Manylion y penderfyniad

Development of Independent Living Hub at B'spoked

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

Cymeradwyir cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol o 90 o ddiwrnodau, mewn perthynas â'r model darparu gwasanaethau yn B'spoked yn y dyfodol, a datblygu'r Hwb Byw'n Annibynnol, mewn egwyddor, yn amodol ar ddyfarnu cyllid.

 

Rhesymau dros y penderfyniad:

 

a) Gwella'r gwasanaeth i gefnogi pobl ag anableddau dysgu isel i gymedrol i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol ochr yn ochr â'r sgiliau y gall fod eu hangen arnynt i symud ymlaen i waith neu hyfforddiant.

 

b) Cefnogi pobl i gyrraedd eu potensial.

 

c) Lleihau angen pobl am ofal a chymorth statudol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Nid oedd gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon. Fodd bynnag, gwnaed gwaith sylweddol gyda darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol perthnasol wrth ddatblygu'r cynnig.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/01/2022

Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2021

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet

Effective from: 14/12/2021

Dogfennau Cefnogol: