Manylion y penderfyniad

Construction Impact Assessment Summary

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Jon Burnes yr adroddiad i aelodau'r pwyllgor.

Nododd yr aelodau yn yr adroddiad fod y bwlch o £43 miliwn wedi ei ostwng i £12.75 miliwn o ran y mesurau lliniaru a nodwyd bod effaith chwyddiant wedi bod yn ddifrifol. Gofynnodd yr aelodau pa mor hyderus oedd swyddogion fod y bwlch o £12.75 miliwn ar draws y prosiectau cyfan yn gywir.

Dywedodd swyddogion mai amcangyfrifon yw'r rhain ar hyn o bryd a dyna pam mae'r adroddiad yn cael ei ddiweddaru'n fisol. Mae swyddogion yn credu y bydd y bwlch yn cynyddu dim ond oherwydd mae caffaeliadau i ddod o hyd, a chostau i'w hamcangyfrif ar gyfer caffaeliadau eraill sydd wedi'u cynllunio.

Hysbyswyd yr aelodau ei bod yn annhebygol y byddai gostyngiad sylweddol mewn costau adeiladu a chwyddiant yn ystod y 2 flynedd nesaf. Dywedodd swyddogion fod angen iddynt reoli a lliniaru a lleihau'r bwlch gymaint â phosib. Maent yn hyderus ei fod mor gywir ag y gall fod ar hyn o bryd.

Esboniodd swyddogion mai Prosiect Morol Doc Penfro, Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel, Yr Egin ac Isadeiledd Digidol yw'r pedwar prosiect sy'n rhan o'r bwlch £12.75 miliwn.

Hysbyswyd yr aelodau hefyd, pan ddaw mwy o gaffaeliadau i law, y gallai'r bwlch gynyddu, a datblygwyd rhai o'r achosion busnes sawl blwyddyn yn ôl.

Roedd gan yr aelodau gwestiynau ynghylch cam 2 Yr Egin a sut mae'r adroddiad yn sôn am y model cyflawni diwygiedig, gan nodi'r ddarpariaeth arfaethedig newydd o gyfleuster cynhyrchu rhithwir ar gampws Caerfyrddin. Roedd yr aelodau eisiau esboniad ynghylch pam, os yw'n brosiect newydd neu wedi'i ailwampio a fyddai'n costio £10.3 miliwn yn wreiddiol, y mae'r amcangyfrif presennol yn £12.9 miliwn a pham nad ydynt yn cael gwybod y dylai'r gwaith gael ei wneud o fewn y gyllideb wreiddiol o £10.3 miliwn?

Esboniodd swyddogion, er bod y syniad hwn ar gyfer Yr Egin wedi cael ei gyflwyno, nid yw wedi'i gymeradwyo a byddai angen cyflwyno cais am newid trwy grwpiau llywodraethu BDdBA. Roedd y ffigwr yn adlewyrchu eu meddylfryd presennol o ran faint y gallai cam dau gostio. Eglurodd swyddogion hefyd fod yr holl brosiectau'n cael eu llywodraethu gan yr amlen ariannol a oedd ganddynt o'r Fargen Ddinesig, ond hefyd gyfraniadau gan y sector preifat a chyhoeddus. Mae yna hefyd yr allbynnau, (darparu adeilad); a'r canlyniadau, fel swyddi, codiad cyflog, cynyddu gwerth tir. 

Nododd swyddogion fod Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r uwch dîm rheoli yn ystyried eu hymrwymiadau yn y dyfodol ar gyfer ymgymryd â phrosiectau cyfalaf gan gynnwys Cam 2 Yr Egin a'r Ganolfan Arloesi yng Nglannau Abertawe. Mae'r angen busnes a sefydliadol am isadeiledd ychwanegol hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses hon.

Eglurodd yr aelodau mai rhagfynegiad yn unig o'r hyn y byddai unrhyw newidiadau yn ei gostio yw'r cynnydd o 25%, ond nid yw'n bendant. Cadarnhaodd swyddogion mai syniad ar gyfer ateb cyflwyno yn unig ydyw, yn hytrach na rhywbeth sydd wedi'i roi ar waith.

Nododd yr aelodau hefyd nad oedd yr amcangyfrif o'r gost yn cynnwys arian y Fargen Ddinesig yn unig a'i fod hefyd yn cynnwys cyfraniadau cyllid gan bartneriaid eraill fel rhan o'r pecyn cyllido cyffredinol.

Nodwyd yr adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2024

Dyddiad y penderfyniad: 16/04/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/04/2024 - Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Dogfennau Cefnogol: