Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Ailbwysleisiodd y
Cynghorydd C.Clement-Williams ei buddiant ar yr adeg hon a thynnu'n ôl o'r
cyfarfod am barhad yr eitem.
Derbyniodd yr Aelodau
wybodaeth fod y ward yr effeithiwyd arni yn ardal Godre'r-graig ac nid fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Penderfyniadau:
1.
Gwneud Gorchymyn Creu llwybr
cyhoeddus yn unol ag Adran 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr
a ddangosir fel A1-B1-C1-D1-D2-E1 a hefyd F1-G fel y nodir yng Nghynllun rhif 3
i'r adroddiad a ddosbarthwyd;
2.
Gwneud Gorchymyn Diddymu'n
unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir
A-B-C-D-E fel y nodir yng Nghynllun rhif 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
3.
Os na dderbynnir
gwrthwynebiadau i'r ddau orchymyn uchod, yna cânt eu cadarnhau ynghyd â'r
gorchymyn addasu a wnaed yn gynharach o dan ddarpariaethau Deddf Bywyd Gwyllt a
Chefn Gwlad 1981 fel y dangosir fel llinell drom ar gynllun rhif 1 i'r
adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
1.
Roedd angen darparu llwybr
cyhoeddus o Heol Hodgson i afon Tawe o ystyried bod y cyngor hwn wedi cytuno
bod llwybr cyhoeddus wedi bodoli o'r ffordd honno i'r afon cyn y datblygiad
tai.
2.
O ystyried bod y datblygiad
tai wedi rhwystro llinell y llwybr gwreiddiol, roedd angen dewis arall. Gan fod yr ymgais flaenorol i ddargyfeirio'r
llwybr wedi methu, yr unig ateb ymarferol arall yw opsiwn i osod un o'r
pwyntiau ymadael yn G1 fel y nodir yng nghynllun rhif 3.
3.
O ganlyniad i fabwysiadu
ffyrdd stadau o fewn y datblygiad tai, ni ellir gwneud gorchymyn dargyfeirio
arall, ond byddai gwneud gorchymyn dileu neu ddiddymu ar yr un pryd yn dal i
gyflawni'r un canlyniad. Byddai hyn yn
dileu llinell y llwybr sy'n mynd drwy'r stad o dai ac yn cynnig dewis arall
drwy wneud gorchymyn creu.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd ymgynghoriad
gyda rhestr safonol o sefydliadau megis Cymdeithas y Cerddwyr, eu cynrychiolwyr
lleol, Byways and Bridleways Trust, y Cyngor Cymuned, yr Aelod Lleol ynghyd â
chartrefi Taylor Wimpey a Barratts yn ogystal â'r rheini y mae llinell y llwybr
presennol yn effeithio ar eu tai a'r rheini sy'n byw'n agos at y llwybr newydd
arfaethedig lle mae'n arwain at y stad o dai ac oddi yno.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 08/01/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: