Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig, bod Gorchymyn Diddymu llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud yn
unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980, mewn perthynas â'r llwybr a
ddangosir A-B-C-D a ddangosir ar gynllun atodedig yr adroddiad a gylchredwyd.
Bod y gorchymyn hwn hefyd yn cael ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo.
Rheswm dros y Penderfyniad:
1. Mae angen datrys y ffordd y darlunnir llwybr cyhoeddus sy'n rhedeg trwy dai
pan fo dewis arall addas yn bodoli.
2. Ni chafodd y dewis arall a ddarparwyd yn wreiddiol erioed ei wneud yn
destun gorchymyn dargyfeirio adeg y datblygiad tai. Ond eto, ers ei gau, does
dim galw wedi bod i'w ailagor.
3. Oherwydd bodolaeth ffyrdd y stad o fewn y datblygiad tai, mae dewis arall
addas ar gael trwy'r llwybrau troed sy'n cefnogi'r achos nad oes angen y llwybr
A-B-C-D ymhellach.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 1 Tachwedd
2022.
Dyddiad cyhoeddi: 14/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 28/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/10/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: