Manylion y penderfyniad

Craffu Cyn Penderfynu

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Statws: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Premiymau Treth y Cyngor – Cartrefi Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi

 

Gofynnodd yr Aelodau fod yr amgylchedd ariannol presennol yn cael ei ystyried pan fydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud.

 

Ychwanegodd yr aelodau fod effaith ariannol ac y gellid cynhyrchu incwm pe bai'r polisi'n cael ei roi ar waith. Yn dilyn ymgynghoriad, deuir ag adroddiad yn ôl i'r pwyllgor cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud. Ni fydd unrhyw benderfyniad yn cael ei roi ar waith tan y flwyddyn ariannol y flwyddyn ar ôl y flwyddyn nesaf.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.

 

 

Monitro Perfformiad Chwarter 4

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am yr amseroedd aros cyfartalog ar gyfer y rheini sy'n ymdrin â galwadau. Cadarnhaodd swyddogion fod adroddiad manwl ynghylch Gwasanaethau Cwsmeriaid a Pherfformiad wedi ei roi mewn seminar i aelodau yn gynharach eleni. Gan fod y Gwasanaethau Cwsmeriaid bellach yn rhan o'r gyfarwyddiaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, bwriedir cynnal adolygiad llawn a dyma fydd tasg gyntaf Rheolwr y Gwasanaethau Cwsmeriaid sydd newydd ei benodi a bydd aelodau'n rhan o'r broses adolygu. Mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad ymdrin â galwadau, a tharged y dangosydd perfformiad presennol yw 40 eiliad sy'n amser byr pan fydd staff yn  cwblhau tasgau eraill. Gofynnodd yr aelodau a oedd amseru'r alwad yn dechrau ar ôl y neges Gymraeg/Saesneg a recordiwyd neu pan atebwyd yr alwad ffôn? Cadarnhaodd swyddogion fod yr amseru'n dechrau ar ôl neges a recordiwyd. Ailadroddodd yr aelodau eu cynnig i fod yn rhan o'r broses adolygu.

 

Gofynnodd yr Aelodau pam nad oedd y gyfradd cwblhau hyfforddiant diogelu gorfodol yn uwch. Bydd swyddogion yn cael rhagor o wybodaeth gan Adnoddau Dynol a bydd yr eitem hon yn cael ei hychwanegu at agenda nesaf y cyfarfod Craffu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

Datganiad Sefyllfa Alldro a Chronfeydd Refeniw 2022-23

 

Mewn perthynas â'r gyllideb cludiant o'r cartref i'r ysgol, gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw waith wedi'i wneud yn ystod y broses o bennu'r gyllideb mewn perthynas â'r gorwariant ac a oedd ffyrdd arloesol eraill o ddarparu'r gwasanaeth hwn. Cadarnhaodd swyddogion fod ystod o adolygiadau strategol ar gludiant yn parhau, ac y byddai aelodau yn cael clywed am ganlyniad hyn fel rhan o'r broses pennu'r gyllideb ar gyfer eleni. Mae swyddogion yr un mor bryderus am y gorwariant a'r pwysau ar y gyllideb o'r cartref i'r ysgol. Diolchodd yr Aelodau i'r staff am eu gwaith caled a'r problemau yr oeddent wedi'u goresgyn yn ddiweddar.

 

Roedd yr Aelodau'n falch, mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i'r sir, fod pobl ifanc yn cael eu haddysgu'n agosach at adref a gwnaethant sylwadau hefyd ei fod yn braf gweld cyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion. 

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar symudiad tanwariant i gronfeydd wrth gefn a'r cyfeiriad yn yr adroddiad at 'allu i gefnogi prosiectau adfywio' ac fe ofynnon nhw ar gyfer beth y gellid defnyddio'r gronfa wrth gefn. Cadarnhaodd swyddogion y gellid defnyddio'r cyllid o bosib ar gyfer cyflogi staff ychwanegol i gynorthwyo gyda phwysau dros dro. Mae prosiectau amrywiol yn parhau; mae'r prosiectau hyn yn cynnwys Freeport, Wild Fox a'r Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd fel y gellid defnyddio'r cyllid i ddarparu cefnogaeth ar gyfer y meysydd hyn. Mae posibilrwydd hefyd y gellid ei ddefnyddio ar gyfer comisiynu cyngor allanol mewn rhai o'r meysydd hyn os na chynhelir  yr arbenigedd yn fewnol. Nodwyd ym mis Mai fod y Cabinet wedi cymeradwyo cyfraniad o £200,000 tuag at gost y datblygiad Porth Rhydd fel y gellid defnyddio'r gronfa wrth gefn hyn os oes angen.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd yr adroddiad

 

 

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am apêl yr awdurdod yn erbyn y penderfyniad ynghylch Ysgolion Cwm Tawe. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd diweddariad pellach ar hyn o bryd a byddant yn rhoi gwybod i'r aelodau pan fydd rhagor o wybodaeth yn hysbys.

 

Gofynnodd yr aelodau am y gwasanaeth cyfieithu sy'n cael ei ddefnyddio gan staff ac fe ofynnon nhw beth allai gael ei gynnig i aelodau. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Strategol a Chorfforaethol y byddai gwasanaethau cyfieithu'n cael eu hadolygu i nodi lle y gellid cryfhau gwasanaethau i wella a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg a'r cyfleusterau cyfieithu yn fewnol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd yr adroddiad

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2023

Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/06/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet