Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Bod y cais
am Ryddhad Caledi, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, yn cael
ei wrthod.
Rheswm dros
y penderfyniad:
·
Ni ellir gwarantu dichonoldeb tymor hir y busnes.
·
Ni fyddai colli'r busnes yn cael effaith andwyol ar y gymuned.
·
Nid oes gan y busnes weithlu mawr, felly nifer bach o bobl fyddai’n colli
swyddi.
·
Dylai'r perchennog fynd ati i chwilio am lety amgen, mwy priodol a cheisio
dod â'i brydles bresennol i ben, neu gysylltu â'r landlord i ymgymryd â gwaith
atgyweirio hanfodol os yw hyn yn effeithio ar ei allu i greu incwm.
·
Dylai'r perchennog gysylltu â'r Swyddfa Brisio i geisio lleihau ei werth
ardrethol.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 am 9.00am.
Dyddiad cyhoeddi: 28/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/11/2022 - Is-bwyllgor (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: