Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo hysbysebu’r croesfan
toucan uchel arfaethedig, gorchmynion rheoleiddio traffig a mesurau tawelu
traffig (fel y nodwyd yn Atodiad A ac Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd)
ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, dylid rhoi'r cynigion ar waith ar y
safle fel y'u hysbysebir.
Rheswm dros
y penderfyniad:
1.
Bydd y groesfan toucan uchel arfaethedig yn darparu man croesi diogel i
gerddwyr a beicwyr er budd diogelwch ffyrdd.
2.
Bydd y mesurau tawelu traffig arfaethedig yn arafu traffig cerbydau ac mae
eu hangen er budd diogelwch ffyrdd.
3.
Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio
diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Ymgymerir ag
ymarfer ymgynghori pan gaiff y cynllun ei hysbysebu.
Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: