Cofnodion:
Rhoddwyd adroddiad i'r
Aelodau a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer dyrannu cyllid ar gyfer gwaith
brys i'w wneud ym mhwll nofio Pontardawe.
Amlygodd yr adroddiad
a ddosbarthwyd fod contractwyr ARUP wedi'u comisiynu i gynnal adolygiad o
adeilad pwll nofio Pontardawe. Gofynnwyd i Swyddogion a allent roi manylion
ynghylch costau'r arolwg cyflwr a gynhaliwyd gan ARUP. Eglurodd y Cyfarwyddwr
Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oedd yr wybodaeth ganddynt wrth law, fodd
bynnag, byddai'n gallu darparu'r costau i'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.
Cynhaliwyd trafodaeth
o ran natur y gwaith y bwriedir ei wneud ar y pwll nofio. Nodwyd bod y gwaith a
restrwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn waith dros dro i raddau helaeth ac
yn opsiwn tymor byr er mwyn cadw'r cyfleuster ar agor; bydd y gwaith adfer a
wneir yn ddigonol am gyfnod o ddwy flynedd ar y mwyaf, ac ar ôl y cyfnod hwn
dau ddewis yn unig fydd i benderfynu rhyngddynt. Y dewis cyntaf a soniwyd
amdano oedd gwaith adnewyddu sylweddol, yr oedd ei gost yn debygol o fod yn fwy
na gwerth yr ased; a'r ail ddewis fyddai gosod pwll nofio newydd yn ei le.
Gofynnwyd a oedd
Swyddogion yn ceisio cyllid ar gyfer pwll nofio newydd. Eglurwyd nad oedd
Swyddogion yn ymwybodol o unrhyw grant a fyddai'n ariannu pwll nofio newydd ar
hyn o bryd; Nodwyd bod terfyn cronfa gyfalaf Chwaraeon Cymru tua £50,000, ac ni
fyddai hyn yn talu am y costau llawn ariannu pwll nofio newydd. Cytunodd
Swyddogion i wneud ymholiadau i'r cwestiwn hwn, a byddent yn hysbysu'r Aelodau
os oedd unrhyw ffrydiau cyllido newydd ar gael.
Gofynnodd yr Aelodau
am sicrwydd y byddai'r pwll nofio yn ailagor cyn gynted â phosib at ddefnydd y
cyhoedd. Amlygwyd bod angen gwneud y gwaith adfer er mwyn ailagor y pwll nofio
a chynnal y cyfleuster. Roedd Swyddogion wedi derbyn sicrwydd gan y contractwr
y byddai'n cymryd 3 wythnos i wneud y gwaith adfer; fodd bynnag, nid oedd hyn
yn cynnwys yr amser sydd ei angen ar gyfer y gwaith cynllunio a dylunio, a
byddai cyfnod y Nadolig hefyd yn dod cyn ailagor y pwll. Soniwyd mai’r dyddiad
ailagor arfaethedig oedd diwedd mis Ionawr 2023.
Mynegwyd pryderon
ynghylch graddau’r dirywiad yn yr adeiledd, a bod argymhellion o adroddiad 2014
ar bwll nofio Pontardawe nad oeddent wedi'u gweithredu. Eglurodd y Prif
Weithredwr fod gan y cyngor isadeiledd mawr a chronfeydd annigonol i allu
cynnal yr holl adeileddau hynny i'r safon a ffefrir; dyma'r sefyllfa yn
gyffredinol ers nifer o flynyddoedd. Nodwyd pan fyddai'r cyngor yn derbyn arian
grant ei fod yn cael ei gyfeirio gan amlaf at isadeiledd newydd; nid oedd digon
o gyllid buddsoddi ar gael i fuddsoddi yn yr adeileddau presennol, felly roedd
dirywiad mewn llawer o'r adeileddau hynny. O ran manylion pwll nofio
Pontardawe, cadarnhaodd Swyddogion y byddent yn ymchwilio i weld pam y mae
bwlch rhwng yr archwiliadau. Awgrymwyd y dylai Pwyllgor Craffu Gwasanaethau’r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ychwanegu'r mater hwn at ei Flaenraglen Waith,
gan fod hon yn broblem ar draws llawer o isadeileddau presennol y cyngor;
byddai'n fuddiol i Aelodau'r Pwyllgor hwn gael cipolwg gwell o'r materion
cyfredol a gwneud rhai argymhellion o bosib.
Nodwyd bod nifer o
grwpiau ffitrwydd sy'n defnyddio pwll nofio Pontardawe, fel y Celtic
Dolphins, a oedd wedi ymrwymo i gymhwyso a symud ymlaen â'u camp ddewisol.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i drefniadau i
gynorthwyo'r grwpiau hyn yn ystod y cyfnod y bydd y pwll nofio ar gau. Dywedodd
Swyddogion eu bod wedi e-bostio Prif Weithredwr Celtic Leisure ynghylch y mater
hwn, a oedd wedi cadarnhau eu bod yn ystyried rhoi lle i’r clwb nofio mewn
sesiwn yn gynnar yn y bore yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd, drwy neilltuo 2
neu 3 o’r lonydd nofio ar ei gyfer. Soniwyd y byddai'r pwll nofio wedi bod yn
cau ym mis Rhagfyr oherwydd cyfnod y Nadolig, fodd bynnag roedd Celtic Leisure
wrthi'n ystyried sut y gallent ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth
ymhellach; Byddai'r Aelodau'n cael gwybod yn unol â hynny, os byddai unrhyw
wybodaeth bellach yn dod i law ar y mater hwn.
Tynnodd Swyddogion
sylw at yr adborth cadarnhaol yr oeddent wedi'i dderbyn mewn perthynas â'r
ymateb gan staff pwll nofio Pontardawe; roedd y Rheolwr a'r tîm ar ddyletswydd
wedi ymdrin â'r mater hwn yn gadarnhaol ac yn broffesiynol iawn.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.