Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 14/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Dylid nodi'r
adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 14/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig:
1.
Bydd Polisi
Gosodiadau a Rennir Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021, fel y’i hatodir
yn Atodiad 1, yn cael ei gymeradwyo i'w roi ar waith fesul cam fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad â'r Aelod
Cabinet perthnasol, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud unrhyw
fân newidiadau pellach i'r Polisi sy'n angenrheidiol fel y gellir rhoi’r polisi
ar waith yn effeithiol ac mewn modd amserol, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
3.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad ag Aelodau
perthnasol y Cabinet, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud
unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r Polisi oherwydd newid mewn deddfwriaeth,
canllawiau neu broses weithredu, cyn ei adolygiad cyfnodol cyffredinol nesaf.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Sicrhau bod gan y cyngor a Tai
Tarian Bolisi Gosodiadau a Rennir a adolygwyd yn ddiweddar, sy'n cael ei roi ar
waith mewn modd amserol ac eto fesul cam, ac sy'n parhau i gydymffurfio â'r
holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol tan y tro nesaf y caiff ei adolygu.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu gweithredu ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a'r
broses rhoi ar waith fesul cam ddilynol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Ymgynghoriad:
Mae'r Polisi
wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl y gofyn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 09/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
I'w nodi
Bod y
Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Chwarter 2, Ebrill 2021 – Medi 2021
yn cael eu nodi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 14/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig a'r adroddiad ymgynghori:
Bydd y Fframwaith Sicrhau Ansawdd,
fel y'i nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo
i'w ddefnyddio gan Swyddogion.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Sicrhau bod
gan y cyngor Gynlluniau Byw â Chymorth cynaliadwy o ansawdd da sydd ar gael i
ddiwallu anghenion oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl yng
Nghastell-nedd Port Talbot.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem hon wedi bod yn destun
ymgynghoriad allanol, ac mae'r adroddiad ymgynghori i'w weld yn Atodiad 2.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 14/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig, ac os rhoddir y caniatâd cynllunio perthnasol i Gymdeithas
Tai Dewis Cyntaf a'u bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu'r llety:
1. Bydd ymarfer caffael i gomisiynu
gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn
cael ei gynnal.
2. Yn dilyn y broses gaffael, bydd
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn derbyn yr awdurdod dirprwyedig i ymrwymo
i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol
yn economaidd (gan ystyried safon a chost y cynigion), ar gyfer darparu gofal a
chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Bydd cynnal ymarfer caffael ar gyfer
darparu gwasanaethau gofal a chymorth o fewn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn
sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol wrth brynu'r gwasanaethau
hyn. Yn ogystal, bydd hyn yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i barhau i
ddiwallu anghenion a bodloni gofynion y rheini sy'n gofyn am y gwasanaethau hyn
drwy brynu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy’n ariannol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: Dyffryn;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 14/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Bydd ymarfer
caffael i gomisiynu gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag
anabledd yn cael ei gynnal.
2.
Yn dilyn y broses gaffael,
rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
ymrwymo i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf
manteisiol yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y ceisiadau), ar gyfer
darparu gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag anabledd.
3.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gytundeb
prydles gyda'r ymgeisydd buddugol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau bod trefniadau digonol ar
waith i barhau i ddarparu Gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc
ag anabledd ar ôl mis Gorffennaf 2022.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar
waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 14/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:
Cymeradwyir
cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol o 90 o ddiwrnodau, mewn perthynas â'r
model darparu gwasanaethau yn B'spoked yn y dyfodol, a datblygu'r Hwb Byw'n
Annibynnol, mewn egwyddor, yn amodol ar ddyfarnu cyllid.
Rhesymau
dros y penderfyniad:
a) Gwella'r
gwasanaeth i gefnogi pobl ag anableddau dysgu isel i gymedrol i ddatblygu
sgiliau byw'n annibynnol ochr yn ochr â'r sgiliau y gall fod eu hangen arnynt i
symud ymlaen i waith neu hyfforddiant.
b) Cefnogi
pobl i gyrraedd eu potensial.
c) Lleihau
angen pobl am ofal a chymorth statudol.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Nid oedd
gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon. Fodd bynnag, gwnaed gwaith
sylweddol gyda darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol perthnasol wrth
ddatblygu'r cynnig.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 11/01/2022
Effective from: 09/12/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
I'w nodi
Nododd yr Aelodau y bydd y
partneriaid yn creu 'Cynllun Gweithredu ar y Cyd' sy'n mynd i'r afael â'r
'Meysydd Datblygu' hynny a nodwyd yn y llythyr terfynol. Dyma'r meysydd eang y
nodwyd bod angen eu gwella ar draws y bartneriaeth:
·
Asesiadau
·
Canlyniadau
·
Llais y
Plentyn/Teulu
·
Atgyfeiriadau/Adroddiadau/Cyfathrebu
·
Cynllunio
·
Cyfarfodydd
·
Ymateb i niwed y
tu allan i gartref y teulu/Diogelu
·
Trefniadau
Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd
·
Gwasanaethau
·
Gwella'r ymateb
cychwynnol i'r adroddiad plant sydd ar goll