Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Fel a nodwyd yn
flaenorol, nododd yr Aelodau'r effaith yr oedd argaeledd grantiau eraill yn ei
chael ar nifer y ceisiadau a dderbynnir a oedd yn bodloni'r meini prawf
cymhwysedd ar gyfer y grant hwn.
Penderfynwyd:
1.
Cymeradwyo'r ceisiadau cymwys a
dderbynnir ar neu cyn y dyddiad cau i Gronfa Harold a Joyce Charles ar gyfer
blwyddyn academaidd 2020/2021 fel y manylir yn Atodiad B yr adroddiad a
gylchredwyd.
2.
Y dyraniad arian fydd
£3,760.50 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn fel y manylir yn Atodiad B yr
adroddiad a gylchredwyd.
3.
Cymeradwyo taliadau i'r
ymgeiswyr cymeradwy hynny sy'n derbyn cefnogaeth barhaus gan Gronfa Harold a
Joyce Charles.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Darparu
cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2021 - Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet
Effective from: 08/02/2021
Dogfennau Cefnogol: