Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Bod y
strategaethau a'r polisïau canlynol, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael eu cyflwyno i'r cyngor i'w cymeradwyo:
·
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys
·
Strategaeth Buddsoddi Flynyddol
·
Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw
·
Dangosyddion Darbodus
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Cymeradwyo
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi Flynyddol, Strategaeth
Gyfalaf a Pholisi Darpariaeth Isafswm Refeniw yr awdurdod fel sy'n ofynnol gan
Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chôd Darbodus Sefydliad Siartredig Cyllid
Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol
(2017).
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Rhoddir y
penderfyniad ar waith ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Craffu'r Cabinet ac wedi i
benderfyniad gael ei wneud gan y cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 01/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Bod y
canlynol yn cael ei argymell i'r cyngor i'w cymeradwyo:
·
Y Strategaeth Gyfalaf
·
Y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/2024 i 2025/2026 fel y nodir yn Atodiad 2
yr adroddiad hwn.
·
Y trefniadau dirprwyo fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Cymeradwyo
Rhaglen Gyfalaf yr Awdurdod yn unol â'r Cyfansoddiad.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y
cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 01/03/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:
1. Bod y Gyllideb Refeniw ar gyfer
2023/2024 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei
gymeradwyo.
2. Bod ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau gweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet
perthnasol, a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol a
bod angen pennu ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau gweithredol sy'n berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol
2023/2024 sy'n berthnasol mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol, ym marn y
Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, cyn y flwyddyn ariannol am resymau
gweithredol.
3. Bod y ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau anweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol
priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a
Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol a
bod angen pennu ffïoedd a thaliadau ar gyfer
swyddogaethau anweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, cyn y flwyddyn ariannol honno
am resymau gweithredol.
4. Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei
roi i'r Prif Swyddog Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr
Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder
Cymdeithasol i wneud unrhyw welliant angenrheidiol drwy ddefnyddio cronfeydd
wrth gefn cyffredinol o ganlyniad i unrhyw amrywiad rhwng taliad terfynol
Llywodraeth Cymru a'r taliad dros dro.
5. Bod Treth y Cyngor yn cynyddu 4.5%
yn 2023/2024. Bod y swm cyfatebol ar gyfer Band D Treth y Cyngor 1,737.72/2021
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot o £1,737.72, yn cael ei
argymell i'r cyngor i'w gymeradwyo.
Rheswm dros
y Penderfyniad
Er mwyn
cyflawni'r gofyniad statudol i bennu’r gyllideb ar gyfer 2022/2023.
Darparu dull
ar gyfer ymdrin ag unrhyw amrywiad rhwng setliadau dros dro a therfynol
Llywodraeth Cymru.
Cytuno ar
drefniadau ar gyfer gosod ffïoedd a thaliadau.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y
cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr
adroddiad monitro yn cael ei nodi.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod y Polisi
Rheoli Risgiau Corfforaethol diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Er mwyn
cefnogi'r cyngor wrth gyflawni ei ddyletswydd i fod yn effeithlon, yn dryloyw
ac yn atebol i bobl leol a chynnal safonau uchel o lywodraethu corfforaethol.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr
ymateb drafft, fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael
ei gymeradwyo, a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Prif Weithredwr i
gyflwyno’i ymateb ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Er mwyn
ymateb i ymgynghoriad agored Llywodraeth Cymru ar Reolau drafft Etholiadau
Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Cytunodd y
Cadeirydd Craffu y gellid rhoi'r eitem hon ar waith ar unwaith. Ni fyddai
unrhyw gyfnod galw i mewn ar gyfer yr eitem hon.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Bod yr
adroddiad yn cael ei nodi.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1.
Bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer
Strategaeth Hybu'r Gymraeg (yn atodedig yn Atodiad 2 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd) am gyfnod o 4 wythnos.
2.
Bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan Grŵp Tasg a
Gorffen Strategaeth Hybu'r Gymraeg a bod copi terfynol Strategaeth Hybu'r
Gymraeg yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet am benderfyniad.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Er mwyn
sicrhau bod Castell-nedd Port Talbot yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r
Gymraeg (Rhif 1) 2015.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 05/04/2023 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/05/2023
Effective from: 05/04/2023
Penderfyniad:
Tynnwyd yr
eitem hon oddi ar agenda cyfarfod heddiw gan fod y fersiwn anghywir o'r
Adroddiad Ymgynghori wedi'i dosbarthu. Byddai'r strategaeth yn cael ei
hailgyflwyno i'r Cabinet ar ddyddiad diweddarach.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Derbyniodd
yr aelodau gopi o'r adroddiad a baratowyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen
Gwastraff a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun.
