Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig:
1.
Bydd Polisi
Gosodiadau a Rennir Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021, fel y’i hatodir
yn Atodiad 1, yn cael ei gymeradwyo i'w roi ar waith fesul cam fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad â'r Aelod
Cabinet perthnasol, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud unrhyw
fân newidiadau pellach i'r Polisi sy'n angenrheidiol fel y gellir rhoi’r polisi
ar waith yn effeithiol ac mewn modd amserol, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
3.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad ag Aelodau
perthnasol y Cabinet, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud
unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r Polisi oherwydd newid mewn deddfwriaeth,
canllawiau neu broses weithredu, cyn ei adolygiad cyfnodol cyffredinol nesaf.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Sicrhau bod gan y cyngor a Tai
Tarian Bolisi Gosodiadau a Rennir a adolygwyd yn ddiweddar, sy'n cael ei roi ar
waith mewn modd amserol ac eto fesul cam, ac sy'n parhau i gydymffurfio â'r
holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol tan y tro nesaf y caiff ei adolygu.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu gweithredu ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a'r
broses rhoi ar waith fesul cam ddilynol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Ymgynghoriad:
Mae'r Polisi
wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl y gofyn.
Dyddiad cyhoeddi: 11/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Effective from: 14/12/2021
Dogfennau Cefnogol: