Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i gyflwyno Cynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg i'r cyngor er mwyn cael caniatâd i'w gyhoeddi a bwrw ati
i'w roi ar waith.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Cydymffurfio â Rheoliadau
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar
unwaith.
Ymgynghoriad:
Roedd yr eitem yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
cynhwysfawr a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid am gyfnod o naw
wythnos.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod cynllun gweithredu'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
sy'n amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer darparu a datblygu chwarae yn yng
Nghastell-nedd Port Talbot, yn cael ei gymeradwyo.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Galluogi'r cyngor i ymgymryd â chynllun gweithredu
statudol a gaiff ei ddatblygu o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022
i sicrhau bod cymaint â phosib o adnoddau ar gael ar gyfer chwarae er mwyn
gwella ansawdd y ddarpariaeth a gynigir ar draws y sir.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar
unwaith.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/09/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/11/2022
Effective from: 27/09/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
a)
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam
cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, bod y tir a'r fangre yng Nghanolfan
Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn cael ei ddatgan fel eiddo nad
oes ei angen mwyach ar gyfer gofynion Gwasanaethau Hamdden strategol, parhaus y
Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes.
b)
Pan fydd Canolfan Hamdden
Castell-nedd yn wag, bod y cyfrifoldeb parhaus am reoli a gwaredu'r fangre yn y
dyfodol yn cael ei drosglwyddo i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio.
c)
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r
Pennaeth Cyfranogiad
a'r Pennaeth
Eiddo ac Adfywio i dderbyn ildiad y brydles bresennol ar gyfer y cyfleuster gan
y tenant presennol.
d)
Bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio,
ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i
gyflwyno rhybudd o derfyniad a sicrhau y ceir meddiant gwag o ran o'r
cyfleuster gan yr is-denant presennol.
e)
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, i ymrwymo i brydles tymor byr er mwyn i Hamdden Celtic weithredu
Canolfan Hamdden newydd Castell-nedd o'i hagoriad tan ddyddiad trosglwyddo'r
gwasanaethau hamdden dan do i'r cyngor ar 31 Mawrth 2023 (neu os na fodlonir y
dyddiad 31 Mawrth 2023, y dyddiad pan ddaw'r gwasanaethau hamdden yn ôl yn
fewnol).
Rheswm dros y Penderfyniad:
Ni fydd Canolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn
weithredol mwyach pan fydd y cyfleuster yn cau a staff a defnyddwyr yn cael eu
hadleoli i Ganolfan Hamdden newydd yng nghanol y dref yn ystod Hydref 2022 ac
felly, ni fydd angen cyfleuster Heol Dyfed mwyach at ddibenion hamdden
gweithredol a strategol parhaus y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol
Oes. Bydd trefnu i Hamdden Celtic weithredu'r Ganolfan Hamdden newydd tan yr
amser pan fydd y cyngor yn dod yn gyfrifol am gynnal ei wasanaethau hamdden yn
sicrhau gweithrediad y cyfleusterau newydd o'u hagoriad, a darpariaeth barhaus
cyfleusterau hamdden yng Nghastell-nedd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Neath East; Neath North; Neath South;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr oriau agor a chau ar gyfer y Nadolig a’r
Flwyddyn Newydd, ar gyfer llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol, Parc
Gwledig Margam, canolfannau hamdden a phyllau nofio yn cael eu cymeradwyo, fel
y nodwyd yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Fel bod cyfleusterau'r cyngor ar gael i'r cyhoedd
lle mae galw amdanynt i fod ar agor, ac i reolwyr wneud trefniadau priodol gyda
staff rheng flaen.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022.
Ymgynghoriad:
Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem
hon.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
1.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam
cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig: bod yr Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth
Cymru yn cael ei gymeradwyo.
2.
Bod cynnwys adroddiad
Llyfrgelloedd Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei nodi.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn i'r cyngor gydymffurfio â'i ddyletswydd
statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rhoi ar waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio
integredig:
1.
bod Gwasanaeth Archifau
Gorllewin Morgannwg yn cael ei adleoli o'r Ganolfan Ddinesig, Abertawe i hen
siop British Home Stores a WHAT!
2.
nodir bod y cyfrifoldebau
rheoli'n trosglwyddo o Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i
Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid.
3.
bod Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar a chwblhau
Gweithred Amrywio, i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ar 11 Ebrill 2014, ac yn rhoi
argymhellion 1 a 2 ar waith.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot gael
mynediad at wasanaeth archifau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Cofnodion)
1972.
Rhoi ar waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31
Hydref 2022.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad mewn perthynas
â'r adroddiad hwn. Mae trafodaethau â Chyngor Dinas a Sir Abertawe wedi bod yn
mynd rhagddynt fel rhan o'r gwaith datblygu.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod Atodiad 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, sef y Strategaeth
Cyfranogiad ac Ymgysylltu, yn cael ei gymeradwyo i ymgynghori arno.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn cwblhau a gwreiddio'r Strategaeth
Cyfranogiad ac Ymgysylltu yn dilyn yr ymgynghoriad.
Rhoi ar waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022.
Ymgynghoriad:
Cynhelir yr ymgynghoriad â'r holl randdeiliaid, gan
gynnwys ysgolion, y trydydd sector, gwasanaethau partner, asiantaethau,
rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 27/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Nodir yr adroddiad.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 27/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Nodir yr adroddiad.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod y Polisi Derbyn i Ysgolion Cymunedol 2024/2025, yn cael ei
gymeradwyo i ymgynghori arno.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn i'r cyngor gyflawni'i ddyletswyddau
statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion
cymunedol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022.
Ymgynghoriad:
Mae angen ymgynghoriad â chyrff llywodraethu
ysgolion cymunedol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol h.y.
ysgolion ffydd, a phob awdurdod lleol cyfagos. Yn ogystal, bydd y cyngor yn
ymgynghori ar y Fforwm Derbyniadau, a bydd y broses ymgynghori'n dod i ben ar
30 Rhagfyr 2022.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
1.
Bod y Rhaglen Cymorth
Fugeiliol newydd a'r amserlen lai yn cael eu cymeradwyo.
2.
Bod yr arweiniad darparwyr
amgen yn cael ei fabwysiadu.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y rhaglen a'r arweiniad darparwyr amgen yn
cryfhau trefniadau a phrosesau monitro ymhellach ar gyfer dysgwyr sydd mewn
peryg o ymddieithriad.
Rhoi ar waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 31 Hydref
2022.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori â'r rhanddeiliaid
perthnasol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 01/11/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
1.
Bod yr offeryn llywodraethu, a
atodir fel atodiad A, o'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei gymeradwyo, gyda
dyddiad ymgorffori 1 Mawrth 2023, gan greu corff llywodraethu parhaol.
2.
Bod yr ysgol yn cael ei
henwi'n Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles.
Rheswm dros y Penderfyniad:
I gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ar gyfer
sefydlu'r ysgol newydd, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles.
Rhoi ar waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 27/10/2022 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2022
Effective from: 27/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Nodir yr adroddiad.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a
ganlyn:-
Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr
Cymeradwy.
Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-
Cwmni |
Categori |
Cello Recycling Ltd
(C074) |
6,7 |
B&A Cranes Ltd (B042) |
111 |
Our Tree Company (O012) |
101,102 |
Pirtek Swansea (P053) |
111 |
VaultStone Ltd (V013) |
25,36 |
BSW Holdings – Bus Shelters Ltd (B043) |
107 |
Rema Tip Top Industry UK Ltd (R044) |
111 |
RSP Drain Cleaning/RSP Drainage Ltd (R043) |
94 |
Secured Alarm Systems Ltd (S099) |
47,48,49 |
WCS Environmental Ltd (W042) |
53,54,58 |
Cwmnïau categorïau ychwanegol i'w hychwanegu at y
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu
cynnwys ar y rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol ac wedi pasio'r asesiadau
angenrheidiol:-
Cwmni
|
Categori |
Glamorgan Services Ltd (G004) |
15,16,17A |
R & M Williams Ltd (W015) |
14,28 |
Rheswm dros y Penderfyniad:
Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn
gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.
Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben
darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y
categori perthnasol.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, bod y gwrthwynebiadau i'r Gorchymyn (Dirymu) Gwahardd Aros, Llwytho
a Dadlwytho Ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Aros Ar Unrhyw Adeg) 2022 ar gyfer Cei
Mariners, Ffordd y Dywysoges Margaret a Heol Victoria, Port Talbot, yn cael eu
cefnogi'n rhannol (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) a bod
y cynllun diwygiedig (fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd) yn
cael ei roi ar waith ar y safle, a bod y
gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig
yn hwyluso traffig i deithio'n ddiogel ac yn atal parcio diwahaniaeth er
diogelwch ar y ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i hysbysebu'r gorchymyn
rheoleiddio traffig oddi ar y stryd ar Iard Mackworth, a'r gorchymyn
rheoleiddio traffig ar Ffordd Fairfield mewn cysylltiad â'r Datblygiad
Manwerthu a Hamdden newydd yng Nghastell-nedd, (fel y nodwyd yn Atodiad A ac
Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw
wrthwynebiadau, fod y cynigion yn cael eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig
yn atal parcio diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch
ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gwall
wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a gylchredwyd, a chyfeiriwyd ato yn y drafodaeth
a gynhaliwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio
a Strydlun, a gynhaliwyd cyn cyfarfod Bwrdd y Cabinet.
Penderfyniadau:
Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr
Aelodau'n gefnogol o ychwanegu rhif 4 at yr argymhelliad, fel y nodir isod:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig:
1.
Bod y Cyngor yn cymryd rhan ym
mhrosiect Y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol (CATG) ac yn llofnodi'r
Cytundeb Dosbarthu Data mewn perthynas ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad a
gylchredwyd;
2.
Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd, yn cael ei awdurdodi i lofnodi'r Cytundeb Dosbarthu Data ar ran y
cyngor;
3.
Petai pwysau refeniw yn deillio
o gymryd rhan yn y prosiect mewn perthynas ag Opsiwn 2, byddai angen nodi
cyllid o fewn y gyllideb bresennol ar gyfer yr Amgylchedd ac Adfywio petai
parhad yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth;
4.
Bod adolygiad ar gostau a
manteision opsiwn 2, a gynhwysir yn yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei
ddwyn yn ôl i Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ym
mis Ebrill 2024 sy'n manylu ar barhad posib y cynllun.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Penderfynu ar yr ymateb i gais i ymuno â
Chofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol
Llywodraeth y DU.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Eglurodd swyddogion fod y trydydd paragraff o dan
adran 'Asesiad Effaith Integredig' yr adroddiad a gylchredwyd wedi'i gynnwys
trwy gamgymeriad, ac ni ddylid ei ystyried fel rhan o'r adroddiad.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
sgrinio integredig:
1.
Bod cymeradwyaeth yn cael ei
rhoi i hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30mya sy'n
gysylltiedig â bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o
20mya yn genedlaethol yn 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a
gylchredwyd) yn unol â'r gofynion statudol.
2.
Bod y cynlluniau'n cael eu rhoi
ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y Rheoliadau
Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Os
bydd unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn perthynas ag unrhyw
gynlluniau, adroddir yn ôl am y rhain wrth Fwrdd Gwasanaethau'r Amgylchedd,
Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig
yn newid y llwybrau strategol yn ôl i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r
terfyn cyflymder diofyn 20mya yn genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar
y prif rwydwaith ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig, bod Gorchymyn Diddymu llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud yn
unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn perthynas â'r llwybr a
ddangosir A-B-C-D a ddangosir ar gynllun atodedig yr adroddiad a gylchredwyd.
Bod y gorchymyn hwn hefyd yn cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo.
Rheswm dros y Penderfyniad:
1. Mae angen datrys y ffordd y darlunnir llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg trwy dai
pan fo dewis arall addas yn bodoli.
2. Ni chafodd y dewis arall a ddarparwyd yn wreiddiol erioed ei wneud yn
destun gorchymyn dargyfeirio adeg y datblygiad tai. Ond eto, ers ei gau, does
dim galw wedi bod i'w ailagor.
3. Oherwydd bodolaeth ffyrdd y stad o fewn y datblygiad tai, mae dewis arall
addas ar gael trwy'r llwybrau troed sy'n cefnogi'r achos nad oes angen y llwybr
A-B-C-D ymhellach.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 14/11/2022
Effective from: 28/10/2022
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig:
1.
Bod Gorchymyn Diddymu llwybr
cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn
perthynas â'r llwybr a ddangosir A-F-B-B ac F-G-H-I-E a ddangosir ar y cynllun
atodedig yn Atodiad 2 o'r adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn
cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau
iddo.
2.
Bod Gorchymyn Creu llwybr
cyhoeddus yn cael ei wneud yn unol ag Adran 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn
perthynas â'r llwybr a ddangosir fel A-B ac C-D-E a ddangosir ar y cynllun
atodedig yn Atodiad 2 yr adroddiad a gylchredwyd. Bod y gorchymyn hwn hefyd yn
cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau
iddo.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Gwneir y gorchmynion hyn gan yr ystyrir ei fod yn
fuddiol symud cyffordd y tri llwybr hyn o fuarth fferm Gelliwarog a darparu
mynediad ffurfiol i'r cyhoedd ar draws y tir yn lle'r hydoedd presennol sydd
dan sylw.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.