Manylion y penderfyniad

Craffu Cyn Penderfynu

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Adroddiad Blynyddol - Ymgysylltu a Chyfranogiad

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr eitem hon yn ymwneud â'r Gwasanaethau Plant. Bydd adroddiadau'n ymwneud â'r Gwasanaethau Oedolion a Thai yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at yr adroddiad a amlinellodd fod cyfarfod wedi'i gynnal â landlordiaid. Holodd yr aelodau faint o landlordiaid preifat a oedd yn y cyfarfod. Ar ben hynny, gofynnwyd faint o landlordiaid preifat sydd yn CNPT ac a allai aelodau gael rhestr o landlordiaid fel y gall yr aelod ymchwilio i faint o dai rhent preifat sydd ar gael o'u cymharu ag eiddo cymdeithasau tai. Cadarnhaodd swyddogion mai landlordiaid preifat yn unig oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cynhaliwyd y fforwm i ddarparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i landlordiaid ynghylch pethau a all fod yn berthnasol i'r landlordiaid. Y bwriad yw cynnal y fforymau hyn bob chwarter. Dywedodd swyddogion na fyddent yn gallu darparu rhestr o holl landlordiaid preifat yr ardal ac na allent gadarnhau faint o eiddo preifat sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, efallai fod Iechyd yr Amgylchedd yn cadw'r wybodaeth hon.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Rhentu Doeth Cymru'n meddu ar lawer o wybodaeth am yr eiddo rhent preifat sydd ar gael mewn wardiau penodol. Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion roi gwybod i'r pwyllgor am unrhyw fforymau/ddigwyddiadau y gall aelodau'r pwyllgor ddod iddynt yn y dyfodol, gan eu bod yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'r aelodau.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Adroddiad Cwynion Blynyddol

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar dudalen 40. Nodwyd bod pob cwyn yn cael ei datrys yng ngham 1, ond holodd yr aelodau a oes unrhyw gwynion yn symud ymlaen i gamau pellach. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu cwynion a gafodd eu cadarnhau'n rhannol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw apeliadau. Cadarnhaodd swyddogion y byddai nifer o gwynion wedi symud ymlaen i'r cam nesaf. Amlinellodd swyddogion wahanol gamau'r broses gwyno. Mae Cam 1 yn ymchwiliad gan swyddogion mewnol. Mae Cam 2 yn ymchwiliad gan swyddogion allanol ac mae Cam 3 yn atgyfeiriad i'r Ombwdsmon. Dywedodd yr Aelodau y byddai'n ddefnyddiol gweld y nifer amrywiol o gwynion ar wahanol gamau a amlinellir yn yr adroddiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'n cael gafael ar yr wybodaeth honno ar gyfer aelodau.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 42 yr adroddiad a'r weithdrefn cwynion corfforaethol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw gwynion yn unol â'r weithdrefn hon a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd swyddogion fod yr wybodaeth hon yn cael eu hanfon at swyddogion yn wythnosol a'i bod ar gael. Mae cwynion corfforaethol yn tueddu i ymwneud â mwy nag un gyfarwyddiaeth. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r wybodaeth am gwynion a oedd yn cael eu hystyried drwy'r broses cwynion corfforaethol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Polisi Atal ac Adennill Ôl-ddyledion Rhent a Thaliadau Gwasanaeth

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Mae'r polisi’n nodi proses y byddai swyddogion yn ei dilyn i atal pobl sy'n byw mewn llety dros dro rhag cronni ôl-ddyledion, a pha gamau a fyddai'n cael eu cymryd pe bai pobl yn methu'n barhaus â thalu eu rhent neu eu tâl gwasanaeth. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd helpu pobl sy'n byw mewn llety dros dro i wneud taliadau rheolaidd tuag at y costau a nodwyd, a bod y rhai hynny sy'n wynebu ôl-ddyledion yn cael eu cefnogi a'u helpu i weithio tuag at dalu'r ddyled honno. Yn ogystal â'r effaith ariannol ar y Cyngor, amlinellodd swyddogion ei fod yn llawer anos i bobl adael llety dros dro pan fydd ganddynt ôl-ddyledion a hanes o ddyled wael, a bod hyn yn rhan bwysig o'r broses hon. Gall hyn gael effaith niweidiol ar yr unigolyn ei hun ac arwain at gost ariannol fawr i'r Cyngor hefyd.

 

Amlinellodd swyddogion y broses os oes gan berson hawl i gael budd-dal tai. Mae'r budd-dal tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r Cyngor, felly mae'n anghyffredin i bobl fynd i ddyled. Fodd bynnag, os nad yw unigolyn yn derbyn budd-dal tai, mae angen polisi fel hyn er mwyn galluogi'r Cyngor i gymryd camau lle mae person yn gyfrifol am dalu ei rent ac nad yw'n ei dalu. Ochr yn ochr â rhent, codir tâl gwasanaeth gwerth oddeutu £16 yr wythnos y mae'n ofynnol i breswylwyr sy'n byw mewn llety dros dro ei dalu. Dan yr amgylchiadau hyn y bydd y ddyled yn codi'n aml gan fod pobl sy'n byw mewn llety dros dro’n gyfrifol am dalu'r tâl hwnnw'n uniongyrchol i'r Cyngor. Hyd yn hyn, ni fu llawer o oblygiadau os yw unigolyn yn methu gwneud taliadau rheolaidd i'r awdurdod. Bydd y polisi yn nodi fframwaith clir sy'n manylu ar sut bydd yr awdurdod yn gweithio gyda phobl sy'n cronni ôl-ddyledion yn ogystal â helpu pobl i beidio â mynd i ddyled yn y lle cyntaf.

 

Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd na fydd y polisi'n rhoi pobl ddiamddiffyn dan anfantais. Roedd swyddogion yn cydnabod bod pobl sy'n byw mewn llety dros dro ymhlith aelodau mwyaf diamddiffyn y gymuned yn aml. Dywedodd swyddogion na fyddai'r polisi'n cael ei weithredu nes y byddent yn fodlon bod popeth wedi'i wneud i geisio helpu'r unigolyn sy'n byw mewn llety dros dro i beidio â chronni ôl-ddyledion. Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o’r hyn a wneir cyn i rywun gael cynnig llety dros dro, er enghraifft nodi'r taliadau gofynnol, darllen drwy gontractau cysylltiedig ac ati, a hynny mewn ffordd sy'n eglur i'r unigolyn.

 

Pan fydd rhywun yn cael ei roi mewn llety dros dro, dyrennir Swyddog Cefnogaeth a Llety iddo. Ei rôl yw cyfathrebu â'r person a datblygu cynllun cymorth personol ar gyfer yr unigolyn hwnnw sy'n berthnasol i'w amgylchiadau bywyd.

Cadarnhaodd swyddogion fod ganddynt gysylltiadau â sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Hawliau Lles, a allai helpu i gefnogi'r unigolyn. Bydd y swyddog hefyd yn mynd gyda'r unigolyn i wahanol apwyntiadau i'w helpu i ddeall y cyngor a ddarperir o bosib. Ar ben hynny, gall y swyddog gyfeirio'r unigolyn i asiantaethau arbenigol sy'n rhoi cymorth ar ddyledion i’w helpu i reoli ei ddyledion. Mae'r awdurdod hefyd yn darparu cyrsiau ‘paratoi ar gyfer tenantiaeth’. Mae'r cwrs hwn yn helpu pobl i baratoi a meithrin y sgiliau i reoli cartref, er enghraifft cyllidebu. Mae cymorth hefyd yn cael ei ddarparu i helpu pobl i gael mynediad at gyflogaeth.

 

Rhoddodd swyddogion enghraifft lle na fyddai'r polisi yn cael ei weithredu. Gallai hyn ddigwydd pan fydd budd-daliadau'n cael eu hatal, gan atal yr unigolyn rhag gallu talu'r taliadau sy'n ofynnol ar gyfer llety dros dro mwyach. Gwnaeth y swyddog helpu'r unigolyn i adfer ei fudd-daliadau yn ogystal â gwneud ôl-daliad. Roedd hyn yn golygu y gallai'r person wedyn ad-dalu'r ôl-ddyledion.

 

Holodd yr aelodau faint o ôl-ddyledion sydd heb eu casglu ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion nad oeddent yn gwybod yr union gyfanswm ond bod rhai symiau amlwg heb eu casglu. Dywedodd swyddogion y gallent gael gafael ar y cyfanswm a'i ddosbarthu i'r aelodau.

 

Nododd yr aelodau y gefnogaeth helaeth a gynigir gan y gwasanaeth a oedd wedi cael ei hamlygu yn ystod y cyfarfod.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.

 

 

Trefniadau Cyllid Grant Cymunedau Cynaliadwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Darparu Mannau Cynnes a Chroesawgar

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.

Gofynnodd yr aelodau am restr o'r mannau cynnes sydd ar gael i bobl ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r wybodaeth hon.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 26/06/2024

Dyddiad y penderfyniad: 18/04/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/04/2024 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol