Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyniwyd
diwygiadau awgrymedig i argymhellion Swyddogion gan y Pwyllgor Craffu
blaenorol, fel y nodwyd isod mewn teip trwm:
1.
Bod Aelodau'n cymeradwyo prynu'r cerbydau
heb allyriadau yn y Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar
gyfer 2023/24 fel y nodir yn atodiad A.
2.
Rhoi Awdurdod Dirprwyedig i'r
Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol,
Trafnidiaeth a Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau heb allyriadau er
mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost
prynu'r cerbydau.
3.
Bod prynu cerbydau sy'n cael eu
pweru gan danwyddau ffosil, sydd wedi'u cynnwys yn atodiad A, ac unrhyw
gerbydau ychwanegol, yn destun adroddiadau pellach i fwrdd y cabinet i'w
cymeradwyo, gyda chyfiawnhad o ran pam nad oes modd prynu dewis arall heb
allyriadau.
Ar ôl derbyn
cyngor gan swyddogion, nododd Aelodau'r Cabinet nad oedd rhai cerbydau
arbenigol (fel cerbydau JCB) ar gael ar hyn o bryd fel amrywiolion heb
allyriadau. Eglurodd swyddogion y byddai derbyn argymhellion y Pwyllgorau
Craffu yn niweidiol i gyflwyno gwasanaethau, ac y byddai'n ychwanegu cryn oedi
i'r rhaglen gaffael. Am y rhesymau hyn, ac er bod Aelodau'r Cabinet yn deall
pryderon y Pwyllgor Craffu, dewisodd Bwrdd y Cabinet beidio â chefnogi'r
diwygiadau a wnaed gan y Pwyllgor Craffu.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig -
1.
Cymeradwyo'r Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau ar gyfer 2023/24, fel y
nodir yn atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoi'r Awdurdod Dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a
Chysylltedd i brynu unrhyw gerbydau er mwyn sicrhau argaeledd arian grant a all
fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
1.
Bydd y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd naill ai’n rhai heb unrhyw
allyriadau, yn hybrid-drydan neu o safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r
cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llawer llai o
danwydd a lleihau ôl troed carbon y cyngor drwy leihau allyriadau.
2.
Mae Gwasanaeth y Cerbydlu ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi
cynnal adolygiad o Gerbydlu'r Cyngor i sefydlu'r defnydd o fewn adrannau a lle
mae cyfleoedd i gyflwyno cerbydau a pheiriannau trydan llawn a rhai eraill heb
allyriadau i leihau ymhellach allyriadau carbon y cyngor yn unol â Chynllun
Trawsnewid Cerbydlu'r cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dyddiad cyhoeddi: 18/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 03/03/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/03/2023 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun
Dogfennau Cefnogol: