'r rhain yn ôl yr angen, a oedd yn adlewyrchu costau sylweddol llai cynllun gostyngiadau treth y cyngor.

 

Roedd y swyddog yn hyderus bod y ffigyrau yn yr adroddiad yn ddarbodus ac y gellir bodloni treth y cyngor o 7.9%.

 

Dywedodd swyddogion na fyddai adroddiad manwl gywir yn bosib yn ystod mis Rhagfyr gan fod yr adroddiad manwl diweddarach yn ei gwneud yn ofynnol i Capita fewnbynnu'r newidiadau amrywiol i ffigurau budd-daliadau yn y meddalwedd yn allanol er mwyn cwblhau'r adroddiadau gofynnol.

 

Gofynnodd yr Aelodau i'r newidiadau rhwng y ddau adroddiad gael eu hamlinellu'n glir. Cytunodd swyddogion i nodi'r pwyntiau a wnaed mewn perthynas ag amlinellu'n glir lle mae'r ffigurau'n ddarbodus a lle dengys ffigurau achos gwaethaf, dylid tynnu sylw at hyn yn yr adroddiad gydag esboniad. Bydd swyddogion yn sicrhau bod y syniadau hyn yn cael eu cynnwys yn adroddiadau'r flwyddyn nesaf.

 

Holodd yr Aelodau am nifer yr ymatebion a dderbyniwyd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac a oedd ffordd o gynyddu cyfranogiad, trwy edrych efallai ar yr hyn y mae awdurdodau lleol eraill yn ei wneud.

 

Dywedodd swyddogion fod 581 o ymatebion wedi cael eu derbyn rhwng holiaduron papur ac ar-lein y llynedd o'i gymharu â'r 556 o holiaduron a gwblhawyd eleni. Daeth 13 o ymatebion i law drwy e-bost/llythyr y llynedd o'i gymharu â 6 eleni.  Y llynedd fe wnaeth 225 o weithwyr CNPT ymgysylltu â'r ymgynghoriad o'i gymharu â 146 eleni. Y llynedd, daeth 147 o bobl i gyfarfodydd ond 52 yn unig daeth i gyfarfodydd eleni. O ran gweithio gyda Chynghorau eraill, cadarnhaodd swyddogion eu bod yn rhan o weithgorau a oedd yn trafod ffyrdd amrywiol o ymgysylltu â dinasyddion. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y cyfnod ymgynghori wedi digwydd dros y Nadolig y llynedd. Eleni roedd hyn allan o reolaeth swyddogion oherwydd amseru'r cyhoeddiad setliad felly doedd dim modd osgoi cynnal yr ymgynghoriad dros y Nadolig. Cadarnhaodd swyddogion hefyd yn y dyfodol y byddent yn ceisio ymgysylltu â digwyddiadau cymunedol i annog cyfranogiad, os yw'r cyfnod ymgynghori'n caniatáu hyn. Hefyd, ar hyn o bryd mae yna ymgyrch barhaus i recriwtio i Banel y Dinasyddion. Mynegodd yr Aelodau eu bod yn awyddus i sicrhau ymgysylltiad priodol â'r cenedlaethau iau ac awgrymwyd efallai y gellid gwneud mwy o waith mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Cadarnhaodd swyddogion mai'r uchafswm ar gyfer swm yr arian a drosglwyddwyd mewn blwyddyn yw £100,000 ar gyfer cyfarwyddwyr corfforaethol, £250,000 ar gyfer y Cabinet a £500,000 ar gyfer y Cyngor. Mae cyllideb cronfa refeniw gwerth £2.8 miliwn mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau dinesig ac ysgolion. Amlinellodd yr aelodau eu dealltwriaeth fod £1.5m wedi'i ddyrannu i Gyfarwyddiaethau yr Amgylchedd ac Addysg. Mae'n ymddangos bod y cyllid sy'n weddill wedi'i drosglwyddo i Raglenni Cyfalaf. Holodd yr Aelodau pryd y gwnaed y penderfyniad a phwy oedd wedi'i awdurdodi. Cadarnhaodd swyddogion fod y £2.8m yn parhau i fod yn y gyllideb refeniw ar gyfer 23/24 lle cafodd ei awdurdodi gyntaf ac na chafodd ei drosglwyddo i gyllidebau eraill. Cadarnhaodd swyddogion fod £1.5m o'r gyllideb wedi cael ei wario fel y cytunwyd o fewn Cyfarwyddiaethau'r Amgylchedd ac Addysg, defnyddiwyd 700k ar gyfer cronfeydd wrth gefn a rhagwelir y bydd tanwariant o 600k. Cadarnhaodd swyddogion na fu unrhyw drosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn o'r gyllideb honno gwerth £2.8m.

 

O ganlyniad i'r un taliad, derbyniodd Addysg daliad untro o £721,000 i helpu gyda thlodi tanwydd mewn ysgolion. Mae gan gostau ynni mewn ysgolion gyfanswm o £4.7mllion ar draws y fwrdeistref. Roedd yr Aelodau'n pryderu na fydd yr ysgolion yn cael eu hariannu i lefel ddigonol i atal tlodi tanwydd wrth symud ymlaen a bydd hyn hefyd yn arwain at ddiffyg gallu cyflawni'r cynllun datblygu ysgolion, lle bydd cronfeydd wrth gefn yn cael eu dileu yn y bôn.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr Addysg ei bryderon ynghylch lefelau diffygion mewn rhai ysgolion. Mae gan bob ysgol sydd mewn diffyg ar hyn o bryd gynllun adfer. Cadarnhaodd swyddogion yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion y llynedd, roedd cynnydd o 50% ers cyllidebau'r flwyddyn flaenorol. Mae costau tanwydd ar gyfer ysgolion yn sicr yn uwch na'r hyn a roddwyd yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion hyd yn oed gyda'r ychwanegiad a ddarparwyd. Byddai'r diffyg cyllid yn cyfrannu at orwariant cyffredinol pob ysgol. Gellir priodoli peth o'r gorwariant i ysgolion sy'n parhau i wario eu cronfeydd wrth gefn ar adfer o COVID-19 ac mae rhai ysgolion yn cael trafferth wrth gydbwyso eu cyllidebau o ganlyniad i gostau mewn perthynas ag ariannu anghenion dysgu ychwanegol.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn ymwybodol o un ysgol a oedd wedi dechrau'r flwyddyn ariannol gyda £12,000 dros ben ond eu bod wedi rhagweld y bydd ganddynt ddiffyg o £95,000 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y lefel hon o ddyled pe bai'n cael ei luosi ar draws y fwrdeistref drwy ysgolion amrywiol a nodwyd y pryderon a godwyd gan y Cyfarwyddwr o ran cynaliadwyedd rhai elfennau o'r gyllideb ar gyfer y dyfodol.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y posibilrwydd o golli staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu gan ei bod yn bosib na fydd ysgolion yn gallu fforddio parhau i'w cyflogi o fewn y cyllidebau a ragwelir.

 

Dywedodd swyddogion fod y materion a godwyd yn digwydd ar draws Cymru a bydd angen eu rheoli wrth symud ymlaen. Bydd ysgolion sydd mewn diffyg yn peri risg i'r awdurdod. Mae amrywiaeth yr ysgolion sydd ag arian dros ben a'r ysgolion sydd mewn diffyg ar draws yr awdurdod yn eithaf eang. Bydd llawer o'r materion hyn yn cael eu hystyried mewn adolygiad cynaliadwyedd sydd i'w gynnal.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.

 

 

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2024/25 i 2026/27

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Nododd yr Aelodau nad yw'r gronfa Codi'r Gwastad yn cynnwys y ddau gynllun ychwanegol ym Mhort Talbot y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn a holwyd a oedd rheswm eu bod wedi'u hepgor o'r rhaglen gyfalaf ar hyn o bryd. Cadarnhaodd swyddogion mai'r ffordd y mae'r Gronfa Codi'r Gwastad yn cael ei rheoli gan Lywodraeth y DU yw eu bod yn eich cynghori os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus, ac yn yr achos hwn roedd dau brosiect yn llwyddiannus a derbyniwyd cadarnhad bod y cynigion wedi bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'r awdurdod wedi derbyn cadarnhad hyd yn hyn o'r cytundeb ariannu ffurfiol gan Lywodraeth y DU a nes y derbynnir hyn, ni ellir ymgorffori'r prosiectau yn y rhaglen gyfalaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad mewn perthynas â rhai eitemau, yn enwedig mewn perthynas â Rheoli Rhwydwaith y Llwybr Dosbarthu Ymylol a Phont Bwydo Dock Road a hefyd beth sydd wedi'i gynnwys o dan Gynlluniau Adfywio Eraill? Cadarnhaodd swyddogion o ran y Llwybr Dosbarthu Ymylol bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud o amgylch y gylchfan ym Margam wrth y fynedfa gwaith gan fod rhywfaint o ddifrod i'r ffordd gerbydau yn y lleoliad. O ran y bont mae angen mân atgyweiriadau i'r concrit a gwelliannau/atgyweiriadau i'r rhwystrau yno. Mae'r gwaith y cyfeirir ato'n cael ei ariannu gan yr hyn sy'n weddill o arian y Llwybr Dosbarthu Ymylol a dderbyniwyd.

 

Dywedodd swyddogion, mewn perthynas â'r prosiectau sy'n cael eu cynnwys yng nghynlluniau adfywio eraill y byddant yn dosbarthu rhestr sy'n amlinellu manylion y prosiectau  yn dilyn y cyfarfod.

 

Gwnaeth yr Aelodau ymholiadau gan gyfeirio at ailddyrannu arian a oedd yn ymwneud â Hwb Trafnidiaeth Castell-nedd a'r ffaith bod sôn am broblemau gydag adleoli safleoedd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â hyn. Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw newidiadau sylweddol y mae angen i aelodau fod yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â'r prosiect. Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol. Ar hyn o bryd mae gwaith i ymchwilio i'r safle'n cael ei wneud a chaiff hyn ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Gan gyfeirio at hen adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid ger Llys yr Ynadon, holodd yr aelodau a oedd hwn yn gynllun swyddfa arall yr oedd yr awdurdod yn bwriadu ei gyflawni? Cadarnhaodd swyddogion fod yr adeilad wedi'i leoli o fewn ardal glannau'r harbwr a bod yr awdurdod yn prynu ac yn adnewyddu'r adeilad ar sail hapfasnachol gan fod galw mawr yn yr ardal hon am lety swyddfa.

 

Holodd yr aelodau a oes unrhyw ddyraniad cyfalaf ar gyfer parciau a meysydd chwarae? Cadarnhaodd swyddogion y dyraniad presennol o dan y Cynllun 'Clean Up, Green Up', a bydd yr holl waith mewn perthynas â hyn o ran parciau a meysydd chwarae yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, ac eithrio'r maes chwarae sydd wedi'i leoli ar draeth Aberafan. Fodd bynnag, cadarnhaodd swyddogion nad oes dyraniad penodol o dan y dyraniadau arfaethedig ar gyfer gwella meysydd chwarae dros y flwyddyn sydd i ddod. Cadarnhaodd swyddogion y bydd gwaith cynnal a chadw ar asedau presennol yn parhau.

 

Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion egluro union leoliad y gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r Llwybr Dosbarthu Ymylol. Cytunodd y Swyddog i egluro a dosbarthu'r wybodaeth hon i'r aelodau.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.

 

 

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol a Pholisi Darparu Isafswm Refeniw

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Ni chodwyd unrhyw gwestiynau yn ystod y cyfarfod.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.

 

 


06/03/2024 - Eitemau brys ref: 4034    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 


06/03/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4032    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

 


06/03/2024 - Cyhoeddiad y Cadeirydd ref: 4031    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/06/2024

Effective from: 06/03/2024

Penderfyniad:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 


08/05/2024 - Eitemau brys ref: 4267    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/05/2024 - Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/06/2024

Effective from: 08/05/2024

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 


08/05/2024 - Pre-Decision Scrutiny - Pontardawe Swimming Pool ref: 4268    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/05/2024 - Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/06/2024

Effective from: 08/05/2024

Penderfyniad:

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth aelodau eu bod yn gallu cyfeirio at benderfyniadau blaenorol a wnaed ar yr amod bod unrhyw gwestiynau'n berthnasol i'r adroddiad dan ystyriaeth.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes drosolwg byr i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ynghylch cryfder llethol y teimlad yn y gymuned ynghylch dyfodol y pwll nofio. Gofynnodd yr Aelodau, o ystyried y defnydd cymunedol sylweddol a amlinellir yn yr adroddiad, sut y bydd cau'r pwll yn effeithio ar hygyrchedd gwasanaethau i breswylwyr a pha fesurau sydd wedi'u harchwilio i fynd i'r afael â phryderon diogelwch, gan sicrhau mynediad di-dor at gyfleusterau nofio ar gyfer y gymuned.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai effaith niweidiol ar grwpiau defnyddwyr sy'n gysylltiedig â'r pwll. Byddai rhaglenni'n cael eu hadleoli i gyfleusterau hamdden lleol eraill wrth liniaru. Mae'r angen am gyfleuster newydd yn ddiamheuol ond ar hyn o bryd nid oes cyllid dynodedig ar gael. Mae cynllun propio ar waith ar hyn o bryd sydd wedi galluogi'r cyhoedd i barhau i'w ddefnyddio. Mae'r cynllun hwn yn cael ei fonitro a'i adolygu'n annibynnol yn gyson ond bu dirywiad sylweddol yn ffabrig tanc y pwll.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch amseroedd teithio hirach posib ar gyfer preswylwyr sydd am gael mynediad at gyfleusterau amgen a gofynnwyd a fydd unrhyw strategaethau'n cael eu hystyried i liniaru unrhyw effeithiau negyddol posib ar iechyd a lles cymunedol, yn enwedig unigolion diamddiffyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau bod data'n cael ei gadw sy'n dangos bod gan rai defnyddwyr presennol gyfleusterau amgen yn agosach at eu cartrefi a rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu defnyddio. Bydd effeithiau posib eraill yn cael eu codi mewn unrhyw gyfleuster newydd os yw'n briodol. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn nodi'r lleoliad gorau ar gyfer pwll newydd a'r opsiynau ariannu sydd ar gael.

 

Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw fanylion pellach am gyllid grant posib neu ffynonellau cyllid amgen ar gael, yn dilyn y trafodaethau rhagarweiniol a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod yr holl opsiynau'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd ond bod nifer cyfyngedig o gyrff ariannu posib. Ni nodwyd unrhyw gyllid ar hyn o bryd.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant y cynhaliwyd trafodaethau rhagarweiniol gyda Llywodraeth Cymru ac roedd y rhain yn canolbwyntio ar leoliadau posib.

 

Gofynnodd yr Aelodau i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth presennol mewn awdurdodau cyfagos mewn unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar gymysgedd y cyfleuster a byddai pob grŵp defnyddiwr yn rhan o unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelodau'n cydnabod yr effaith sylweddol y byddai cau'r pwll yn ei chael ar y gymuned ehangach a'r staff a allai gael eu had-leoli. Holodd yr aelodau a fydd unrhyw gymorth ar gael i ysgolion mewn perthynas â chostau cludiant uwch. Gofynnodd yr Aelodau am yr amserlen ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb ac a fyddai ymgynghoriad llawn ynghylch lleoliad a dyluniad unrhyw bwll posib yn y dyfodol pe bai'r argymhellion yn cael eu derbyn.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod Prif Weithredwr dros dro Hamdden Celtic wedi rhoi sicrwydd na fyddai ymddiswyddiadau gorfodol. Mae pob ysgol wedi cael gwybod am y cynigion a bydd Hamdden Celtic yn cysylltu ag ysgolion ynghylch safleoedd adleoli posib. Mae yna hyder rhesymol y gellir lletya'r rhan fwyaf o ysgolion. Ni fydd unrhyw gyfraniad gan yr awdurdod mewn perthynas ag unrhyw gostau cludiant ychwanegol. Os caiff yr argymhellion eu cymeradwyo, gwneir trefniadau i dendro a phenodi contractwr i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb gyda'r nod o lunio adroddiad erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd problemau ym Mhwll Nofio Pontardawe wedi'u canfod cyn 2022.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod adroddiadau a oedd yn ymwneud â chyflwr Pwll Nofio Pontardawe wedi'u cwblhau cyn 2022.

 

Dywedodd yr Aelodau fod angen i brif drefi'r fwrdeistref gael eu pyllau nofio eu hunain ac nid oedd yr adroddiad yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd pwll newydd yn cael ei adeiladu ym Mhontardawe.

 

Cydnabu'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod angen pwll ym Mhontardawe, diben yr astudiaeth ddichonoldeb yw sefydlu'r lleoliad gorau posib, cymysgedd y cyfleuster ac atebion ariannu posib. Ar hyn o bryd, ni ellir sicrhau pwll newydd oherwydd y diffyg cyllid sydd ar gael.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch dosbarthiadau sydd wedi'u dadleoli sy'n trosglwyddo i Bwll Nofio Castell-nedd a gostyngiad posib yn argaeledd nofio cyhoeddus.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod capasiti ym Mhwll Nofio Castell-nedd ar hyn o bryd. Mae unrhyw ostyngiad mewn argaeledd yn gysylltiedig â lle yn y pwll yn hytrach na'r amseroedd sydd ar gael. Nodwyd bod gan Hamdden Celtic swyddi gwag ar hyn o bryd ac mae rhai swyddi'n anodd eu llenwi. Gall ail-leoli staff ganiatáu i Bwll Nofio Castell-nedd amrywio amseroedd agor, fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y defnydd sy'n anhysbys ar hyn o bryd.

 

Holodd yr aelodau a oedd y defnydd o'r pwll yn Ysgol Gymunedol Llangatwg wedi cael ei ystyried.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant fod y pwll yn Llangatwg wedi cael ei ystyried ond ei fod yn weddol fach, nid oedd ar gael yn ystod oriau ysgol ac roedd llawer o drefniadau preifat y tu allan i oriau ysgol. Mae'r defnydd o byllau yn Ysgol Maes y Coed a David Lloyd hefyd wedi cael ei archwilio.

 

Mynegodd yr aelodau bryder y gallai cyllidebau ysgolion effeithio ar gyfleoedd plant i ddysgu nofio os gofynnir i rieni am gyfraniadau ariannol. Nododd yr aelodau ei fod yn bwysig bod pob plentyn yn cael cyfle i ddysgu nofio a bod angen olrhain nifer y disgyblion sy'n manteisio ar y cyfle.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y bydd modd olrhain nifer y disgyblion sy'n dewis derbyn gwersi nofio. Gan fod gan ysgolion reolaeth dros eu cwricwlwm, bydd rhywfaint o hyblygrwydd ar waith i alluogi defnyddio slotiau.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai cynnwys yr astudiaeth ddichonoldeb yn ystyried defnyddiau ategol o unrhyw adeilad yn y dyfodol i leihau costau gweithredu'r pwll.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai gan unrhyw gyfleuster newydd effeithlonrwydd ynni gwell. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn archwilio'r holl opsiynau i leihau diffyg gweithredol a'u heffaith ar unrhyw atebion ariannol posib.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 7 yr adroddiad a gofynnwyd a oedd ymwybyddiaeth o'r angen i ystyried darpariaeth cyfleusterau pwll yn y dyfodol cyn adroddiad ARUP. Os felly, pa gamau a gymerwyd i gyflawni hyn, o ystyried y bywyd cyfyngedig hysbys sydd gan y math hwn o adeilad.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, fod ymwybyddiaeth o gyflwr yr adeilad cyn adroddiad ARUP, yr ateb oedd y cynnig i ad-drefnu ysgolion ac na chafodd hyn ei ddatblygu.

 

Holodd yr aelodau ynghylch yr oedi wrth symud ymlaen gyda chynnig pellach.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, yn ystod y flwyddyn ers i'r penderfyniad ar y cynnig ad-drefnu ysgolion gael ei wneud, cynhaliwyd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac mae swyddogion wedi archwilio atebion posib ar gyfer ariannu ond ni nodwyd unrhyw atebion. Mae gallu cyfyngedig i drefnu i fwrw ymlaen â chynlluniau cyfalaf.

 

Dywedodd yr Aelodau y gallai'r amser a gymerir i gynnal astudiaeth ddichonoldeb achosi oedi pe bai cyllid ar gael a gofynnwyd a oedd y pwll nofio ym Mhontardawe yn cael ei ystyried fel blaenoriaeth. Gofynnodd yr aelodau pam na chafodd y pwll nofio ei ystyried fel cynllun cyfalaf o dan gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio na fyddai cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu cyllid digonol ar gyfer cyfleuster newydd. Gwnaed ymdrechion i sicrhau bod cyfleoedd ariannu yn cael eu lledaenu ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Dywedodd yr Aelodau y gallai cost yr astudiaeth ddichonoldeb fod wedi cael ei dalu gan gais am gyllid. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw un wedi cysylltu â CBS Sir Gaerfyrddin ynghylch y defnydd o'i bwll yn Rhydaman ac a fyddai unrhyw gymorth ychwanegol ar gael mewn perthynas â chostau cludiant ysgol uwch. A fydd unrhyw arian a godir o'r safle presennol yn cael ei glustnodi? Dywedodd yr Aelodau fod trigolion ym Mhontardawe wedi mynegi pryderon y byddai lleoliad y pwll presennol yn anaddas ar gyfer cyfleuster newydd oherwydd materion parcio a thraffig, a gofynnwyd i hyn gael ei ystyried ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant Hamdden fod cyswllt cychwynnol wedi'i wneud â Sir Gaerfyrddin a gellir ailymweld â'r cyswllt hwn. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod y rhaglen nofio ysgolion yn cael ei hariannu gan yr awdurdod ond nad oedd cynnig i ariannu costau teithio. Mae angen yr astudiaeth ddichonoldeb i nodi lleoliad addas gan fod y problemau parcio yn rhai hirsefydlog. Bydd gwerth cyfalaf y safle yn cael ei gynnwys mewn unrhyw becyn ariannu y gellid ei gyflwyno ar gyfer pwll newydd yn y dyfodol.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai'r Cylch Gorchwyl sy'n ymwneud â'r astudiaeth ddichonoldeb ar gael.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai manyleb yr astudiaeth ddichonoldeb ar gael. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, o dan y model craffu diwygiedig, y gallai'r pwyllgor edrych ar y mater hwn o fewn cylch gwaith y pwyllgor craffu wrth symud ymlaen.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 11 yr Asesiad Effaith Integredig a mynegwyd pryder ynghylch yr effeithiau negyddol ar yr holl nodweddion gwarchodedig, ond roeddent yn cydnabod y rhesymau iechyd a diogelwch dros gau'r pwll. Holodd yr aelodau am y derminoleg a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad ynghylch adleoli staff a gofynnwyd a fydd y penderfyniad i oedi wrth symud Hamdden Celtic i fod yn fewnol yn effeithio'n uniongyrchol ar y gweithlu. Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 9 yr adroddiad a mynegwyd pryderon ynghylch gallu Pwll Nofio Castell-nedd i ymdopi â'r galw a'r gofynion. Gofynnodd yr Aelodau, o ystyried nifer y rhybuddion mewn adroddiadau blaenorol am ddiffyg cyllid, am y tebygolrwydd o sicrhau cyllid i adeiladu pwll nofio newydd yn y cymoedd a fydd yn gwasanaethu trigolion Cwm Tawe Uchaf a chymoedd Aman a Llynfell. Awgrymodd yr aelodau y dylid diwygio argymhelliad 4 i gynnwys yr ardal ehangach.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau, er bod ganddynt hyder o hyd y bydd cynigion addas o gyflogaeth amgen yn cael eu cynnig, efallai ni fydd y cynigion hyn yn dderbyniol i unigolion oherwydd eu hamgylchiadau personol. Nid oes gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwersi nofio i ysgolion ond anogir pob person ifanc i ddechrau nofio, fodd bynnag, gwerthfawrogir y gall costau cludiant fod yn rhy ddrud. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw atebion ariannu wedi cael eu nodi ond gallai'r sefyllfa newid. Ni fydd yr oedi wrth newid Hamdden Celtic i fod yn fewnol yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar y gweithlu.

 

Soniodd yr Aelodau am bwysigrwydd defnyddio ynni gwyrdd a'r posibilrwydd o ddefnyddio unrhyw gyfleuster newydd i gynhyrchu pŵer. Gofynnodd yr Aelodau a gysylltwyd â Chyngor Sir Powys a dywedwyd y dylai'r astudiaeth ddichonoldeb fod wedi'i chwblhau yn 2022.

 

Cytunodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant ar bwysigrwydd defnyddio ynni gwyrdd ar gyfer cyfleusterau presennol ac yn y dyfodol. Cysylltwyd â Phowys ac mae'n bosib y byddant yn codi rhywfaint o'r defnydd yn fasnachol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles i swyddogion am y gwaith a wnaed ac ailadroddodd fod cau'r pwll presennol yn fater o ddiogelwch y cyhoedd ac nid yw unrhyw benderfyniad yn golygu ein bod yn gwrthod cefnogi cyfleusterau nofio yng Nghwm Tawe. Mae angen symud ymlaen gyda'r astudiaeth ddichonoldeb i roi'r awdurdod mewn sefyllfa ffafriol pe bai cyllid ar gael. Anogwyd aelodau i lobïo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid.

 

Yn dilyn craffu, cyflwynwyd diwygiad mewn perthynas ag

argymhelliad 4. Cefnogwyd yr argymhelliad diwygiedig fel y nodir isod i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

"Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i opsiynau ar gyfer safle yn y dyfodol a chyllid posib ar gyfer cyfleuster newydd ac i ymrwymo, pan fydd adnoddau'n caniatáu, y bydd pwll sy'n gwasanaethu ardal gyfan Cwm Tawe, Cwm Aman a Chwm Llynfell yn cael ei adeiladu."

 


08/05/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4266    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/05/2024 - Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/06/2024

Effective from: 08/05/2024

Penderfyniad:

Y Cyng. R Phillips – Eitem rhif 6 ar Agenda’r Cabinet – Personol, Aelod o Hamdden Celtic

 

Y Cyng. N Goldup-John – Eitem rhif 6 ar Agenda’r Cabinet – Personol, Aelod o Hamdden Celtic

 


08/05/2024 - Chair's Announcements ref: 4265    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/05/2024 - Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/06/2024

Effective from: 08/05/2024

Penderfyniad:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.


08/05/2024 - Appointment of Chairperson and Vice-Chairperson ref: 4264    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/05/2024 - Cyfarfod ar y Cyd y Cabinet/Pwyllgorau Craffu ar Addysg, Sgiliau a Lles

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 24/06/2024

Effective from: 08/05/2024

Penderfyniad:

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Phil Rogers fyddai'r Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Rebeca Phillips fyddai’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 


18/03/2024 - Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ref: 4085    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Diweddariad i'r Rhaglen Gyfalaf yn dilyn Canlyniad Ymarfer Tendro

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 


18/03/2024 - Mynediad i gyfarfodydd ref: 4083    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Penderfynwyd: bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 


18/03/2024 - Craffu Cyn Penderfynu ref: 4084    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Premiwm Treth y Cyngor ar Anheddau Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Roedd yr aelodau'n gefnogol o'r bwriad polisi i ddod â chartrefi gwag tymor hir yn ôl i ddefnydd. Roedd yr aelodau'n cydnabod bod llawer o gartrefi gwag yn y fwrdeistref a byddai'r premiwm arfaethedig o 200% yn annog pobl i symud i'r eiddo gwag neu eu gwerthu ymlaen. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ar gyfer prynwyr. Roedd y cynigion yn cyflwyno darlun cymhleth o eithriadau presennol ar gyfer treth y cyngor. Ar hyn o bryd, gall person hawlio hyd at chwe mis o eithriad treth y cyngor os yw ei eiddo'n wag, fodd bynnag mae'r eithriad yn ymwneud â'r eiddo. Os yw person yn prynu eiddo ac mae'r eithriad wedi'i ddefnyddio eisoes, ni fyddai'n gymwys eto ar gyfer yr eithriad. Os caiff y polisi ei gymeradwyo, efallai y bydd rhai pobl yn cael eithriad am chwe mis, yna'n talu 100%, ac yna'n talu 200% wedi hynny. Mynegodd yr aelodau eu pryderon y byddai'r polisi'n annog pobl i beidio â phrynu eiddo gwag tymor hir.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r rheol eithriad yn ymwneud â chwe mis yn parhau i fod yn berthnasol fel y mae ar hyn o bryd. Mae eithriadau'n gymhleth ac yn dibynnu ar amgylchiadau'r person sy'n byw yn yr eiddo. Amlinellodd swyddogion amgylchiadau amrywiol a allai fod yn berthnasol gyda'r rheol eithrio.

 

Amlinellodd yr aelodau nad yw pob eiddo gwag tymor hir yn anaddas i fyw ynddo, fodd bynnag, efallai na fydd mewn cyflwr y byddai person neu deulu yn dymuno byw ynddo. Roedd yr aelodau'n cydnabod bod rhai eithriadau'n berthnasol i ganllawiau statudol, fodd bynnag, mae gan yr awdurdod rywfaint o ddisgresiwn ynghylch sut y maent yn berthnasol. Awgrymodd yr aelodau y gellid ystyried ailosod y cyfnod eithriad chwe mis fel ei fod yn ailosod pan fydd eiddo'n cael ei werthu. Roedd swyddogion yn pryderu pe bai hyn yn cael ei wneud y byddai'n annog pobl i oedi cyn symud i fyw mewn eiddo, er mwyn osgoi premiwm treth y cyngor.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryder ynghylch a yw'r eithriad chwe mis yn berthnasol ai peidio wrth brynu eiddo. Dylai fod yr eithriad yn berthnasol yn gyson i eiddo.

 

Mewn perthynas â'r ymgynghoriad, amlinellodd yr aelodau eu bod o'r farn bod yr ymatebion yn rhagfarnllyd iawn tuag at y rheini a fydd yn cael eu heffeithio gan y polisi. Yn enwedig y rheini ag ail gartrefi sy'n rhentu'r eiddo hwnnw.

 

Roedd yr aelodau o'r farn bod angen cryfhau'r berthynas rhwng preswylwyr a'r swyddog eiddo gwag er mwyn sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu trosglwyddo ac nad oes unrhyw broblemau gydag unrhyw eiddo gwag.

 

Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi anfon yr ymgynghoriad yn uniongyrchol at y rheini sy'n berchen ar ail gartref neu eiddo gwag (1,700 o bobl).

 

Holodd yr aelodau, os oes rhywun yn berchen ar eiddo ac yn ei agor fel AirBnB, a oes angen ei fod wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod? Cadarnhaodd swyddogion y bydd angen i'r perchennog gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan y bydd yr asiantaeth yn penderfynu a yw eiddo ar y rhestr treth y cyngor neu'r rhestr ardrethi busnes. Bydd angen i'r eiddo fodloni meini prawf penodol i fod ar y rhestr ardrethi busnes o ran yr amser y cynigir ei osod, ac am faint y caiff ei osod mewn gwirionedd.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 


18/03/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4081    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Y Cyng. J Hale (Aelod Cabinet) – Eitem 5 – Personol, Rhagfarnol (gadawodd yr ystafell pan graffwyd ar eitem 5).

 


18/03/2024 - Cyhoeddiad y Cadeirydd ref: 4080    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 


18/03/2024 - Eitemau brys ref: 4082    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 18/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 21/06/2024

Effective from: 18/03/2024

Penderfyniad:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

Dywedodd Nicola Pearce wrth yr aelodau fod y Rhaglen Gyfalaf wedi cael ei thrafod yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor Craffu'r Cabinet, yn ogystal â'r arian a gynigiwyd i'w wario ar ffordd ddosbarthu'r cyrion. Yn y cyfarfod hwnnw, hysbyswyd yr aelodau fod yr arian a gynigiwyd i'w wario yn ymwneud ag ardal o waith ar y safle mynediad ym Margam. Fodd bynnag, roedd yr wybodaeth hon yn anghywir, a'r ardal ffordd ddosbarthu'r cyrion sy'n destun gwaith gwella ac atgyweiriadau yw rhan o'r ffordd rhwng yr ysbyty a'r Llys Ynadon. Gofynnodd y swyddog i hyn gael ei nodi er cywirdeb.

 


19/04/2024 - Chair's Announcements ref: 4235    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Nododd y Cadeirydd fod aelodau'r Pwyllgor Craffu wedi cytuno i graffu ar yr eitemau canlynol o agendâu Craffu a Bwrdd y Cabinet:

 

Agenda Craffu

 

           Eitem 4: Yr wybodaeth ddiweddaraf am roi mesurau yng Nghynllun Gweithredu'r Strategaeth Wastraff ar waith

 

Agenda Bwrdd y Cabinet

 

           Eitem 6: Prosiect Angori i Fusnesau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) - Gwella Cymorth Busnes ar gyfer Twf ac Arloesedd - Diweddariad

           Eitem 8: Cynllun Ynni Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot

           Eitem 14: Bwriad i waredu Tir Datblygu Preswyl ym Mlaenbaglan.

           Eitem 15: Bwriad i adnewyddu prydles y Llyfrgell Gyhoeddus ar lawr cyntaf Canolfan Siopa Aberafan, Port Talbot i'r Cyngor.


19/04/2024 - Datganiadau o fuddiannau ref: 4236    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Datganodd y Cynghorydd Nathan Goldup-John fuddiant nad oedd yn rhagfarnol yn Eitem 8 Cynllun Ynni Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot gan ei fod yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru.


19/04/2024 - Eitemau brys ref: 4241    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.


19/04/2024 - Mynediad i gyfarfodydd ref: 4242    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.


19/04/2024 - Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ref: 4243    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Eitem 14: Bwriad i waredu Tir Datblygu Preswyl ym Mlaenbaglan.

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion diwygiedig i Fwrdd y Cabinet.

 

Eitem 15: Bwriad i adnewyddu prydles y Llyfrgell Gyhoeddus ar lawr cyntaf Canolfan Siopa Aberafan Port Talbot i'r Cyngor.

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr Aelodau'r argymhellion diwygiedig i Fwrdd y Cabinet.


19/04/2024 - Update on the implementation of measures in the Waste Strategy Action Plan (to follow) ref: 4238    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am lunio'r adroddiad diweddaraf, yr oedd aelodau o'r farn ei fod yn gynhwysfawr ac yn ategu'r adroddiad.

 

Nododd yr Aelodau ar dudalen 33 o'r adroddiad ei fod yn rhestru'r ddirwy am beidio â chyrraedd y targed gwastraff a osodwyd gan Lywodraeth Cymru fel £200 y dunnell dros y targed. Teimlai'r Aelodau y byddai'n well ei ail-eirio ar sail amcangyfrif o gyfanswm y ganran dros y targed, gan y gallai gael mwy o effaith.

 

Teimlai'r Aelodau bod cwestiynau 1 a 2 yn yr holiadur yn debyg iawn ac y gellid eu cyfuno er mwyn helpu dealltwriaeth a chynyddu ymgysylltiad.

 

Nododd swyddogion fod y ffigwr ar gyfer pob 1% wedi'i gyfrifo ac y gallent ystyried hynny; roedd swyddogion hefyd yn derbyn y syniad o uno'r ddau gwestiwn pan fyddant yn cwblhau'r cwestiynau a gyflwynir yn yr ymgynghoriad.

 

Awgrymodd yr aelodau nad oedd angen y cwestiwn ynghylch amlder y casgliadau, oherwydd bod arweinydd y cyngor yn dweud na fyddai hyn yn newid i dri chasgliad wythnosol.

 

O ran codi tâl am wastraff gwyrdd, roedd yr aelodau'n poeni y byddai'n creu effaith negyddol ar yr amgylchedd gan y gallai pobl losgi'r gwastraff eu hunain neu ddechrau ei roi mewn biniau gyda gwastraff arferol neu hyd yn oed gael gwared arno eu hunain.

 

Holodd yr aelodau hefyd faint o gynghorau sydd wedi talu dirwy i Lywodraeth Cymru hyd yn hyn.

 

Eglurodd swyddogion na allant wneud sylw ar unrhyw ddatganiadau gwleidyddol a'u bod yn gwbl glir y gwnaed penderfyniad ffurfiol ym mis Ebrill 2023 i gynnal ymgynghoriad a bod y rhan hon o'r cynllun gweithredu'n cynnwys cyflawni'r penderfyniad hwnnw a wnaed ym mis Ebrill 2023.

 

Mewn perthynas â gwastraff gwyrdd, dywedodd swyddogion y bydden nhw'n archwilio yn yr ymgynghoriad beth fyddai'n digwydd i wastraff gwyrdd yn ogystal â gwastraff plastig. Dywedodd swyddogion fod y cerbydau ailgylchu a sbwriel ar fin cael eu hadnewyddu a dyma'r amser priodol i ystyried y mathau o gerbydau y mae angen iddynt eu prynu fel bod ganddynt y rhai cywir am y 7-9 mlynedd nesaf.

Cafodd yr aelodau wybod bod rhai cynghorau wedi cael dirwyon gan Lywodraeth Cymru, ond doedd gan swyddogion ddim y manylion ynghylch a wnaethant eu talu.

 

Dywedodd yr aelodau nad ydynt yn credu bod unrhyw ffordd o fonitro faint o wastraff gardd y gallai'r cyhoedd ei losgi neu ei roi yn y biniau gwastraff arferol. Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod aelodau'r cabinet yn bresennol ac roeddent yn sicr y byddai'r adborth gan aelodau Craffu yn cael ei ystyried ynghyd â phopeth a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Gofynnwyd i swyddogion am y gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol gan mai'r adborth gan y cyhoedd i'r aelodau oedd bod y blychau'n rhy fach a gofynnwyd a fyddai addasrwydd y blychau'n cael ei adolygu.

 

Cadarnhaodd swyddogion y gellir adolygu'r maint ac, yn anffodus, nad oedd yr adborth a roddwyd i breswylwyr ynghylch beth oedd diben y biniau cystal ag y dylai fod wedi bod. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad biniau storio yw'r biniau hyn, ond yn hytrach eu bod yn finiau â mynediad hawdd tra bod y sach ar agor i roi cewynnau ynddynt nes bod y sach ar gau. Bydd swyddogion yn diweddaru'r wefan fel y gellir cyfeirio'r cyhoedd ati.

 

Gofynnodd aelodau a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer biniau storio yn ogystal â biniau â sachau agored. 

 

Mewn ymateb i'r adborth a gawsant yn gynharach yn y cynllun peilot cychwynnol, nododd swyddogion fod y cyhoedd am gael bin lle nad oedd angen iddynt agor a chau sachau sawl gwaith y dydd i roi'r cewynnau i mewn. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad yw swyddogion yn bwriadu darparu biniau eraill ar hyn o bryd.

 

Roedd yr aelodau'n credu yn ystod cyfarfod y 'Grŵp Tasg a Gorffen ar y strategaeth wastraff' nad oedd y blychau yno er mwyn cadw'r bagiau ar agor ond i'w defnyddio fel bin storio. Teimlai'r aelodau y gallai'r cyfathrebu ar hyn fod wedi bod yn broblem i'r cyhoedd ac i'r aelodau.

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Strydlun y byddai'n cymryd yr adborth a'i drafod â swyddogion ac yn ystyried pethau ochr yn ochr â'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dywedodd swyddogion mai'r pryder o ran casgliadau yw peidio â rhoi gormod o amser ychwanegol yn y broses gasglu ac os oes rhaid i'r cyhoedd gael bin arall sy'n fwy o ran storio, yna bydd mwy o demtasiwn i roi'r bin allan i'w gasglu. Byddai hynny'n ychwanegu llawer o amser pan ystyriwch y byddai angen symud y bin o'r eiddo i'r lori sbwriel ac yn ôl eto.

 

Derbyniodd swyddogion yr awgrym bod aelodau'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol nodi rhywbeth ynghylch argaeledd offer ailgylchu ar y cwestiynau sy'n gofyn pam nad yw pobl yn ailgylchu.

 

Awgrymodd yr aelodau hefyd y byddai'n ddefnyddiol llunio cwestiwn o ran bagiau a derbyniadau gwastraff bwyd i ddeall a yw hynny'n rhywbeth y dylai'r cyngor ganolbwyntio arno ar ei wella neu a yw'n rhwystr i ailgylchu.

 

Rhoddodd yr Aelodau adborth ar brofiad eu preswylwyr o archebu bagiau gwastraff bwyd ac, os bydd preswylydd yn ffonio'r llinell gymorth, rhoddir gwybod y gall gymryd 18 niwrnod i'w hanfon, ond os ydynt yn dod at yr aelodau, mae'n ymddangos eu bod yn gallu eu hanfon y diwrnod nesaf neu'r diwrnod canlynol.

 

Dywedodd swyddogion fod cydweithwyr corfforaethol yn helpu gyda'r holiadur, a byddant yn siarad â nhw ynghylch sut y gallant gynnwys rhywbeth am argaeledd offer a fydd yn profi a oes rhai rhwystrau i bobl sy'n cymryd rhan oherwydd dosbarthu offer.

 

Esboniodd swyddogion fod yr amserlen 18 niwrnod sy'n cael ei datgan yn golygu uchafswm o 18 niwrnod i anfon y bagiau. Yn flaenorol, roedd swyddogion yn prynu 400,000 o fagiau bwyd fesul archeb. Mae swyddogion bellach yn archebu 1,000,000 o fagiau ar y tro ac o ran y biniau bwyd, maent wedi cyflogi gyrrwr dosbarthu ychwanegol, ac maent bellach yn dosbarthu 5,000 o eitemau ychwanegol ar ben cyfanswm y llynedd. Roedd swyddogion yn teimlo eu bod wedi dioddef oherwydd eu llwyddiant eu hunain oherwydd bod y cyhoedd yn galw am yr eitemau hyn wrth i ailgylchu gynyddu.

 

Roedd yr aelodau'n falch o nodi gostyngiad mewn offer sydd wedi'i dorri a nodwyd bod hyn yn debygol oherwydd bod y criwiau'n dechrau cymryd mwy o amser i roi'r blychau yn ôl.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros y Strydlun y byddant yn edrych ar yr adborth pan ddaw'r ymgynghoriad i ben. Eglurodd ei fod wedi ystyried yr hyn y mae aelodau wedi'i ddweud heddiw, yn enwedig o ran storio cewynnau a bagiau bwyd ac y bydd yn ddiddorol gweld beth sydd gan breswylwyr ar draws y sir i'w ddweud yn ystod yr ymgynghoriad.

 

Nodwyd yr adroddiad.


19/04/2024 - Update on the implementation of measures in the Waste Strategy Action Plan - Reports ref: 4239    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Nodwyd yr adroddiad.

 

Wards affected: (All Wards);


19/04/2024 - Craffu Cyn Penderfynu ref: 4240    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Eitem 6: Prosiect Angori i Fusnesau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) - Gwella Cymorth Busnes ar gyfer Twf ac ArloeseddDiweddariad

 

Nododd y Cadeirydd fod aelodau'n gwerthfawrogi lefel y manylion a'r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac er gwaethaf y manylion nid oedd yn rhy hir, ac roedd yr aelodau'n gwerthfawrogi hynny.

Gofynnodd yr Aelodau am dudalen 44 yr adroddiad lle mae'n ymwneud â chynaliadwyedd y swyddi. Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn mynegi pryder y gallai pobl adael a bydd llawer o brofiad yn cael ei golli pan fydd y cyllid ar gyfer y prosiect yn dod i ben. Roedd yr Aelodau'n meddwl tybed a oedd unrhyw ragolygon ar gyfer cyllid yn y dyfodol neu unrhyw feddyliau am sut i osgoi colli staff.

Esboniodd swyddogion fod staff yn dechrau chwilio am gyflogaeth arall erbyn diwedd y cynllun gan nad oes ganddynt unrhyw sicrwydd o gyflogaeth yn y dyfodol, ac mae'r awdurdod yn colli staff a phrofiad da iawn. Mae'r Prif Weithredwr wedi pwysleisio'r angen i sicrhau bod swyddogion yn gallu sicrhau bod modd i swyddogion gael pethau ar waith i gadw'r holl staff y mae eu hangen.

Cynghorwyd aelodau weithiau bod angen clustog i gadw'r staff oherwydd byddai angen i broses recriwtio hir arall ddigwydd  wedi hynny fel arall.

Collodd yr awdurdod ran gyntaf y cynllun o ran cael yr adnoddau angenrheidiol i ddechrau cyflawni oherwydd eu bod yn dal i fod yn y cyfnod recriwtio oherwydd y bwlch rhwng diwedd un cyllid a dechrau cyllid arall. Mae swyddogion yn obeithiol y byddant yn gwneud rhywbeth i sicrhau y bydd yr holl staff y mae angen iddynt eu cadw'n aros.

Dywedodd swyddogion fod proffil oed y staff yn golygu y bydd cynllunio olyniaeth yn broblem yn ogystal â cholli rhai pobl ifanc a allai o bosib ddechrau gyrfa yn y maes hwn ond bod ansicrwydd ynghylch y cyllid a pha mor hir y byddant yn gallu eu cadw.

Mae swyddogion wedi mynegi eu pryderon i Lywodraeth y DU ynglŷn ag ansicrwydd y broses ymgeisio. Dywedodd swyddogion fod y Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) wedi bod yn dda iawn i'r awdurdod, ond mae gwir angen cyhoeddi CFfG 2 arnynt rywbryd cyn i CFfG 1 ddod i ben oherwydd byddai'r parhad hwnnw'n rhoi darpariaeth llawer hirach i swyddogion. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y CFfG wedi caniatáu hyblygrwydd gyda'r cyllid i ymateb i bethau sy'n digwydd, er enghraifft, sefyllfa Tata Steel ac wedi caniatáu i swyddogion ddechrau gwneud rhywfaint o waith gyda rhai o'r cwmnïau y maen nhw'n gwybod y byddant yn cael eu heffeithio o fewn y gadwyn gyflenwi.

Dywedodd swyddogion y byddai cael parhad yn bwysig iawn ac maent wedi mynegi hynny i Lywodraeth y DU ac er eu bod yn cydymdeimlo'n fawr, nid oes arwydd clir y byddant yn parhau i'w wneud ar hyn o bryd.

Cadarnhaodd swyddogion mai dyddiad gorffen presennol y prosiect oedd mis Mawrth, a'r pryder mawr yw eu bod wedi cael llawer o fomentwm gyda'r cynllun grant, ond mae'n ymddangos y bydd yn rhaid iddynt ei gau ym mis Rhagfyr eleni oni bai bod cyhoeddiad am estyniad yn dod. Mae arwyddion gan Lywodraeth y DU mewn trafodaethau anffurfiol yn awgrymu na all y cylch presennol o'r CFfG ymestyn cyfnodau cyflwyno. Nid yw swyddogion yn ymwybodol o'r ail rownd o'r CFfG a dyna'r hyn y maent yn gobeithio ei chael.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau nad oes llawer o arian wedi'i ddyrannu ar draws y DU gyda'r Gronfa Ffyniant Bro (LUF). Mae swyddogion o'r farn bod y Llywodraeth yn fwy sympathetig ynghylch potensial ceisiadau LUF oherwydd eu bod yn seiliedig ar gyfalaf yn hytrach na refeniw fel sydd yn y CFfG a gallant ganiatáu i'r awdurdod ymestyn hynny yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd yn yr adolygiad gwariant yn yr hydref. Os nad yw hynny'n cael ei ymestyn, yna mae perygl y bydd gan y llywodraeth brosiectau sydd ar eu hanner neu y mae tri chwarter o'r gwaith wedi'i orffen pan fyddant yn dod i ben, a bydd awdurdodau lleol yn methu â thalu am unrhyw wariant ychwanegol arnynt.

Nododd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd i aelodau ei fod wedi mynd i CCB y Cynghrair Diwydiannol sy'n lobïo Llywodraeth y DU, a nododd fod arwyddion y gall Llywodraeth y DU barhau â'r CFfG am flwyddyn arall ni waeth pa blaid sy'n ennill yr etholiad cyffredinol yn edrych yn gadarnhaol.

Dywedodd Aelod y Cabinet ei fod wedi gweld gwaith y tîm busnes ac wedi mynd i ddigwyddiad gyda'r wybodaeth fel deiliad busnes. Eglurodd ei fod wedi bod yn bresennol mewn rhai o'r cyrsiau ac roedd yn teimlo y byddant yn ardderchog. Dywedodd Aelod y Cabinet fod y bobl newydd sydd wedi bod yn dysgu oddi ar brofiad helaeth y bobl a allai gael eu colli, yn anffodus, yn amhrisiadwy.

Nodwyd yr adroddiad.

 

Eitem 8: Cynllun Ynni Ardal Leol Castell-nedd Port Talbot

Nododd yr Aelodau nad oedd unrhyw sôn am ynni trydan dŵr o fewn adran yr adroddiad a oedd yn ymwneud â systemau ynni cymunedol, a gofynnon nhw a ystyriwyd hyn a'i wrthod neu a gafodd ei ystyried o gwbl.

 

Cododd yr Aelodau hefyd bryderon ynghylch y ddibyniaeth ar drawsnewidiadau pwmp gwres ffynhonnell aer yn yr adroddiad. Cododd yr Aelodau'r mater nad yw llawer o gartrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot ar y grid nwy o hyd a'u bod yn dibynnu ar olew neu lo. Mae'r mathau hyn o dai'n tueddu i fod yn fwy cymhleth ar gyfer gosod pwmp gwres ffynhonnell aer. Mae hyn oherwydd goblygiadau o ran gwella'r system wresogi, inswleiddio, a diffyg waliau ceudod mewn rhai eiddo. Roedd yr Aelodau'n pryderu bod y materion hyn yn golygu y byddai Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer yn rhy ddrud, ac mae llawer o'r costau hyn yn mynd i fynd i ddeiliaid tai.

 

Mewn perthynas â phŵer trydan dŵr, dywedodd swyddogion nad oes unrhyw beth o reidrwydd na ellir ei ystyried. Os yw'n gweithio, yna mae unrhyw beth yn werth ei ystyried.

 

Mewn perthynas â phympiau gwres ffynhonnell aer, esboniodd swyddogion fod pethau'n newid yn gyflym yn enwedig yn y diwydiant ynni ac ynni adnewyddadwy o ran ansawdd y mathau o gynhyrchion sydd bellach yn cael eu cynhyrchu a'u heffeithlonrwydd yn ogystal â'u cost. Mewn llawer o feysydd, mae'r gost yn gostwng wrth iddynt ddod yn fwy cyffredin.

 

Tynnodd swyddogion sylw at bwysigrwydd sicrhau bod ffocws ar sgiliau a hyfforddiant ac i sicrhau bod pobl gymwys sy'n gwneud gwaith da ar gael i osod y dechnoleg hon oherwydd y  ffordd orau i'w hyrwyddo ac annog eraill yw dangos bod pobl wedi cael profiadau da ag ef.

 

Dywedodd swyddogion fod y fenter Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn edrych ar y gwahanol fathau o dai a'r gwahanol fathau o offer sydd ar y farchnad a all helpu i symud tuag at sero net.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd drosolwg i'r aelodau ar ystod yr hyn y mae'r awdurdod yn ei wneud. O ran micro-gynhyrchu, dywedodd fod dau gynllun ar gyfer trydan dŵr yn mynd trwy broses drwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru ac unwaith y byddant ar waith ac wedi'u cyflawni, byddai'n gosod esiampl i eraill ac efallai, gallwn ei hyrwyddo mwy.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod un tyrbin yn Ystad Ddiwydiannol Cynffig sy'n pweru peth o'r safle diwydiannol yno.

Dywedodd Aelod y Cabinet fod yr awdurdod ar flaen y gad o ran yr hyn y mae'n ei wneud gyda rhai o'r adeiladau, a bydd ganddynt rai enghreifftiau gwych eraill pan fydd Tai Tarian yn sefydlu dau brosiect sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan ganolfannau CFfG, felly byddant yn enghreifftiau o ynni adnewyddadwy blaengar ac maent yn debyg i Rhos Afan, sy'n ailddechrau ac sy'n mynd i fod yn ynni-gadarnhaol neu'n garbon niwtral.

 

Rhoddodd Aelod y Cabinet enghraifft o sgiliau a hyfforddiant yng Ngholeg Castell-nedd gyda'i Academi Werdd sydd bellach yn gweithredu ac sy'n ymateb i ba hyfforddiant y mae ei angen ac y mae ganddo rai cyrsiau ar ddod ar osod ynni solar a gosod pympiau gwres. Eglurodd Aelodau'r Cabinet fod sgiliau a hyfforddiant yn bwysig iawn. Dywedodd Aelod y Cabinet fod cyllid yn y cynllun Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer ar gyfer hyfforddiant hefyd.

 

Amlygodd Aelod y Cabinet hefyd fod dogfen flaengar ar gael sy'n golygu os bydd llywodraeth y DU yn penderfynu dilyn y trywydd hydrogen, yna bydd y ddogfen yn cael ei haddasu wrth i bethau newid.

 

Nododd yr Aelodau fod sgiliau a hyfforddiant yn bwysig ac, mewn perthynas â phympiau gwres, mae gan ardal yr awdurdod lawer o bobl sydd â'r sgiliau i'w gosod ond mae bwlch mewn sgiliau o ran manylebau technegol. Nodwyd ei fod yn broblem ledled y DU.

Dywedodd Aelod y Cabinet ei fod wedi bod mewn digwyddiad busnes diweddar lle y gwnaeth gwrdd ag arbenigwr mewn rheoli systemau adeiladu, sydd bellach wedi'i gysylltu â Choleg Castell-nedd. Mae rheoli systemau'n rhan fawr o sut mae ynni adnewyddadwy'n cael ei weithredu a ble maen nhw'n cael eu gweithredu. Dywedodd Aelod y Cabinet fod hyn yn enghraifft o effeithiolrwydd y rhwydwaith a digwyddiadau busnes lle mae arbenigwr bellach wedi'i gysylltu â Choleg Castell-nedd i gynnal cyrsiau fel hynny yno.

 

Mynegodd yr Aelodau'r farn bod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar sut mae teithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig yn cael ei alluogi a bod teithio llesol yn rhan o gludiant cyhoeddus a thrafnidiaeth gymunedol.

 

Mynegodd yr aelodau gefnogaeth ar gyfer y syniad o lobïo ar gyllid ardaloedd gwledig ar gyfer teithio llesol ond roedd ganddynt rai pryderon ynghylch ehangu adnoddau, gan geisio ymestyn y Ddeddf Teithio Llesol ar gyfer hamdden ac adloniant oherwydd eu bod yn ddau beth ar wahân. Nid oedd yr aelodau'n siŵr bod yr awdurdod yn mynd i lwyddo â'r pwynt hwnnw oherwydd bod y Ddeddf Teithio Llesol yn ymwneud â theithiau pwrpasol, nid hamdden ac adloniant.

 

Dywedodd swyddogion eu bod yn rhan o Fwrdd Teithio Llesol Cymru Gyfan a'u bod wedi codi pryderon ynghylch y ddeddfwriaeth bresennol ar deithio llesol ar ran rhanbarth y de-orllewin, gan gynnwys y ddarpariaeth a'r cyllid ar gyfer llwybrau teithio llesol mewn cymunedau gwledig. Mae swyddogion yn teimlo bod y cynllun Teithio Llesol presennol wedi nodi ardaloedd trefol allweddol o fewn yr awdurdod ac mae swyddogion wedi canfod, lle byddai ganddynt awydd i sefydlu yn yr ardaloedd gwledig, nad yw'r rhain yn addas o ran blaenoriaethau a chyllid Llywodraeth Cymru o ran gwerth am arian a chanlyniadau.

 

Dywedodd swyddogion eu bod yn parhau i lobïo o ran y canllawiau ac efallai y bydd rhai adolygiadau'n cael eu cynnal i geisio cael mecanwaith lle gellir cefnogi teithio llesol mewn cymunedau gwledig. Eglurodd swyddogion fod yr egwyddorion ynghylch gweithgarwch hamdden yn fater y mae swyddogion wedi'i herio yn y gorffennol.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth swyddogion fod ganddynt gefnogaeth wleidyddol gan aelodau wrth edrych ar aneddiadau diffiniedig fel y'u diffinnir yn y ddeddf a sut y cawsant eu hadnabod.

Nodwyd yr adroddiad.


19/04/2024 - Cofnodion y cyfarfod blaenorol ref: 4237    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 19/04/2024 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/06/2024

Effective from: 19/04/2024

Penderfyniad:

Cafodd yr eitem hon ei hepgor oherwydd camgymeriad clerigol.