Penderfyniad:
Paratoi
adroddiad ar gyfer y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a
Strydlun sy'n cynnwys ymateb Bwrdd y Cabinet i'r materion a godwyd.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
I helpu'r
cyngor i gyrraedd y targed ailgylchu statudol nesaf, sef 70% yn 2024/25.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu’r croesfan
toucan uchel arfaethedig, gorchmynion rheoleiddio traffig a mesurau tawelu
traffig (fel y nodwyd yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, dylid rhoi'r cynigion ar waith ar y
safle fel y'u hysbysebir.
Rheswm dros
y penderfyniad:
1.
Bydd y groesfan toucan uchel arfaethedig yn darparu man croesi diogel i
gerddwyr a beicwyr er budd diogelwch ffyrdd.
2.
Bydd y mesurau tawelu traffig arfaethedig yn arafu traffig cerbydau ac mae
eu hangen er budd diogelwch ffyrdd.
3.
Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio
diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.
Wards affected: Aberavon;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i
hysbysebu'r cyfyngiadau 'Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg'
(fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad cylchredeg) ac os na chaiff unrhyw
wrthwynebiadau eu derbyn, gweithredir y cynigion ar y safle fel y'u hysbysebir.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Er mwyn atal
parcio diwahaniaeth wrth gyffyrdd er budd diogelwch ffyrdd gan sicrhau digon o
allu i symud a mynediad ar gyfer cerbydau casglu gwastraff/sbwriel.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynlluniau eu hysbysebu.
Wards affected: Bryn and Cwmavon; Cwmllynfell and Ystalyfera; Margam and Taibach; Port Talbot;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, diystyru'r gwrthwynebiad i'r B4242
Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd (Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) -
Gorchymyn 2022 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd),
rhoi'r cynllun ar waith fel y'i hysbysebir, a hysbysu’r gwrthwynebydd am y
penderfyniad yn unol â hynny.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Mae angen y
Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar y B4242 Heol
Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio
deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar
waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Glynneath Central and East;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu gorchmynion
rheoleiddio traffig Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl, ar gyfer y lleoliadau
amrywiol, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoi'r cynigion ar waith ar y safle fel y'u
hysbysebir.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Mae angen y
lleoedd parcio unigol i'r anabl oherwydd mae'r preswylwyr yn bodloni'r holl
feini prawf y mae eu hangen ar gyfer lleoedd parcio unigol i'r anabl, i'w gosod
mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Fwrdeistref.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff pob cynllun ei hysbysebu.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo
hysbysebu'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Terfyn Cyflymder 30 mya sy'n
gysylltiedig â Ffordd Amazon, ac unrhyw Eithriadau Terfyn Cyflymder 30 mya
ychwanegol y mae eu hangen o fewn ardal weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot sy'n gysylltiedig â Chyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn
20mya Llywodraeth Cymru 2023 (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r
adroddiad a ddosbarthwyd) yn unol â'r gofynion statudol.
2.
Rhoi'r cynlluniau ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol sydd
wedi'u cynnwys o fewn Rheoliadau Traffig y Ffordd presennol, os na cheir unrhyw
wrthwynebiadau, ac os bydd unrhyw wrthwynebiadau yn cael eu derbyn mewn
perthynas ag unrhyw gynlluniau, bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i Fwrdd
Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet am benderfyniad.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Bydd y
gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn newid y llwybrau strategol yn ôl
i derfyn cyflymder o 30mya ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yn
genedlaethol er mwyn cynnal llif y traffig ar y prif rwydwaith ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoi'r C250 o Gymer i Lyncorrwg
(Dirymiad) a (Terfyn Cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2022 (fel y manylir yn
Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ar waith fel y'i hysbysebir, diystyru'r
gwrthwynebiad, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn unol â hynny.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Mae angen y
Gorchymyn i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar rannau o'r C250 o'r
Cymer i Lyncorrwg o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio
deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar
waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Cymer and Glyncorrwg;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Derbyniwyd
diwygiadau awgrymedig i argymhellion Swyddogion gan y Pwyllgor Craffu
blaenorol, fel y nodwyd isod mewn teip trwm:
1.
Bod Aelodau'n cymeradwyo prynu'r cerbydau
heb allyriadau yn y Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar
gyfer 2023/24 fel y nodir yn atodiad A.
2.
Rhoi Awdurdod Dirprwyedig i'r
Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol,
Trafnidiaeth a Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau heb allyriadau er
mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost
prynu'r cerbydau.
3.
Bod prynu cerbydau sy'n cael eu
pweru gan danwyddau ffosil, sydd wedi'u cynnwys yn atodiad A, ac unrhyw
gerbydau ychwanegol, yn destun adroddiadau pellach i fwrdd y cabinet i'w
cymeradwyo, gyda chyfiawnhad o ran pam nad oes modd prynu dewis arall heb
allyriadau.
Ar ôl derbyn
cyngor gan swyddogion, nododd Aelodau'r Cabinet nad oedd rhai cerbydau
arbenigol (fel cerbydau JCB) ar gael ar hyn o bryd fel amrywiolion heb
allyriadau. Eglurodd swyddogion y byddai derbyn argymhellion y Pwyllgorau
Craffu yn niweidiol i gyflwyno gwasanaethau, ac y byddai'n ychwanegu cryn oedi
i'r rhaglen gaffael. Am y rhesymau hyn, ac er bod Aelodau'r Cabinet yn deall
pryderon y Pwyllgor Craffu, dewisodd Bwrdd y Cabinet beidio â chefnogi'r
diwygiadau a wnaed gan y Pwyllgor Craffu.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig -
1.
Cymeradwyo'r Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau ar gyfer 2023/24, fel y
nodir yn atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoi'r Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a
Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau er mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all
fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
1.
Bydd y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd naill ai’n rhai heb unrhyw
allyriadau, yn hybrid-drydan neu o safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r
cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llawer llai o
danwydd a lleihau ôl troed carbon y cyngor drwy leihau allyriadau.
2.
Mae Gwasanaeth y Cerbydlu ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi
cynnal adolygiad o Gerbydlu'r Cyngor i sefydlu'r defnydd o fewn adrannau a lle
mae cyfleoedd i gyflwyno cerbydau a pheiriannau trydan llawn a rhai eraill heb
allyriadau i leihau ymhellach allyriadau carbon y cyngor yn unol â Chynllun
Trawsnewid Cerbydlu'r cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Cymeradwyo'r
rhaglen waith, fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer
2023/2024.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Er mwyn
cynnal asedau y mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon
y gymuned mewn perthynas â'r un peth.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd
Cymorthfeydd Aelodau gydag Aelodau Ward Lleol fel rhan o baratoi'r rhaglen.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Y dylid
nodi'r adroddiad monitro.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir bod y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:-
Cwmnïau i'w hychwanegu
at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy
Mae'r
cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r
asesiadau angenrheidiol:-
Cwmni |
Categori |
Parkside Professional Services
(P055) |
15, 19, 89 (hyd at £25K) |
Thermascan Ltd (T039) |
47 |
JCW Energy Services Ltd (J021) |
37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 47 |
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Cadw'r
Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy’n gyfoes a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses
gaffael gystadleuol, ac at ddibenion cyflenwi Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy am
wahoddiad i dendro o fewn y categori perthnasol.
Rhoi'r Penderfyniadau
ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Gwnaed yn y cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/05/2023
Effective from: 03/03/2023
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cefnogi’n rhannol y
gwrthwynebiadau i'r B4242 Heol Pont-nedd-fechan, Glyn-nedd – Gorchymyn Gwahardd
Aros Ar Unrhyw Adeg Arfaethedig, a Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Gwahardd Aros
Ar y Troedffordd ar Unrhyw Adeg Arfaethedig 2022 (fel y manylir yn Atodiad A
i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac ymgynghorir ar gynllun diwygiedig hefyd (fel
y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na chaiff unrhyw
wrthwynebiadau eu derbyn, caiff y cynigion
eu rhoi ar waith ar y safle fel y'u hysbysebir.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.