Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr wybodaeth a’r cyngor canlynol i’r
Pwyllgor ynghylch buddiannau a rhagderfyniad, a oedd yn ymwneud yn benodol ag
adroddiad Cynllun Gwella Strategol yr Ysgol a oedd wedi’i gynnwys ar agenda’r
Cabinet: ·
Roedd
y cynnig yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn benderfyniad newydd y bydd angen i'r
Aelodau ei wneud; ni fydd y ffaith y gall yr Aelodau fod wedi pleidleisio mewn
ffordd benodol mewn cyfarfod blaenorol fod gyfystyr â rhagderfyniad, ar yr amod
bod Aelodau'n cadw meddwl agored mewn perthynas â'r cyfarfod newydd hwn. ·
Wrth
wneud penderfyniadau yn ymwneud ag unrhyw fusnes y cyngor, rhaid i Aelodau
wneud hynny gyda meddwl agored ac ystyried yr holl wybodaeth o'u blaenau yn
wrthrychol, gan roi sylw dyladwy i gyngor y Swyddogion. Yn ystod y broses o
wneud penderfyniadau, mae'n rhaid i'r Aelodau ymddwyn yn deg ac er budd y
cyhoedd. Roedd yn ofynnol i'r Aelodau wneud eu penderfyniadau ar sail y
ffeithiau o'u blaenau, ac ni ddylent fod wedi gwneud penderfyniad cyn y
cyfarfod. ·
Os
yw'r Aelodau'n ystyried eu bod wedi dod i farn neu benderfyniad sefydlog mewn
perthynas â’r mater hwn, ac nad oeddent yn gallu neu neu nad oeddent yn fodlon
ystyried unrhyw sylwadau neu gyngor arall, neu gall aelod o’r cyhoedd deimlo
wrth ystyried yr holl faterion fod risg yno, mae'n debygol y byddai'r Aelodau
wedi penderfynu ar y mater ymlaen llaw. Yn unol â hynny, os yw Aelodau'n teimlo
eu bod wedi rhagderfynu eu safbwynt, ni ddylent fod yn cymryd rhan mewn unrhyw
bleidlais. Gallai rhagderfynu annilysu'r penderfyniad a gallai arwain at ddwyn
achos yn erbyn y cyngor a gallai hefyd fod yn gyfystyr â thorri Côd Ymddygiad
yr Aelodau. Dyma’r cyfle i’r Aelodau ddatgan hynny. ·
Roedd
gan yr Aelodau hawl i gael barn ragarweiniol ar fater penodol cyn cyfarfod (a
elwir fel arall yn rhagdueddiad) cyn belled â bod yr Aelodau’n cadw meddwl
agored a’u bod yn barod i ystyried rhinweddau’r holl ddadleuon a’r pwyntiau a
wnaed ynghylch y mater dan sylw cyn dod i benderfyniad. ·
Dylid
nodi bod y penderfyniad dan sylw yn un i'r Aelodau benderfynu yn ei gylch. ·
Er
mwyn eglurder, roedd ymrwymiadau maniffesto a datganiadau polisi a oedd yn
gyson â pharodrwydd i ystyried a phwyso a mesur ffactorau perthnasol wrth wneud
y penderfyniad terfynol yn enghreifftiau o rhagdueddiad dilys, nid
rhagderfyniad. Yn ogystal â hyn, roedd safbwyntiau a fynegwyd yn flaenorol ar
faterion sy'n codi i'w penderfynu mewn digwyddiadau arferol yn cael eu darparu
fel mater o drefn. Roedd yr Aelodau'n gallu mynd i’r afael â'r penderfyniad
penodol hwn gyda meddwl agored. Gwnaeth yr Aelodau
canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:
|