Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

10/11/2022 - Development of Step Up and Step Down Services ref: 2995    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022


10/11/2022 - Procurement of a Specialist Domiciliary Care Framework ref: 2991    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

a.   Bod unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol fel rhan o'r broses gomisiynu'n cael ei gynnal gan Swyddogion.

 

b.   Bod ymarfer caffael yn cael ei gynnal gan Swyddogion er mwyn sefydlu fframwaith amlgyflenwr ar gyfer darparu gofal cartref arbenigol, y gellir ei ddefnyddio gan y cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

c.   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gytundeb fframwaith gyda'r cynigydd(wyr) y gwerthusir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y ceisiadau), ar gyfer darparu gofal cartref arbenigol. Bod y cytundeb hwn am gyfnod o bedair blynedd gydag opsiwn i'w ymestyn am hyd at bedair blynedd arall.

 

ch. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ddefnyddio'r fframwaith hwn, lle bo'n briodol, i brynu Gwasanaethau Gofal Cartref arbenigol ac ymrwymo i gytundebau gwasanaeth unigol.

 

  1. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i wneud trefniant gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe er mwyn i'r cyngor gynnal y fframwaith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol i ymgymryd ag ymarfer caffael i brynu gwasanaeth gofal cartref arbenigol.

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion a galwadau'r rheini y mae angen arnynt y gwasanaethau sy'n cael eu hamlinellu o fewn y fframwaith.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

 

 


10/11/2022 - Establishing a Managed Account and Payroll Support Framework ref: 2990    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

a)   Bod ymarfer yn cael ei gynnal sy'n cynnwys yr holl ymgynghoriad angenrheidiol, i alluogi sefydlu fframwaith i ddarparwyr sy'n gallu cynnig Cyfrifon a Reolir a Gwasanaethau Cefnogi'r Gyflogres i bobl sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

 

b)   Bod Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn cael awdurdod dirprwyedig i ychwanegu darparwyr sy'n bodloni gofynion y fframwaith.  Bod y fframwaith yn para am bedair blynedd gyda'r opsiwn o ymestyn y cyfnod am hyd at bedair blynedd arall.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i gyflawni'i ddyletswydd statudol i gefnogi derbynyddion Taliadau Uniongyrchol wrth sefydlu'r fframwaith.

 

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson ag arfer gorau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.

 

 


10/11/2022 - Contractual Arrangements for an Adult Placement (Shared Lives) Support Service ref: 2996    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022


10/11/2022 - Contractual Arrangements for a Range of Children and Young People Services ref: 3003    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 10/11/2022


10/11/2022 - National Collaborative Arrangements for Welsh (Local Authority) Adoption and Fostering Services ref: 2994    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i arwyddo'r Cytundeb er mwyn sefydlu Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cyd-drefniadau Mabwysiadu) (Cymru) 2015.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith, fel y cytunwyd gyda Chadeirydd Bwrdd Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

 


10/11/2022 - Permission to consider a restructure In Hillside ref: 2997    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022


10/11/2022 - Uplift To Older People Care Home Fees ref: 2993    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

·        Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn cael awdurdod dirprwyedig i:

 

·        Weithredu cynnydd o £30 y pen, yr wythnos i bris y contract cyfredol ar gyfer prynu gwasanaethau Cartrefi Gofal Pobl Hŷn yn ardal Castell-nedd Port Talbot ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023;

·        Bod y codiad yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau o 1Ebrill 2022.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod ffïoedd sy'n cael eu talu i Gartrefi Gofal Pobl Hŷn yn talu costau cynyddol darparu eu gwasanaethau, gan sicrhau sefydlogrwydd y farchnad a chydymffurfiaeth â Safon 10 Fframwaith Comisiynu: Canllawiau ac Arfer Da Llywodraeth Cymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 

 


10/11/2022 - Rhodes Avenue Changing Rooms Lease Transfer ref: 2992    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 10/11/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 29/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion lunio cytundeb er mwyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion allu meddiannu mangre sy'n eiddo i'r cyngor a elwir yn "Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes".

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn sicrhau bod y Gwasanaethau i Oedolion yn llunio cytundeb i feddiannu Ystafelloedd Newid Rhodfa Rhodes i ddarparu hwb cymunedol anabledd a hamdden gorfforol i'r gymuned.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol

 


15/11/2022 - Council Tax and Business Rates - Representatives at Magistrate Court Proceedings ref: 2998    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Bod y rhestr ddiwygiedig o bobl i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion y Llys Ynadon, at ddibenion adennill treth y cyngor ac ardrethi busnes yn cael ei chymeradwyo, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cadarnhau'r swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion y Llys Ynadon.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am.

 

Wards affected: (All Wards);


15/11/2022 - Sundry Debtor Write Offs (Exempt Under Paragraph 14) ref: 3002    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2022

Effective from: 15/11/2022


15/11/2022 - Application for Business Rates Hardship Relief (Exempt Under Paragraph 14) ref: 3001    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Wards affected: Briton Ferry West;


15/11/2022 - Write Off Of Council Tax (Exempt Under Paragraph 14) ref: 3000    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Wards affected: Aberavon; Baglan; Briton Ferry East; Briton Ferry West; BRYNCOCH SOUTH; Cimla and Pelenna; Coedffranc North; Crynant, Onllwyn and Seven Sisters; Glynneath Central and East; Gwaun-Cae-Gurwen and Lower Brynaman; Gwynfi and Croeserw; Margam and Taibach; Neath East; Pontardawe; Port Talbot; Resolven and Tonna; Sandfields East;


15/11/2022 - Access to Meetings - Exclusion of the Public ref: 2999    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2022 - Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/11/2022

Effective from: 15/11/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 


27/09/2022 - Welsh in Education Strategic Plan ref: 2921    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2022

Effective from: 27/09/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i'r cyngor er mwyn cael caniatâd i'w gyhoeddi a bwrw ati i'w roi ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith.

 

Ymgynghoriad:

 

Roedd yr eitem yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid am gyfnod o naw wythnos.

 

 

Wards affected: (All Wards);


27/09/2022 - Play Sufficiency Assessment ref: 2922    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2022

Effective from: 27/09/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bod cynllun gweithredu'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae sy'n amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer darparu a datblygu chwarae yn yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ymgymryd â chynllun gweithredu statudol a gaiff ei ddatblygu o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022 i sicrhau bod cymaint â phosib o adnoddau ar gael ar gyfer chwarae er mwyn gwella ansawdd y ddarpariaeth a gynigir ar draws y sir.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.

 

Wards affected: (All Wards);


27/09/2022 - Disposal of Land at Neath Leisure Centre ref: 2920    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2022

Effective from: 27/09/2022

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

a)    Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, bod y tir a'r fangre yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn cael ei ddatgan fel eiddo nad oes ei angen mwyach ar gyfer gofynion Gwasanaethau Hamdden strategol, parhaus y Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes.

 

b)    Pan fydd Canolfan Hamdden Castell-nedd yn wag, bod y cyfrifoldeb parhaus am reoli a gwaredu'r fangre yn y dyfodol yn cael ei drosglwyddo i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio.

 

 

c)   Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r

Pennaeth Cyfranogiad

 a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i dderbyn ildiad y brydles bresennol ar gyfer y cyfleuster gan y tenant presennol.

 

d)    Bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i gyflwyno rhybudd o derfyniad a sicrhau y ceir meddiant gwag o ran o'r cyfleuster gan yr is-denant presennol.

 

e)    Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, i ymrwymo i brydles tymor byr er mwyn i Hamdden Celtic weithredu Canolfan Hamdden newydd Castell-nedd o'i hagoriad tan ddyddiad trosglwyddo'r gwasanaethau hamdden dan do i'r cyngor ar 31 Mawrth 2023 (neu os na fodlonir y dyddiad 31 Mawrth 2023, y dyddiad pan ddaw'r gwasanaethau hamdden yn ôl yn fewnol).

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Ni fydd Canolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn weithredol mwyach pan fydd y cyfleuster yn cau a staff a defnyddwyr yn cael eu hadleoli i Ganolfan Hamdden newydd yng nghanol y dref yn ystod Hydref 2022 ac felly, ni fydd angen cyfleuster Heol Dyfed mwyach at ddibenion hamdden gweithredol a strategol parhaus y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes. Bydd trefnu i Hamdden Celtic weithredu'r Ganolfan Hamdden newydd tan yr amser pan fydd y cyngor yn dod yn gyfrifol am gynnal ei wasanaethau hamdden yn sicrhau gweithrediad y cyfleusterau newydd o'u hagoriad, a darpariaeth barhaus cyfleusterau hamdden yng Nghastell-nedd.

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i mewn o dridiau'n berthnasol iddo.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.

 

Wards affected: Neath East; Neath North; Neath South;