Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Dywedodd yr Aelodau fod y Grŵp Gorchwyl a
Gorffen wedi bod yn gynhyrchiol ac wedi cynhyrchu syniadau diddorol, ac fe
fynegon nhw eu diddordeb mewn parhau fel aelodau i ymwneud â'r Gymraeg wrth
symud ymlaen. Dylai'r strategaeth fod yn ddogfen fyw sy'n cael ei hadolygu, ei
monitro a'i diweddaru'n rheolaidd i gryfhau ymwybyddiaeth a defnydd o'r iaith
ar draws ein cymunedau ac yng ngwaith y cyngor. Nodwyd bod y strategaeth yn
bwysig ar draws y cyngor cyfan ond yn enwedig o fewn y Gwasanaethau
Cymdeithasol. Dywedodd yr Aelodau ei bod wedi bod yn anodd i'r awdurdod,
partneriaid a sefydliadau cymunedol ddatblygu'r strategaeth flaenorol oherwydd
yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig.
Cytunodd Pwyllgor Craffu'r Cabinet i gymeradwyo
canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ogystal â'r Strategaeth
Hyrwyddo'r Gymraeg ddiwygiedig i'r Cabinet.
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/06/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet
Dogfennau Cefnogol: