Agenda item

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr wybodaeth a’r cyngor canlynol i’r Pwyllgor ynghylch buddiannau a rhagderfyniad, a oedd yn ymwneud yn benodol ag adroddiad Cynllun Gwella Strategol yr Ysgol a oedd wedi’i gynnwys ar agenda’r Cabinet:

·     Roedd y cynnig yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn benderfyniad newydd y bydd angen i'r Aelodau ei wneud; ni fydd y ffaith y gall yr Aelodau fod wedi pleidleisio mewn ffordd benodol mewn cyfarfod blaenorol fod gyfystyr â rhagderfyniad, ar yr amod bod Aelodau'n cadw meddwl agored mewn perthynas â'r cyfarfod newydd hwn.

·     Wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud ag unrhyw fusnes y cyngor, rhaid i Aelodau wneud hynny gyda meddwl agored ac ystyried yr holl wybodaeth o'u blaenau yn wrthrychol, gan roi sylw dyladwy i gyngor y Swyddogion. Yn ystod y broses o wneud penderfyniadau, mae'n rhaid i'r Aelodau ymddwyn yn deg ac er budd y cyhoedd. Roedd yn ofynnol i'r Aelodau wneud eu penderfyniadau ar sail y ffeithiau o'u blaenau, ac ni ddylent fod wedi gwneud penderfyniad cyn y cyfarfod.

·     Os yw'r Aelodau'n ystyried eu bod wedi dod i farn neu benderfyniad sefydlog mewn perthynas â’r mater hwn, ac nad oeddent yn gallu neu neu nad oeddent yn fodlon ystyried unrhyw sylwadau neu gyngor arall, neu gall aelod o’r cyhoedd deimlo wrth ystyried yr holl faterion fod risg yno, mae'n debygol y byddai'r Aelodau wedi penderfynu ar y mater ymlaen llaw. Yn unol â hynny, os yw Aelodau'n teimlo eu bod wedi rhagderfynu eu safbwynt, ni ddylent fod yn cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais. Gallai rhagderfynu annilysu'r penderfyniad a gallai arwain at ddwyn achos yn erbyn y cyngor a gallai hefyd fod yn gyfystyr â thorri Côd Ymddygiad yr Aelodau. Dyma’r cyfle i’r Aelodau ddatgan hynny.

·     Roedd gan yr Aelodau hawl i gael barn ragarweiniol ar fater penodol cyn cyfarfod (a elwir fel arall yn rhagdueddiad) cyn belled â bod yr Aelodau’n cadw meddwl agored a’u bod yn barod i ystyried rhinweddau’r holl ddadleuon a’r pwyntiau a wnaed ynghylch y mater dan sylw cyn dod i benderfyniad.

·     Dylid nodi bod y penderfyniad dan sylw yn un i'r Aelodau benderfynu yn ei gylch.

·     Er mwyn eglurder, roedd ymrwymiadau maniffesto a datganiadau polisi a oedd yn gyson â pharodrwydd i ystyried a phwyso a mesur ffactorau perthnasol wrth wneud y penderfyniad terfynol yn enghreifftiau o rhagdueddiad dilys, nid rhagderfyniad. Yn ogystal â hyn, roedd safbwyntiau a fynegwyd yn flaenorol ar faterion sy'n codi i'w penderfynu mewn digwyddiadau arferol yn cael eu darparu fel mater o drefn. Roedd yr Aelodau'n gallu mynd i’r afael â'r penderfyniad penodol hwn gyda meddwl agored.

 

Gwnaeth yr Aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:

Y Cynghorydd A Llewelyn

Eitem 6 ar Agenda'r Cabinet - Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg gan ei fod yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera - Bro Dur ond mae ganddo ollyngiad i siarad a phleidleisio.

Y Cynghorydd J Henton

Eitem 6 ar Agenda'r Cabinet - Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg gan ei fod yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles ond mae ganddo ollyngiad i siarad a phleidleisio.