Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd
A Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Croeso a galw’r enwau. Cofnodion: Croesawodd y Cynghorydd A Lockyer
bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw gyhoeddiadau.. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 20 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: I'w nodi Nododd yr Aelodau y bydd y
partneriaid yn creu 'Cynllun Gweithredu ar y Cyd' sy'n mynd i'r afael â'r
'Meysydd Datblygu' hynny a nodwyd yn y llythyr terfynol. Dyma'r meysydd eang y
nodwyd bod angen eu gwella ar draws y bartneriaeth: ·
Asesiadau ·
Canlyniadau ·
Llais y
Plentyn/Teulu ·
Atgyfeiriadau/Adroddiadau/Cyfathrebu
·
Cynllunio ·
Cyfarfodydd ·
Ymateb i niwed y
tu allan i gartref y teulu/Diogelu ·
Trefniadau
Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd ·
Gwasanaethau ·
Gwella'r ymateb
cychwynnol i'r adroddiad plant sydd ar goll |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: I'w nodi Bod y
Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Chwarter 2, Ebrill 2021 – Medi 2021
yn cael eu nodi. |
|
Polisi Gosodiadau Tai a Rennir 2021 - Canlyniad Ymarfer Ymgynghori PDF 701 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig: 1.
Bydd Polisi
Gosodiadau a Rennir Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Tai Tarian 2021, fel y’i hatodir
yn Atodiad 1, yn cael ei gymeradwyo i'w roi ar waith fesul cam fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd. 2.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad â'r Aelod
Cabinet perthnasol, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud unrhyw
fân newidiadau pellach i'r Polisi sy'n angenrheidiol fel y gellir rhoi’r polisi
ar waith yn effeithiol ac mewn modd amserol, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. 3.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion, mewn ymgynghoriad ag Aelodau
perthnasol y Cabinet, a chyda chytundeb Cyfarwyddwr Tai Tai Tarian, wneud
unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r Polisi oherwydd newid mewn deddfwriaeth,
canllawiau neu broses weithredu, cyn ei adolygiad cyfnodol cyffredinol nesaf. Rhesymau
dros y Penderfyniadau: Sicrhau bod gan y cyngor a Tai
Tarian Bolisi Gosodiadau a Rennir a adolygwyd yn ddiweddar, sy'n cael ei roi ar
waith mewn modd amserol ac eto fesul cam, ac sy'n parhau i gydymffurfio â'r
holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol tan y tro nesaf y caiff ei adolygu. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Bydd y
penderfyniadau'n cael eu gweithredu ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a'r
broses rhoi ar waith fesul cam ddilynol fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Ymgynghoriad: Mae'r Polisi
wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ôl y gofyn. |
|
Datblygu Canolfan Byw'n Annibynnol yn B'spoked PDF 320 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig: Cymeradwyir
cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol o 90 o ddiwrnodau, mewn perthynas â'r
model darparu gwasanaethau yn B'spoked yn y dyfodol, a datblygu'r Hwb Byw'n
Annibynnol, mewn egwyddor, yn amodol ar ddyfarnu cyllid. Rhesymau
dros y penderfyniad: a) Gwella'r
gwasanaeth i gefnogi pobl ag anableddau dysgu isel i gymedrol i ddatblygu
sgiliau byw'n annibynnol ochr yn ochr â'r sgiliau y gall fod eu hangen arnynt i
symud ymlaen i waith neu hyfforddiant. b) Cefnogi
pobl i gyrraedd eu potensial. c) Lleihau
angen pobl am ofal a chymorth statudol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Nid oedd
gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon. Fodd bynnag, gwnaed gwaith
sylweddol gyda darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol perthnasol wrth
ddatblygu'r cynnig. |
|
Ymarfer Caffael ar gyfer Darparu Gwasanaeth Seibiant Byr i Blant a Phobl Ifanc Anabl PDF 347 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig: 1.
Bydd ymarfer
caffael i gomisiynu gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag
anabledd yn cael ei gynnal. 2.
Yn dilyn y broses gaffael,
rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
ymrwymo i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf
manteisiol yn economaidd (gan ystyried ansawdd a chost y ceisiadau), ar gyfer
darparu gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc ag anabledd. 3.
Rhoddir awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i ymrwymo i gytundeb
prydles gyda'r ymgeisydd buddugol. Rheswm dros y penderfyniadau: Sicrhau bod trefniadau digonol ar
waith i barhau i ddarparu Gwasanaeth seibiant byr preswyl i Blant a Phobl Ifanc
ag anabledd ar ôl mis Gorffennaf 2022. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar
waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Comisiynu Gwasanaethau Gofal a Chymorth mewn Cynllun Craidd a Chlwstwr PDF 325 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig, ac os rhoddir y caniatâd cynllunio perthnasol i Gymdeithas
Tai Dewis Cyntaf a'u bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu'r llety: 1. Bydd ymarfer caffael i gomisiynu
gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn
cael ei gynnal. 2. Yn dilyn y broses gaffael, bydd
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn derbyn yr awdurdod dirprwyedig i ymrwymo
i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol
yn economaidd (gan ystyried safon a chost y cynigion), ar gyfer darparu gofal a
chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr. Rheswm dros y penderfyniadau: Bydd cynnal ymarfer caffael ar gyfer
darparu gwasanaethau gofal a chymorth o fewn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn
sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol wrth brynu'r gwasanaethau
hyn. Yn ogystal, bydd hyn yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i barhau i
ddiwallu anghenion a bodloni gofynion y rheini sy'n gofyn am y gwasanaethau hyn
drwy brynu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy’n ariannol. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig a'r adroddiad ymgynghori: Bydd y Fframwaith Sicrhau Ansawdd,
fel y'i nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo
i'w ddefnyddio gan Swyddogion. Rheswm dros
y penderfyniad: Sicrhau bod
gan y cyngor Gynlluniau Byw â Chymorth cynaliadwy o ansawdd da sydd ar gael i
ddiwallu anghenion oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl yng
Nghastell-nedd Port Talbot. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. Ymgynghoriad: Mae'r eitem hon wedi bod yn destun
ymgynghoriad allanol, ac mae'r adroddiad ymgynghori i'w weld yn Atodiad 2. |
|
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 426 KB Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer
2021/2022. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Oherwydd yr
angen i ymdrin yn awr â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 15
isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi hyn yn y cyfarfod heddiw fel eitem
frys yn unol ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd yr
elfen amser |
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr 2020 - 2021 PDF 393 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |