Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig, ac os rhoddir y caniatâd cynllunio perthnasol i Gymdeithas
Tai Dewis Cyntaf a'u bod yn bwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu'r llety:
1. Bydd ymarfer caffael i gomisiynu
gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn
cael ei gynnal.
2. Yn dilyn y broses gaffael, bydd
Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn derbyn yr awdurdod dirprwyedig i ymrwymo
i gontract gyda'r cynigiwr yr ystyrir ei fod yn cynnig y tendr mwyaf manteisiol
yn economaidd (gan ystyried safon a chost y cynigion), ar gyfer darparu gofal a
chymorth i bobl sy'n byw yn y Cynllun Craidd a Chlwstwr.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Bydd cynnal ymarfer caffael ar gyfer
darparu gwasanaethau gofal a chymorth o fewn y Cynllun Craidd a Chlwstwr yn
sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio'n gyfreithiol wrth brynu'r gwasanaethau
hyn. Yn ogystal, bydd hyn yn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i barhau i
ddiwallu anghenion a bodloni gofynion y rheini sy'n gofyn am y gwasanaethau hyn
drwy brynu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gynaliadwy’n ariannol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dyddiad cyhoeddi: 11/01/2022
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2021 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Effective from: 14/12/2021
Dogfennau Cefnogol: