Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
a)
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam
cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, bod y tir a'r fangre yng Nghanolfan
Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn cael ei ddatgan fel eiddo nad
oes ei angen mwyach ar gyfer gofynion Gwasanaethau Hamdden strategol, parhaus y
Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes.
b)
Pan fydd Canolfan Hamdden
Castell-nedd yn wag, bod y cyfrifoldeb parhaus am reoli a gwaredu'r fangre yn y
dyfodol yn cael ei drosglwyddo i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio.
c)
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r
Pennaeth Cyfranogiad
a'r Pennaeth
Eiddo ac Adfywio i dderbyn ildiad y brydles bresennol ar gyfer y cyfleuster gan
y tenant presennol.
d)
Bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio,
ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i
gyflwyno rhybudd o derfyniad a sicrhau y ceir meddiant gwag o ran o'r
cyfleuster gan yr is-denant presennol.
e)
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, i ymrwymo i brydles tymor byr er mwyn i Hamdden Celtic weithredu
Canolfan Hamdden newydd Castell-nedd o'i hagoriad tan ddyddiad trosglwyddo'r
gwasanaethau hamdden dan do i'r cyngor ar 31 Mawrth 2023 (neu os na fodlonir y
dyddiad 31 Mawrth 2023, y dyddiad pan ddaw'r gwasanaethau hamdden yn ôl yn
fewnol).
Rheswm dros y Penderfyniad:
Ni fydd Canolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn
weithredol mwyach pan fydd y cyfleuster yn cau a staff a defnyddwyr yn cael eu
hadleoli i Ganolfan Hamdden newydd yng nghanol y dref yn ystod Hydref 2022 ac
felly, ni fydd angen cyfleuster Heol Dyfed mwyach at ddibenion hamdden
gweithredol a strategol parhaus y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol
Oes. Bydd trefnu i Hamdden Celtic weithredu'r Ganolfan Hamdden newydd tan yr
amser pan fydd y cyngor yn dod yn gyfrifol am gynnal ei wasanaethau hamdden yn
sicrhau gweithrediad y cyfleusterau newydd o'u hagoriad, a darpariaeth barhaus
cyfleusterau hamdden yng Nghastell-nedd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.
Dyddiad cyhoeddi: 17/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 27/09/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: