Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 15fed Tachwedd, 2022 2.10 pm

Lleoliad: Teams/ hybrid at Council Chamber - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Tammie Davies 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S K Hunt yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2022.

 

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

6.

Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes - Cynrychiolwyr yn ystod Achosion Llysoedd Ynadon pdf eicon PDF 452 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y rhestr ddiwygiedig o bobl i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion y Llys Ynadon, at ddibenion adennill treth y cyngor ac ardrethi busnes yn cael ei chymeradwyo, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cadarnhau'r swyddogion sydd wedi'u hawdurdodi i gynrychioli'r awdurdod mewn achosion y Llys Ynadon.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am.

 

7.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 313 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

8.

Dileu Treth y Cyngor (Yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Nododd aelodau'r Is-bwyllgor y cyfanswm cywir o ddyledion treth y cyngor sydd wedi'u dileu, fel a ddiwygiwyd ar lafar gan y Prif Swyddog Cyllid.

 

Penderfyniad:

 

Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu'r symiau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i ddileu dyledion cyfrifon nad oes modd eu hadennill.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am.

 

9.

Cais am Ryddhad Caledi Ardrethi Busnes (Yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod y cais am Ryddhad Caledi, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, yn cael ei wrthod.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

·                    Ni ellir gwarantu dichonoldeb tymor hir y busnes.

·                    Ni fyddai colli'r busnes yn cael effaith andwyol ar y gymuned.

·                    Nid oes gan y busnes weithlu mawr, felly nifer bach o bobl fyddai’n colli swyddi.

·                    Dylai'r perchennog fynd ati i chwilio am lety amgen, mwy priodol a cheisio dod â'i brydles bresennol i ben, neu gysylltu â'r landlord i ymgymryd â gwaith atgyweirio hanfodol os yw hyn yn effeithio ar ei allu i greu incwm.

·                    Dylai'r perchennog gysylltu â'r Swyddfa Brisio i geisio lleihau ei werth ardrethol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am.

 

10.

Dileu Dyledion Mân Ddyledwyr (Yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i ddileu symiau'r mân ddyledwyr, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:  

 

Nid oes modd adfer y symiau sy'n ddyledus.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am.