Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Statws: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod cynllun gweithredu'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
sy'n amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer darparu a datblygu chwarae yn yng
Nghastell-nedd Port Talbot, yn cael ei gymeradwyo.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Galluogi'r cyngor i ymgymryd â chynllun gweithredu
statudol a gaiff ei ddatblygu o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022
i sicrhau bod cymaint â phosib o adnoddau ar gael ar gyfer chwarae er mwyn
gwella ansawdd y ddarpariaeth a gynigir ar draws y sir.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar
unwaith.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.
Dyddiad cyhoeddi: 17/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: