Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i
hysbysebu'r cyfyngiadau 'Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg'
(fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad cylchredeg) ac os na chaiff unrhyw
wrthwynebiadau eu derbyn, gweithredir y cynigion ar y safle fel y'u hysbysebir.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Er mwyn atal
parcio diwahaniaeth wrth gyffyrdd er budd diogelwch ffyrdd gan sicrhau digon o
allu i symud a mynediad ar gyfer cerbydau casglu gwastraff/sbwriel.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynlluniau eu hysbysebu.
Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: