Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 28ain Mehefin, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan gynnwys Mr Noelwyn Daniel, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Strategol a Chorfforaethol a oedd wedi dechrau yn y swydd yn ddiweddar.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 9, 12, 13, 14, 17 a 18 o Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cyng. P Rogers - Eitem 18 ar Agenda'r Cabinet – personol, nad yw'n niweidiol

 

Y Cyng. H. C Clarke – Eitem 17 ar Agenda'r Cabinet – personol, nad yw'n niweidiol

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 202 KB

·        25 Ebrill 2022

·        10 Mai 2022

·        17 Mai 2022

·        24 Mai 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023, 10 Mai 2023, 17 Mai 2023, 24 Mai 2023 fel cofnod cywir. 

 

4.

Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Strategaeth Hybu'r Gymraeg pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Aelodau fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn gynhyrchiol ac wedi cynhyrchu syniadau diddorol, ac fe fynegon nhw eu diddordeb mewn parhau fel aelodau i ymwneud â'r Gymraeg wrth symud ymlaen. Dylai'r strategaeth fod yn ddogfen fyw sy'n cael ei hadolygu, ei monitro a'i diweddaru'n rheolaidd i gryfhau ymwybyddiaeth a defnydd o'r iaith ar draws ein cymunedau ac yng ngwaith y cyngor. Nodwyd bod y strategaeth yn bwysig ar draws y cyngor cyfan ond yn enwedig o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd yr Aelodau ei bod wedi bod yn anodd i'r awdurdod, partneriaid a sefydliadau cymunedol ddatblygu'r strategaeth flaenorol oherwydd yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig.

 

Cytunodd Pwyllgor Craffu'r Cabinet i gymeradwyo canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ogystal â'r Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg ddiwygiedig i'r Cabinet.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Premiymau Treth y Cyngor – Cartrefi Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi

 

Gofynnodd yr Aelodau fod yr amgylchedd ariannol presennol yn cael ei ystyried pan fydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud.

 

Ychwanegodd yr aelodau fod effaith ariannol ac y gellid cynhyrchu incwm pe bai'r polisi'n cael ei roi ar waith. Yn dilyn ymgynghoriad, deuir ag adroddiad yn ôl i'r pwyllgor cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei roi ar waith tan y flwyddyn ariannol y flwyddyn ar ôl y flwyddyn nesaf.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.

 

 

Monitro Perfformiad Chwarter 4

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer y rheini sy'n ymdrin â galwadau. Cadarnhaodd swyddogion fod adroddiad manwl ynghylch Gwasanaethau Cwsmeriaid a Pherfformiad wedi ei roi mewn seminar i aelodau yn gynharach eleni. Gan fod y Gwasanaethau Cwsmeriaid bellach yn rhan o'r gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, bwriedir cynnal adolygiad llawn a dyma fydd tasg gyntaf Rheolwr y Gwasanaethau Cwsmeriaid sydd newydd ei benodi a bydd aelodau'n rhan o'r broses adolygu. Mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad ymdrin â galwadau, a tharged y dangosydd perfformiad presennol yw 40 eiliad sy'n amser byr pan fydd staff yn  cwblhau tasgau eraill. Gofynnodd yr aelodau a oedd amseru'r alwad yn dechrau ar ôl y neges Gymraeg/Saesneg a recordiwyd neu pan atebwyd yr alwad ffôn? Cadarnhaodd swyddogion fod yr amseru'n dechrau ar ôl neges a recordiwyd. Ailadroddodd yr aelodau eu cynnig i fod yn rhan o'r broses adolygu.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd y gyfradd cwblhau hyfforddiant diogelu gorfodol yn uwch. Bydd swyddogion yn cael rhagor o wybodaeth gan Adnoddau Dynol a bydd yr eitem hon yn cael ei hychwanegu at agenda nesaf y cyfarfod Craffu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

Datganiad Sefyllfa Alldro a Chronfeydd Refeniw 2022-23

 

Mewn perthynas â'r gyllideb cludiant o'r cartref i'r ysgol, gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud yn ystod y broses o bennu'r gyllideb mewn perthynas â'r gorwariant ac a oedd ffyrdd arloesol eraill o ddarparu'r gwasanaeth hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod ystod o adolygiadau strategol ar gludiant yn parhau, ac y byddai aelodau yn cael clywed am ganlyniad hyn fel rhan o'r broses pennu'r gyllideb ar gyfer eleni. Mae swyddogion yr un mor bryderus am y gorwariant a'r pwysau ar y gyllideb o'r cartref i'r ysgol. Diolchodd yr Aelodau i'r staff am eu gwaith caled a'r problemau yr oeddent wedi'u goresgyn yn ddiweddar.

 

Roedd yr Aelodau'n falch, mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i'r sir, fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu'n agosach at adref a gwnaethant sylwadau hefyd ei fod yn braf gweld cyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion. 

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar symudiad tanwariant i gronfeydd wrth gefn a'r cyfeiriad yn yr adroddiad at 'allu i gefnogi prosiectau adfywio' ac fe ofynnon nhw ar gyfer beth y gellid defnyddio'r gronfa wrth gefn. Cadarnhaodd swyddogion y gellid defnyddio'r cyllid o bosib ar gyfer cyflogi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenraglen Waith 2023-2024 pdf eicon PDF 413 KB

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol yn unol â

Rheoliad 4 (3) a (5) 

o Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen

 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

9.

Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion i'w cyflwyno i Fwrdd y Cabinet.

 

Hen Ganolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.