Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 28ain Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cynnal a Chadw a Rheoli Lleoedd Chwarae Cyhoeddus pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth i'r aelodau am reoli a chynnal a chadw lleoedd chwarae'r cyngor. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 47 o leoedd chwarae ar draws y Fwrdeistref Sirol o fewn cylch gwaith y cyngor; nid oedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cynnwys y rhai a reolir gan bartïon eraill e.e. cynghorau tref a chymuned.

Roedd Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r broses barhaus o arolygu ac adolygu a oedd ar waith i sicrhau bod lleoedd chwarae sy'n eiddo i'r cyngor yn parhau i fod yn ddiogel i bawb eu defnyddio; roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am geidwad teithiol a oedd yn cynnal arolygiadau wythnosol o'r lleoedd chwarae.

Hysbyswyd y pwyllgor am y cyllidebau sy'n ymwneud â'r gwaith hwn; nodwyd swm yr arian o fewn y gyllideb refeniw ar gyfer Gwasanaethau Cymdogaeth yn yr adroddiad, ynghyd â'r arian a glustnodwyd tuag at gynnal a chadw lleoedd chwarae. Dywedwyd bod tua £30,000 y flwyddyn yn y gyllideb ar gyfer adnewyddu offer; dyma'r arian a oedd yn weddill ar ôl clustnodi arian ar gyfer y mesurau rheoli, arolygu a diogelwch o ddydd i ddydd.

Esboniwyd nad oedd dyraniad cyfalaf sefydlog ar gyfer adnewyddu'r offer; felly bu'n rhaid i swyddogion gyflwyno ceisiadau, yn ôl yr angen, ym mhroses y gyllideb sy'n cael ei hystyried fel rhan o rowndiau blynyddol y gyllideb. Soniwyd bod rhaglen fuddsoddi sylweddol yn parhau yn y flwyddyn gyfredol; fodd bynnag, bu'n rhaid i swyddogion aros ar y gadwyn gyflenwi o ran yr offer a oedd yn cyrraedd. Hysbyswyd yr aelodau fod y pandemig wedi amharu ar gadwyni cyflenwi ar draws nifer o feysydd gwaith.

Yn dilyn yr uchod, nodwyd bod swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau eraill ac yn chwilio am gyfleoedd arian cyfatebol; gweithiodd y tîm yn agos gyda'r Rheolwr Datblygu Prosiectau a Chyllid ac aelodau a oedd am ychwanegu buddsoddiad ychwanegol a gwneud gwelliannau i leoedd chwarae yn eu wardiau, drwy Gronfa Gymunedol yr aelodau. Ychwanegwyd bod Atodiad B yr adroddiad a ddosbarthwyd yn tynnu sylw at y buddsoddiad wedi'i raglennu ar gyfer lleoedd chwarae a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, sef cyfanswm o tua £350,000. Roedd swyddogion yn obeithiol am arian ychwanegol o broses y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf; cynhwyswyd yr arian ychwanegol hwn yn yr ymgynghoriad a oedd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar gyllideb refeniw'r cyngor.

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am un o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn ymwneud â nifer y siglenni a dynnwyd o leoedd chwarae'r cyngor yn ystod 2020 fel rhan o fodloni'r mesurau cadw pellter cymdeithasol cenedlaethol. Nodwyd bod y tîm wedi derbyn pob rhan ar gyfer y siglenni, ar wahân i lond llaw o gadwyni a oedd yn dal i fod eu hangen er mwyn ailadeiladu'r siglenni crud; Roedd swyddogion yn gobeithio y bydd y mwyafrif yn cael eu hailosod yn ystod y pythefnos nesaf, gyda'r rhai sy'n weddill erbyn diwedd Chwefror.

Cododd yr aelodau yr angen am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

Gorfodi Sbwriel, Tipio Anghyfreithlon a Gwastraff ar yr ochr pdf eicon PDF 674 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y pwyllgor adroddiad a oedd yn amlinellu'r gweithgarwch gorfodi yr oedd y tîm yn ei wneud mewn perthynas â gorfodi sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff ar yr ochr.

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y gwasanaeth hwn yn faes yr amharwyd arno'n sylweddol gan y pandemig; roedd safleoedd amwynderau dinesig wedi'u cau, gwasanaethau casgliadau swmpus wedi’u hatal ac ataliwyd proses gyfweld yr heddlu a’r Deddf Cyfiawnder Troseddol sy'n caniatáu i dystiolaeth gael ei chasglu ac erlyniadau gael eu trosglwyddo ymlaen i'r llys. Soniwyd bod y ffigurau yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn adlewyrchu'r tarfu hynny. Yn flaenorol, nodwyd mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod arweiniol ar gyfer cymryd camau gorfodi yn erbyn tipio anghyfreithlon; efallai fod hyn yn wir o hyd, fodd bynnag, roedd y niferoedd wedi lleihau, gan y byddai pob awdurdod wedi profi anawsterau yn ystod y pandemig. Esboniodd swyddogion nad oedd ganddynt y ffigurau cymharu cenedlaethol presennol hyd yma, ond roedd y math hwn o wybodaeth yn debygol o fod ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â ffyrdd ac ardaloedd heb eu mabwysiadu lle'r oedd tir wedi'i restru dan berchnogaeth breifat, lle'r oedd tipio anghyfreithlon yn broblem. Hysbyswyd yr aelodau y byddai llawer o berchnogion tir yn ymateb ar ôl i Swyddog Gorfodi gysylltu â nhw, a byddant yn clirio'r gwastraff o'r ardal; fodd bynnag, roedd eraill a oedd yn anos cysylltu â hwy, a bu'n rhaid i swyddogion gyflwyno hysbysiadau gorfodi iddynt. Soniwyd bod rhywfaint o dir nad oedd wedi'i gofrestru, ac roedd yn heriol i swyddogion ddod o hyd i bwy oedd yn berchen ar y tir; gweithiodd y tîm yn agos gyda'r gwasanaeth prawf, sy'n mynd i'r ardaloedd preifat, anhysbys ac yn cwblhau gwaith glanhau cymunedol. Ychwanegwyd yr aethpwyd i'r afael â'r mathau hyn o ardaloedd yr un modd â'r rhai a oedd yn hysbys ac wedi'u mabwysiadu.

Gofynnwyd a allai Cynghorwyr Lleol gynorthwyo swyddogion i nodi pwyntiau 'casglu', lle'r oedd nifer mawr o sachau du yn cael eu gadael - fel y nodwyd, a fyddai’n destun ymchwiliad drwy orfodi. Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Strydoedd fod hyn yn bosib.

Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith ei bod yn aml yn wir nad oedd y rhai y tybiwyd eu bod yn troseddu dro ar ôl tro'n cael eu galw i'r llys oherwydd diffyg tystiolaeth; felly, gofynnwyd a ellid cyflwyno datganiadau tyst fel tystiolaeth. Cadarnhaodd swyddogion y gall datganiadau tyst chwarae rôl, ond efallai y bydd angen tystiolaeth arall o hyd gan ddibynnu ar y drosedd. Cytunwyd y byddai swyddogion yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cyfreithiol i gasglu rhagor o wybodaeth am y defnydd o ddatganiadau tyst ar gyfer troseddau.

Gofynnwyd i swyddogion a oeddent yn teimlo bod y lonydd â gatiau’n lleihau achosion o dipio anghyfreithlon, neu'n dwysáu'r mater; ac a fyddent yn ystyried cynllun peilot, lle y symudwyd rhai giatiau o'r ardaloedd hyn. Cydnabuwyd nad oedd y gatiau, mewn rhai ardaloedd, wedi helpu'r sefyllfa gyda gwastraff yn y lonydd, er iddynt gael eu gosod ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 426 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer Pwyllgor Craffu’r Strydlun a Pheirianneg.