Manylion y penderfyniad

Craffu Cyn Penderfynu

Statws: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cynigion y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau am y gwahaniaeth mewn incwm net o'r ffigurau yn yr adroddiad a ymgynghorwyd arnynt a'r adroddiad i'w ystyried yn ystod y cyfarfod. Nodwyd bod y bwlch yn y gyllideb wedi lleihau tua £230,000 rhwng y ddau adroddiad. Fodd bynnag, mae lefel treth y cyngor y mae ei hangen i gau'r bwlch hefyd wedi lleihau o 10.3% i 7.9%. Holodd yr Aelodau sut y penderfynwyd ar y cyfrifiadau mewn perthynas â'r incwm a nodir yn y ddau adroddiad a pha fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y rhagolygon ar gyfer yr incwm yn gywir.

 

Dywedodd swyddogion fod cynigion drafft y gyllideb yn nodi y gallai treth y cyngor gynyddu i oddeutu 10% ond nid oedd cynnig penodol yn cael ei gyflwyno yn yr ymgynghoriad o ran y ffigur y mae ei angen i gau'r bwlch. Mae'r rheswm dros y gwahaniaeth sylweddol yn ymwneud â rhagdybiaethau ynghylch cynllun cymorth treth y cyngor. Ym mis Rhagfyr defnyddiwyd ymagwedd ddarbodus wrth ymdrin â'r ffigurau gydag amcangyfrif darbodus iawn o dreth y cyngor net. Pan gyrhaeddodd y ffigurau, roedd modd mewnbynnu'r rhain yn ôl yr angen, a oedd yn adlewyrchu costau sylweddol llai cynllun gostyngiadau treth y cyngor.

 

Roedd y swyddog yn hyderus bod y ffigyrau yn yr adroddiad yn ddarbodus ac y gellir bodloni treth y cyngor o 7.9%.

 

Dywedodd swyddogion na fyddai adroddiad manwl gywir yn bosib yn ystod mis Rhagfyr gan fod yr adroddiad manwl diweddarach yn ei gwneud yn ofynnol i Capita fewnbynnu'r newidiadau amrywiol i ffigurau budd-daliadau yn y meddalwedd yn allanol er mwyn cwblhau'r adroddiadau gofynnol.

 

Gofynnodd yr Aelodau i'r newidiadau rhwng y ddau adroddiad gael eu hamlinellu'n glir. Cytunodd swyddogion i nodi'r pwyntiau a wnaed mewn perthynas ag amlinellu'n glir lle mae'r ffigurau'n ddarbodus a lle dengys ffigurau achos gwaethaf, dylid tynnu sylw at hyn yn yr adroddiad gydag esboniad. Bydd swyddogion yn sicrhau bod y syniadau hyn yn cael eu cynnwys yn adroddiadau'r flwyddyn nesaf.

 

Holodd yr Aelodau am nifer yr ymatebion a dderbyniwyd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac a oedd ffordd o gynyddu cyfranogiad, trwy edrych efallai ar yr hyn y mae awdurdodau lleol eraill yn ei wneud.

 

Dywedodd swyddogion fod 581 o ymatebion wedi cael eu derbyn rhwng holiaduron papur ac ar-lein y llynedd o'i gymharu â'r 556 o holiaduron a gwblhawyd eleni. Daeth 13 o ymatebion i law drwy e-bost/llythyr y llynedd o'i gymharu â 6 eleni.  Y llynedd fe wnaeth 225 o weithwyr CNPT ymgysylltu â'r ymgynghoriad o'i gymharu â 146 eleni. Y llynedd, daeth 147 o bobl i gyfarfodydd ond 52 yn unig daeth i gyfarfodydd eleni. O ran gweithio gyda Chynghorau eraill, cadarnhaodd swyddogion eu bod yn rhan o weithgorau a oedd yn trafod ffyrdd amrywiol o ymgysylltu â dinasyddion. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y cyfnod ymgynghori wedi digwydd dros y Nadolig y llynedd. Eleni roedd hyn allan o reolaeth swyddogion oherwydd amseru'r cyhoeddiad setliad felly doedd dim modd osgoi cynnal yr ymgynghoriad dros y Nadolig. Cadarnhaodd swyddogion hefyd yn y dyfodol y byddent yn ceisio ymgysylltu â digwyddiadau cymunedol i annog cyfranogiad, os yw'r cyfnod ymgynghori'n caniatáu hyn. Hefyd, ar hyn o bryd mae yna ymgyrch barhaus i recriwtio i Banel y Dinasyddion. Mynegodd yr Aelodau eu bod yn awyddus i sicrhau ymgysylltiad priodol â'r cenedlaethau iau ac awgrymwyd efallai y gellid gwneud mwy o waith mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol.

 

Cadarnhaodd swyddogion mai'r uchafswm ar gyfer swm yr arian a drosglwyddwyd mewn blwyddyn yw £100,000 ar gyfer cyfarwyddwyr corfforaethol, £250,000 ar gyfer y Cabinet a £500,000 ar gyfer y Cyngor. Mae cyllideb cronfa refeniw gwerth £2.8 miliwn mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau dinesig ac ysgolion. Amlinellodd yr aelodau eu dealltwriaeth fod £1.5m wedi'i ddyrannu i Gyfarwyddiaethau yr Amgylchedd ac Addysg. Mae'n ymddangos bod y cyllid sy'n weddill wedi'i drosglwyddo i Raglenni Cyfalaf. Holodd yr Aelodau pryd y gwnaed y penderfyniad a phwy oedd wedi'i awdurdodi. Cadarnhaodd swyddogion fod y £2.8m yn parhau i fod yn y gyllideb refeniw ar gyfer 23/24 lle cafodd ei awdurdodi gyntaf ac na chafodd ei drosglwyddo i gyllidebau eraill. Cadarnhaodd swyddogion fod £1.5m o'r gyllideb wedi cael ei wario fel y cytunwyd o fewn Cyfarwyddiaethau'r Amgylchedd ac Addysg, defnyddiwyd 700k ar gyfer cronfeydd wrth gefn a rhagwelir y bydd tanwariant o 600k. Cadarnhaodd swyddogion na fu unrhyw drosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn o'r gyllideb honno gwerth £2.8m.

 

O ganlyniad i'r un taliad, derbyniodd Addysg daliad untro o £721,000 i helpu gyda thlodi tanwydd mewn ysgolion. Mae gan gostau ynni mewn ysgolion gyfanswm o £4.7mllion ar draws y fwrdeistref. Roedd yr Aelodau'n pryderu na fydd yr ysgolion yn cael eu hariannu i lefel ddigonol i atal tlodi tanwydd wrth symud ymlaen a bydd hyn hefyd yn arwain at ddiffyg gallu cyflawni'r cynllun datblygu ysgolion, lle bydd cronfeydd wrth gefn yn cael eu dileu yn y bôn.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr Addysg ei bryderon ynghylch lefelau diffygion mewn rhai ysgolion. Mae gan bob ysgol sydd mewn diffyg ar hyn o bryd gynllun adfer. Cadarnhaodd swyddogion yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion y llynedd, roedd cynnydd o 50% ers cyllidebau'r flwyddyn flaenorol. Mae costau tanwydd ar gyfer ysgolion yn sicr yn uwch na'r hyn a roddwyd yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion hyd yn oed gyda'r ychwanegiad a ddarparwyd. Byddai'r diffyg cyllid yn cyfrannu at orwariant cyffredinol pob ysgol. Gellir priodoli peth o'r gorwariant i ysgolion sy'n parhau i wario eu cronfeydd wrth gefn ar adfer o COVID-19 ac mae rhai ysgolion yn cael trafferth wrth gydbwyso eu cyllidebau o ganlyniad i gostau mewn perthynas ag ariannu anghenion dysgu ychwanegol.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn ymwybodol o un ysgol a oedd wedi dechrau'r flwyddyn ariannol gyda £12,000 dros ben ond eu bod wedi rhagweld y bydd ganddynt ddiffyg o £95,000 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y lefel hon o ddyled pe bai'n cael ei luosi ar draws y fwrdeistref drwy ysgolion amrywiol a nodwyd y pryderon a godwyd gan y Cyfarwyddwr o ran cynaliadwyedd rhai elfennau o'r gyllideb ar gyfer y dyfodol.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y posibilrwydd o golli staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu gan ei bod yn bosib na fydd ysgolion yn gallu fforddio parhau i'w cyflogi o fewn y cyllidebau a ragwelir.

 

Dywedodd swyddogion fod y materion a godwyd yn digwydd ar draws Cymru a bydd angen eu rheoli wrth symud ymlaen. Bydd ysgolion sydd mewn diffyg yn peri risg i'r awdurdod. Mae amrywiaeth yr ysgolion sydd ag arian dros ben a'r ysgolion sydd mewn diffyg ar draws yr awdurdod yn eithaf eang. Bydd llawer o'r materion hyn yn cael eu hystyried mewn adolygiad cynaliadwyedd sydd i'w gynnal.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.

 

 

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2024/25 i 2026/27

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Nododd yr Aelodau nad yw'r gronfa Codi'r Gwastad yn cynnwys y ddau gynllun ychwanegol ym Mhort Talbot y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn a holwyd a oedd rheswm eu bod wedi'u hepgor o'r rhaglen gyfalaf ar hyn o bryd. Cadarnhaodd swyddogion mai'r ffordd y mae'r Gronfa Codi'r Gwastad yn cael ei rheoli gan Lywodraeth y DU yw eu bod yn eich cynghori os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus, ac yn yr achos hwn roedd dau brosiect yn llwyddiannus a derbyniwyd cadarnhad bod y cynigion wedi bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid yw'r awdurdod wedi derbyn cadarnhad hyd yn hyn o'r cytundeb ariannu ffurfiol gan Lywodraeth y DU a nes y derbynnir hyn, ni ellir ymgorffori'r prosiectau yn y rhaglen gyfalaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad mewn perthynas â rhai eitemau, yn enwedig mewn perthynas â Rheoli Rhwydwaith y Llwybr Dosbarthu Ymylol a Phont Bwydo Dock Road a hefyd beth sydd wedi'i gynnwys o dan Gynlluniau Adfywio Eraill? Cadarnhaodd swyddogion o ran y Llwybr Dosbarthu Ymylol bod gwaith atgyweirio yn cael ei wneud o amgylch y gylchfan ym Margam wrth y fynedfa gwaith gan fod rhywfaint o ddifrod i'r ffordd gerbydau yn y lleoliad. O ran y bont mae angen mân atgyweiriadau i'r concrit a gwelliannau/atgyweiriadau i'r rhwystrau yno. Mae'r gwaith y cyfeirir ato'n cael ei ariannu gan yr hyn sy'n weddill o arian y Llwybr Dosbarthu Ymylol a dderbyniwyd.

 

Dywedodd swyddogion, mewn perthynas â'r prosiectau sy'n cael eu cynnwys yng nghynlluniau adfywio eraill y byddant yn dosbarthu rhestr sy'n amlinellu manylion y prosiectau  yn dilyn y cyfarfod.

 

Gwnaeth yr Aelodau ymholiadau gan gyfeirio at ailddyrannu arian a oedd yn ymwneud â Hwb Trafnidiaeth Castell-nedd a'r ffaith bod sôn am broblemau gydag adleoli safleoedd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â hyn. Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw newidiadau sylweddol y mae angen i aelodau fod yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â'r prosiect. Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol. Ar hyn o bryd mae gwaith i ymchwilio i'r safle'n cael ei wneud a chaiff hyn ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.

 

Gan gyfeirio at hen adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid ger Llys yr Ynadon, holodd yr aelodau a oedd hwn yn gynllun swyddfa arall yr oedd yr awdurdod yn bwriadu ei gyflawni? Cadarnhaodd swyddogion fod yr adeilad wedi'i leoli o fewn ardal glannau'r harbwr a bod yr awdurdod yn prynu ac yn adnewyddu'r adeilad ar sail hapfasnachol gan fod galw mawr yn yr ardal hon am lety swyddfa.

 

Holodd yr aelodau a oes unrhyw ddyraniad cyfalaf ar gyfer parciau a meysydd chwarae? Cadarnhaodd swyddogion y dyraniad presennol o dan y Cynllun 'Clean Up, Green Up', a bydd yr holl waith mewn perthynas â hyn o ran parciau a meysydd chwarae yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, ac eithrio'r maes chwarae sydd wedi'i leoli ar draeth Aberafan. Fodd bynnag, cadarnhaodd swyddogion nad oes dyraniad penodol o dan y dyraniadau arfaethedig ar gyfer gwella meysydd chwarae dros y flwyddyn sydd i ddod. Cadarnhaodd swyddogion y bydd gwaith cynnal a chadw ar asedau presennol yn parhau.

 

Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion egluro union leoliad y gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r Llwybr Dosbarthu Ymylol. Cytunodd y Swyddog i egluro a dosbarthu'r wybodaeth hon i'r aelodau.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.

 

 

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol a Pholisi Darparu Isafswm Refeniw

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Ni chodwyd unrhyw gwestiynau yn ystod y cyfarfod.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2024

Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/03/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet