Penderfyniadau

Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.

Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.

Penderfyniadau a Gyhoeddwyd

08/01/2021 - Proposed Creation and Extinguishment Orders for the footpath from Hodgsons Raod to the river Tawe - Community of Ystalyfera ref: 2483    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021

Penderfyniad:

Ailbwysleisiodd y Cynghorydd C.Clement-Williams ei buddiant ar yr adeg hon a thynnu'n ôl o'r cyfarfod am barhad yr eitem.

 

Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth fod y ward yr effeithiwyd arni yn ardal Godre'r-graig ac nid fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Penderfyniadau:

 

1.   Gwneud Gorchymyn Creu llwybr cyhoeddus yn unol ag Adran 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel A1-B1-C1-D1-D2-E1 a hefyd F1-G fel y nodir yng Nghynllun rhif 3 i'r adroddiad a ddosbarthwyd;

 

2.   Gwneud Gorchymyn Diddymu'n unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir A-B-C-D-E fel y nodir yng Nghynllun rhif 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

3.   Os na dderbynnir gwrthwynebiadau i'r ddau orchymyn uchod, yna cânt eu cadarnhau ynghyd â'r gorchymyn addasu a wnaed yn gynharach o dan ddarpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel y dangosir fel llinell drom ar gynllun rhif 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

1. Roedd angen darparu llwybr cyhoeddus o Heol Hodgson i afon Tawe o ystyried bod y cyngor hwn wedi cytuno bod llwybr cyhoeddus wedi bodoli o'r ffordd honno i'r afon cyn y datblygiad tai.

 

2. O ystyried bod y datblygiad tai wedi rhwystro llinell y llwybr gwreiddiol, roedd angen dewis arall.  Gan fod yr ymgais flaenorol i ddargyfeirio'r llwybr wedi methu, yr unig ateb ymarferol arall yw opsiwn i osod un o'r pwyntiau ymadael yn G1 fel y nodir yng nghynllun rhif 3.

 

3. O ganlyniad i fabwysiadu ffyrdd stadau o fewn y datblygiad tai, ni ellir gwneud gorchymyn dargyfeirio arall, ond byddai gwneud gorchymyn dileu neu ddiddymu ar yr un pryd yn dal i gyflawni'r un canlyniad.  Byddai hyn yn dileu llinell y llwybr sy'n mynd drwy'r stad o dai ac yn cynnig dewis arall drwy wneud gorchymyn creu.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda rhestr safonol o sefydliadau megis Cymdeithas y Cerddwyr, eu cynrychiolwyr lleol, Byways and Bridleways Trust, y Cyngor Cymuned, yr Aelod Lleol ynghyd â chartrefi Taylor Wimpey a Barratts yn ogystal â'r rheini y mae llinell y llwybr presennol yn effeithio ar eu tai a'r rheini sy'n byw'n agos at y llwybr newydd arfaethedig lle mae'n arwain at y stad o dai ac oddi yno.

 

 

 

 

Wards affected: Ystalyfera;


08/01/2021 - Ash Tree Die-Back ref: 2477    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

 

1.   Dylid nodi canfyddiadau’r arolwg coed;

 

2.   Rhoi cymeradwyaeth i’r cyngor gymynu coed sy’n anniogel oherwydd Clefyd Coed Ynn Chalara lle bo angen ar dir y cyngor, neu fel arall fel sy'n dod o fewn cylch gwaith y cyngor fel Awdurdod Priffyrdd;

 

3.   Penodi Syrfëwr Coed a bod Swyddogion yn prosesu'r newidiadau angenrheidiol i'r sefydliad;

 

4.   Bod Swyddogion yn mynd ar drywydd tirfeddianwyr preifat i gymryd camau lliniaru mewn perthynas â Chlefyd Coed Ynn ar eu tir, ymhellach i'w dyletswydd gofal, gan gynnwys camau gorfodi lle bo angen;

 

5.   Bod Swyddogion yn parhau i geisio grantiau i helpu i ailblannu coed wedi'u cymynu mewn lleoliadau priodol.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Rheoli achosion o Glefyd Coed Ynn Chalara ledled y fwrdeistref sirol a bod yr awdurdod yn cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 


08/01/2021 - Housing Renewal and Adaptation Service Repayment of Disabled Facility Grant Monies (Exempt Under Paragraph 14) ref: 2486    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021


08/01/2021 - Community Councils Minor Projects Scheme - Application from Blaenhonddan Community Council ref: 2482    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Penderfyniad:

Ailbwysleisiodd y Cynghorwyr A.Wingrave a D. Jones eu buddiannau a thynnu'n ôl o'r cyfarfod am barhad yr eitem.

 

Penderfyniad:

 

Bod grant sy'n werth 30% o'r costau gwirioneddol hyd at uchafswm o £6,000 yn cael ei gymeradwyo i Gyngor Cymuned Blaenhonddan fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Cydymffurfio â'r polisi cymeradwy a galluogi gwelliannau cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Wards affected: Cadoxton;


08/01/2021 - Miscellaneous Grant Fund Applications ref: 2481    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Penderfyniad:

Ailbwysleisiodd y Cynghorwyr A.Wingrave a D.Jones eu buddiannau ar yr adeg hon o’r cyfarfod a thynnu'n ôl o'r cyfarfod am barhad yr eitem.

 

Penderfyniadau:

 

Bod y ceisiadau canlynol am y Gronfa Grant Amrywiol yn cael eu cymeradwyo:

 

Cymdeithas Lles Cwmafan

Dyfarnu grant o £300 y flwyddyn tuag at gost rhent o £330 a fydd yn daladwy o 1 Ebrill 2021, mewn perthynas â Phrydlesu Tir yn Ebbw Vale Row sy'n ffinio â Chlwb Rygbi Cwmafan.

 

Cyngor Cymuned Blaenhonddan

Dyfarnu grant o £2,068 y flwyddyn tuag at gost rhent o £2,395.80 y flwyddyn a fydd yn daladwy o 1 Ebrill 2021, mewn perthynas â phrydlesu Canolfan Gymunedol Caewern.

 

Cyngor Cymuned Blaenhonddan

 

 

Dyfarnu grant o £650 y flwyddyn tuag at gost rhent o £715 y flwyddyn a fydd yn daladwy o fis Mehefin 2021, mewn perthynas â phrydlesu Parc Rhanbarthol Waunceirch.

 

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

 

 

 

Wards affected: Bryn and Cwmavon; Cadoxton;


08/01/2021 - Removal of Local Authority Governor Representative (Exempt Under Paragraph 12) ref: 2492    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021


08/01/2021 - Proposed Agreement for Lease, Ground Lease, Licence to Build and Option to Purchase Land and Buildings known as the former Dairy Site off Cribbs Row, Neath. ref: 2491    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021


08/01/2021 - Cabinet (Finance) Sub Committee ref: 2476    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Sefydlu Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet yn unol â'r adroddiad i'r Cyngor ar 23 Rhagfyr 2020

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi'r cyngor i gael strwythur penderfynu sy’n addas at y diben.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 


08/01/2021 - Appointment and Removal of LA Governor Representatives ref: 2485    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021

Penderfyniad:

Ailbwysleisiodd y Cynghorydd E.V.Latham ei fuddiant ar yr adeg hon o’r cyfarfod a thynnu'n ôl o'r cyfarfod am barhad yr eitem.

 

Roedd y Cabinet yn cefnogi'r cais i hepgor y cyfnod galw i mewn o dridiau oherwydd yr angen i benodi ymgeiswyr i gyrff llywodraethu fel mater o frys.

 

Penderfyniadau:

 

1.Yn unol â'r polisi a gymeradwywyd, dylid cymeradwyo'r newidiadau canlynol i gynrychiolwyr Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol hyd at, a chan gynnwys diwedd tymor y gwanwyn 2020/21:

 

          Ysgol Gynradd Blaendulais

          Ail-benodi'r Cyng. Stephen Hunt o 1 Ebrill 2021

          Ail-benodi Mr  Gary James o 1 Ebrill 2021

 

          Ysgol Gynradd Coedffranc

          Penodi Mr Andrew Addis-Fuller

 

          Ysgol Gynradd y Creunant

          Ail-benodi Mrs Sarah Griffiths o 1 Ebrill 2021

 

          Ysgol Gynradd y Gnoll

          Penodi'r Cyng. Sandra Miller

 

          Ysgol Gynradd Godre’r-graig

          Penodi Mrs Glenys Protheroe

 

          Ysgol Gynradd Rhydyfro

  Ail-benodi'r Cyng. Linet Purcell o 1 Ebrill 2021 Linet Purcell   o 1 Ebrill 2021

 

          Ysgol Gynradd Tai’rgwaith

          Penodi Mrs Elinor Ervine

 

          Ysgol Gynradd Tywyn

          Ail-benodi'r Cyng. Edward Latham o 1 Ebrill 2021

 

          YGG Blaendulais

          Ail-benodi Mrs Gaynor Smith o 1 Ebrill 2021

 

          Ysgol Gynradd Ynysfach

          Ail-benodi Mrs Gloria Felton o 1 Ebrill 2021

 

          Ysgol Hendrefelin

          Penodi Ms Beryl Richards

 

Gohirio'r swyddi gwag canlynol ar gyfer llywodraethwyr ysgol:-

 

Ysgol Gynradd Coedffranc

Ysgol Gynradd y Gnoll

Ysgol Gynradd Godre’r-graig

Ysgol Gynradd Sandfields

Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff

Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff (Castell-nedd)

Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth San Joseff

Ysgol Gymunedol Gynradd Tonnau

YGG Castell-nedd

YGG Pontardawe

Ysgol Bae Baglan

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Galluogi'r cyngor i gyfrannu at lywodraethu ysgolion yn effeithiol drwy gynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith.

 

 

 

 

Wards affected: Ystalyfera;


08/01/2021 - Audit Wales - Audit of Neath Port Talbot Council's 2020-21 Improvement Plan ref: 2479    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 


08/01/2021 - Debtor Write Offs (Exempt Under Paragraph 14) ref: 2488    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021


08/01/2021 - Write Off of Council Tax (Exempt Under Paragraph 14) ref: 2487    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Wards affected: Aberavon; Aberdulais; Baglan; Briton Ferry West; Bryn and Cwmavon; BRYNCOCH SOUTH; Cimla; Coedffranc Central; Coedffranc West; Crynant; Cwmllynfell; Cymer; Glynneath; Gwaun-Cae-Gurwen; Margam; Neath East; Pelenna; Pontardawe; Port Talbot; Resolven; Sandfields East; Sandfields West; Taibach; Ystalyfera;


08/01/2021 - The Regulated Service (Service Providers and Responsible Individuals) (Wales) Regulations 2017. (Exempt Under Paragraph 13) ref: 2490    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021


08/01/2021 - Manager's Report on Hillside Secure Children's Home (Eexmpt Under Paragraph 13) ref: 2489    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021


08/01/2021 - Commitment to a Preferred I.T. System to Support Social Services Functions ref: 2480    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Penderfyniad:

Penderfyniadau:

 

1.   Bod y risgiau sy'n gysylltiedig â mabwysiadu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar hyn o bryd yn cael eu hasesu fel rhai sy'n gorbwyso'r manteision a ragwelir;

 

2.   Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn oedi cyfranogiad yn y rhaglen nes bod y risgiau a nodwyd wedi'u lliniaru'n ddigonol;

 

3.   Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr TGCh corfforaethol ac yn buddsoddi yn natblygiad System Wybodaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Oracle Apex hyd nes y bernir bod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn addas at y diben.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ddatblygu System Wybodaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Oracle Apex, a fydd yn sicrhau bod gennym ddatrysiad TGCh wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer anghenion Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â chael ei adeiladu ar lwyfan a fydd yn darparu amgylchedd sefydlog i TGCh hyd y gellir rhagweld.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 


08/01/2021 - Audit Wales Certificate of Compliance - Audit of Neath Port Talbot County Borough Council's assessment of 2019 -2020 Performance ref: 2478    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 08/01/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 


08/01/2021 - Brombil Access Road and Tudor Grove, Margam. Prohibition of Waiting, Loading and Unloading at Anytime - Order 2020 ref: 2484    For Determination

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/02/2021

Effective from: 13/01/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Gwrthod y gwrthwynebiad i Orchymyn (Heol Fynediad Brombil a Gelli Tudur, Margam) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) 2020 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, a bod y cynllun yn cael ei weithredu ar y safle fel y'i hysbysebwyd.  Hysbysir gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Atal parcio diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Tachwedd 2020 a derbyniodd oddeutu 20 eiddo lythyrau a ddosbarthwyd â llaw gyda chynllun.  Ymgynghorwyd hefyd â'r aelod lleol.

 

 

 


03/02/2021 - MIscellaneous Grant Fund Applications ref: 2508    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/02/2021 - Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/02/2021

Effective from: 08/02/2021

Penderfyniad:

Penderfyniad:

 

Bod Llyfrgell Gymunedol Llansawel yn cael £3,000 y flwyddyn mewn perthynas â'r codiad rhent o £3,190 y flwyddyn tuag at gost rhent Llyfrgell Gymunedol Llansawel yn amodol ar adolygiad yn unol ag adolygiadau rhent o 1 Ebrill 2021.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ystyried swm y cymorth ariannol mewn perthynas â'r cais am grant a dderbyniwyd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 


03/02/2021 - Business Rates Write Offs ref: 2511    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/02/2021 - Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/02/2021

Effective from: 08/02/2021

Wards affected: Bryn and Cwmavon; Coedffranc Central; Coedffranc West; Neath North; Port Talbot; Sandfields West;


03/02/2021 - The Harold and Joyce Charles Trust ref: 2510    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/02/2021 - Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/02/2021

Effective from: 08/02/2021


03/02/2021 - Glamorgan Further Education Trust Fund ref: 2509    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/02/2021 - Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 17/02/2021

Effective from: 08/02/2021


03/02/2021 - Neath Business Improvement District Ballot Vote (Exempt Paragraph 14) ref: 2507    Recommendations Approved

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 03/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 03/02/2021