Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Nododd yr aelodau fod
nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn parhau i leihau oherwydd argaeledd grantiau
eraill a oedd yn effeithio ar feini prawf cymhwysedd y grant hwn.
Penderfynwyd:
1.
Cymeradwyo ceisiadau i Gronfa
Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/2021
fel y manylir yn Atodiad B ac C yr adroddiad a gylchredwyd.
2.
Dyrannu hyd at uchafswm o
£3,760.50 ar gyfer 3 myfyriwr amser llawn fel y manylir yn Atodiad B yr
adroddiad a gylchredwyd.
3.
Dyrannu hyd at uchafswm o
£1,880.25 ar gyfer 2 fyfyriwr rhan-amser fel y manylir yn Atodiad C yr
adroddiad a gylchredwyd.
4.
Cymeradwyo'r taliadau i'r
ymgeiswyr cymeradwy hynny sy'n derbyn cefnogaeth barhaus gan Gronfa
Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Darparu
cefnogaeth ariannol addas i fyfyrwyr a fyddai'n dioddef o galedi fel arall.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 03/02/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/02/2021 - Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet
Effective from: 08/02/2021
Dogfennau Cefnogol: