Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y Pwyllgor graffu ar
yr eitem ganlynol ar agenda'r Cabinet:
Rhaglen Strategol Gwella
Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle
Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg
Darparodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd fanylion ynghylch y cynnig ar gyfer ymgynghoriad newydd ynghylch y
cynnig i ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe; y cynnig oedd i sefydlu ysgol
cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed â chanolfan cymorth dysgu arbenigol, mewn adeiladau
newydd i ddarparu ar gyfer disgyblion o ddalgylchoedd presennol ysgolion
cynradd yr Alltwen, Godre’r-graig a Llangiwg.
Eglurwyd bod Cabinet y
weinyddiaeth flaenorol wedi cymeradwyo'r penderfyniad blaenorol mewn perthynas
â'r mater hwn; fodd bynnag, heriwyd y penderfyniad ers hynny a chynhaliwyd
adolygiad barnwrol a chafodd y penderfyniad ei wrthdroi. Hysbyswyd yr Aelodau fod
y weinyddiaeth newydd wedi ymrwymo i adolygu'r penderfyniad a wnaed mewn
perthynas â'r cynnig i ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe, a oedd yn ei gwneud yn
ofynnol i'r cyngor ddechrau ymgynghoriad newydd ar gyfer y cynnig.
Pe bai'r Aelodau'n
cymeradwyo'r argymhelliad fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, dywedodd
Swyddogion y byddent yn annog aelodau'r cymunedau sydd â diddordeb i gymryd
rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn mynegi eu barn.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â chyfranogaeth y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles yn y broses
hon, a swyddogaeth y Cydbwyllgorau Craffu. Dywedodd y Prif Weithredwr mai mater
i'r Aelodau Craffu oedd penderfynu sut mae craffu yn cyflawni ei swyddogaethau;
trefnwyd cyfarfod gyda Chadeiryddion Craffu i'w hatgoffa o'u darpariaethau o
fewn y Cyfansoddiad, sy'n cynnwys galw cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Craffu er
mwyn i Aelodau Etholedig eraill fod yn bresennol mewn cyfarfodydd Pwyllgor
penodol. Nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael trafodaeth fanylach ag Aelodau'r
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles mewn perthynas â'r mater hwn, os oeddent
yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt fod yn bresennol pan fydd adroddiadau yn
ymwneud â'r cynnig hwn yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol i Bwyllgor Craffu'r
Cabinet.
Holodd yr Aelodau a fyddai cyfarfodydd
cyhoeddus yn rhan o'r broses ymgynghori; soniwyd nad oedd y weinyddiaeth
flaenorol yn gallu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb yn ystod yr
ymgynghoriad cychwynnol ar y cynnig hwn oherwydd pandemig COVID-19. Esboniodd
Swyddogion y byddent yn dilyn y gofynion ymgynghori yn ôl yr angen, a
chadarnhawyd y byddai elfennau o'r ymgynghoriad yn cael eu cynnal wyneb yn
wyneb â'r cyhoedd.
Gofynnwyd i Swyddogion egluro
canlyniadau unrhyw newidiadau posib i'r prif gynnig, pe bai'r cyfnod ymgynghori
yn mynd yn ei flaen a bod yr adborth yn rhoi rheswm da dros newid y cynnig
hwnnw. Gofynnwyd hefyd, pe bai achos busnes newydd yn cael ei lunio ar gyfer
unrhyw ddewisiadau amgen a allai ymddangos yn ymarferol, pa mor hir y byddai’r
broses o lunio’r achos busnes yn ei gymryd a phryd y byddai cyfle arall i
gyflwyno’r achos busnes hwnnw i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid. Nodwyd pe
bai'r Cabinet yn penderfynu peidio â symud ymlaen â'r cynnig a ymgynghorwyd
arno, tybir, bryd hynny bod opsiwn a ffefrir ar gael i'w ddilyn o ran
buddsoddiad; ni fyddai'r £22.5 miliwn sydd ar gael ar hyn o bryd i Gastell-nedd
Port Talbot ar gyfer y cynnig presennol ar gael mwyach. Cadarnhawyd y byddai
angen i'r cyngor gyflwyno achos busnes newydd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas
ag addysg Band C; gellid dechrau'r broses newydd hon yn syth ar ôl i'r broses
gynigion bresennol ddod i ben yn gyfan gwbl. Tynnodd Swyddogion sylw at y
ffaith y byddai'n cymryd misoedd i ysgrifennu'r model busnes newydd gan ei bod
yn broses fanwl a chymhleth; unwaith y byddai'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru, byddent yn cymryd ychydig fisoedd i ystyried y cynnig, fodd bynnag ni
fyddai unrhyw sicrwydd y byddent yn ei gefnogi. Soniwyd hefyd y byddai'n
ofynnol i ddisgyblion Ysgol Gynradd Godre'r-graig aros mewn llety dros dro am
gyfnod hwy.
Cadarnhaodd Swyddogion y
byddai angen achos busnes cadarn ar gyfer unrhyw fuddsoddiad cyfalaf drwy’r
Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
gynt). Soniwyd bod y broses ar gyfer cyflwyno achosion busnes drwy Fodel Busnes
5 Achos Trysorlys Ei Fawrhydi yn fformat llym a bod bodloni’r profion a oedd
ynddo yn ofynnol.
Trafododd y Pwyllgor y
rhesymau pam y byddai angen ymgynghori eto ar y cynnig.
Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod y
weinyddiaeth newydd wedi ymrwymo i adolygu'r mater hwn yn seiliedig ar y farn
a'r ymatebion i'r ymgynghoriad blaenorol, ac yn seiliedig ar yr achos
cyfreithiol yn erbyn y penderfyniad a wnaed yn flaenorol; pe bai'r cyfnod
ymgynghori yn cael ei gymeradwyo, bydd yr holl ymatebion, y canlyniadau a'r
adborth o'r ymgynghoriad newydd yn cael eu hystyried yn unol â hynny, ynghyd â
chyngor gan Swyddogion y cyngor.
Rhoddodd yr adolygiad barnwrol
yr hawl i'r cyngor apelio yn erbyn penderfyniad y llys; Holodd yr Aelodau pwy
wnaeth y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r broses apêl. Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y penderfyniad wedi methu o'r
cychwyn cyntaf am nad oedd Asesiad Effaith o'r Gymraeg wedi'i gynnwys yn y
ddogfen ymgynghori. Dywedwyd bod amserlen dynn iawn ar gyfer cyflwyno apêl wrth
ymdrin ag adolygiadau barnwrol; penderfynodd y cyngor a ddylid cyflwyno apêl
drwy ei broses Cam Gweithredu Brys.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn cynnwys gwybodaeth fanwl ynglŷn â'r côd trefniadaeth
ysgolion; o fewn hwn roedd dau amlinelliad gwahanol o fanylebau ymgynghori, un
o 42 diwrnod ac un arall o 28 niwrnod. Gofynnodd yr Aelodau a allai Swyddogion
ddarparu rhagor o wybodaeth am y manylebau hyn. Eglurwyd bod y 42 diwrnod yn
cyfeirio at y broses o'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus, a oedd yn gorfod para o
leiaf 42 diwrnod (roedd yr argymhelliad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn
ceisio dechrau ar y cam hwn). Pe bai'r Cabinet o blaid cymeradwyo'r
argymhelliad, nodwyd y byddai'r ymgynghoriad wedyn yn cael ei gynnal; yn dilyn
hyn, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn manylu ar adborth yr
ymgynghoriad ac ymateb Swyddogion i'r adborth hwnnw. Amlygwyd pe bai'r cynnig
yn mynd rhagddo, byddai Swyddogion wedyn yn gofyn am ganiatâd i symud ymlaen
i'r cam nesaf sef y cyfnod ar gyfer gwrthwynebiadau statudol; roedd yn rhaid
i'r cyfnod hwn bara 28 niwrnod yn union. Soniwyd pe bai'r cyhoedd am i'w
gwrthwynebiadau i'r ymgynghoriad gael eu cofnodi, byddai angen iddynt roi
sylwadau ar y cam hwn er mwyn i'w sylwadau gael eu prosesu (hyd yn oed os
oeddent wedi rhoi eu hadborth yn flaenorol yn ystod y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus).
Mynegodd y Pwyllgor bryderon
ynghylch ymgynghori ar y cynigion blaenorol, cyn cynnal adolygiad ehangach neu
asesiad â thystiolaeth o ddewisiadau eraill. Hysbyswyd yr Aelodau fod y côd yn
ei gwneud yn ofynnol i Swyddogion ystyried opsiynau amrywiol ar gyfer achos
busnes; unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, rhaid iddynt wedyn benderfynu pa
gynnig fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad. Amlygwyd bod yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys 14 o opsiynau eraill a ystyriwyd, fod
bynnag dewiswyd peidio â'u dilyn fel yr opsiwn a ffefrir; roedd y cyfnod
ymgynghori yn canolbwyntio ar archwilio'r holl opsiynau ynghylch darparu addysg
yng Nghwm Tawe, felly anogwyd y cyhoedd i fynegi eu barn, darparu syniadau
eraill a/neu fynegi'r opsiwn a ffefrir ganddynt. Cadarnhaodd Swyddogion y
byddai rhan o'r adroddiad ymgynghori, yr oedd angen ei gyflwyno i'r Pwyllgor,
yn nodi unrhyw sylwadau, syniadau a/neu broblemau; gallai hyn o bosib arwain at
newid y cynnig. Soniwyd bod y cam ymgynghori'n gyfnod ffurfiannol, ac ni fyddai
unrhyw benderfyniad ar y cynnig yn cael ei wneud yn ystod y cam hwn.
Holodd yr Aelodau pam y
tynnwyd Ysgol Gynradd Rhydyfro o'r cynllun gwreiddiol; roedd yr ysgol wedi'i
henwi'n flaenorol yn y ddogfennaeth. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a
Dysgu Gydol Oes y broses o gyflwyno achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru;
pe byddent yn cymeradwyo'r achos busnes amlinellol, roedd Swyddogion wedyn yn
gallu dechrau ar y gwaith manwl mewn perthynas â'r cynigion. Nodwyd, wrth
weithio ar y cynigion ar gyfer ysgolion Cwm Tawe i ddechrau, ei fod wedi
dechrau fel cynnig ar gyfer ysgol 3 - 16 oed gan gynnwys Cwm Tawe; yn dilyn
rhywfaint o waith ymgynghori cychwynnol, cyn y broses ddiwethaf, gollyngodd
Swyddogion y cynnig ar gyfer yr ysgol 3-16 oed a phenderfynwyd ar gadw statws
cynradd yn unig. Un o'r ffactorau a arweiniodd at hyn oedd maint posib yr
ysgol; Roedd yn ofynnol i Swyddogion gymryd safbwynt proffesiynol o ran beth
oedd maint gorau posib ar gyfer ysgol mewn ardal benodol, a byddai cynnwys
disgyblion Ysgol Gynradd Rhydyfro wedi golygu y byddai'r ysgol sy’n rhy fawr.
Gofynnwyd a oedd unrhyw
gyfyngiadau ynghylch dyddiad dechrau'r cyfnod ymgynghori; roedd y Pwyllgor yn
ymwybodol o'r angen i gasglu data ystyrlon o'r ymgynghoriad, a allai fod yn
anodd ei gyflawni pe bai'n cael ei gynnal dros gyfnod y Nadolig. Nodwyd
pryderon Swyddogion ynghylch gohirio dyddiad dechrau'r ymgynghoriad, a’r ffaith
y byddai'n cael effaith ar ddyddiad gweithredu'r ysgol, pe byddai'r cynnig yn
cael ei gymeradwyo ar ddiwedd y broses; roedd amserlen dynn iawn oherwydd
prosesau cynllunio, yn fwy penodol, roedd yn rhaid cynnal rhai o’r arolygon ar
adegau penodol o’r flwyddyn, a gallai gohirio’r ymgynghoriad am fis olygu y
byddai'n rhaid gohirio’r ysgol am flwyddyn gyfan.
Cafwyd trafodaeth bellach
ynglŷn â’r adolygiad barnwrol, ac a gafodd y ddarpariaeth Gymraeg ei
hystyried ai peidio ar adeg yr ymgynghoriad cychwynnol. Eglurodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd mai un o’r seiliau dros herio oedd nad
oedd dogfen Asesiad Effaith y Gymraeg wedi’i chynnwys yn y ddogfen ymgynghori a
gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020; roedd darpariaeth yn y côd trefniadaeth ysgolion
a oedd yn nodi lle gallai ysgolion gael eu heffeithio gan gynnig, byddai angen
cynnwys Asesiad Effaith y Gymraeg fel rhan o'r ddogfennaeth. Ychwanegwyd, pan
wnaed y penderfyniad yn flaenorol, bod dogfen Asesiad Effaith y Gymraeg wedi'i
gynnwys fel rhan o'r broses benderfynu, ac fe'i hystyriwyd ynghyd â'r prif
adroddiad; fodd bynnag, edrychodd yr adolygiad barnwrol ar a ddylai honno fod
wedi’i chynnwys yn y ddogfen ymgynghori pan gafodd ei chyhoeddi i’r cyhoedd.
Cynigiwyd ac eiliwyd y
diwygiad fel a ganlyn:
Bod yr argymhelliad yn cael ei
ddiwygio i newid dyddiad dechrau'r cyfnod ymgynghori o 5 Rhagfyr 2022 i'r
dyddiad dechrau newydd o 9 Ionawr 2023, gyda'r cyfnod ymgynghori o 42 diwrnod
yn dilyn y dyddiad hwnnw.
Yn dilyn craffu, roedd y
Pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion diwygiedig i'w hystyried gan y Cabinet.