Cofnodion:
Derbyniodd y pwyllgor
adroddiad a oedd yn amlinellu'r gweithgarwch gorfodi yr oedd y tîm yn ei wneud
mewn perthynas â gorfodi sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff ar yr ochr.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod y gwasanaeth hwn yn faes yr amharwyd arno'n sylweddol gan y
pandemig; roedd safleoedd amwynderau dinesig wedi'u cau, gwasanaethau
casgliadau swmpus wedi’u hatal ac ataliwyd proses gyfweld yr heddlu a’r Deddf
Cyfiawnder Troseddol sy'n caniatáu i dystiolaeth gael ei chasglu ac erlyniadau
gael eu trosglwyddo ymlaen i'r llys. Soniwyd bod y ffigurau yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn adlewyrchu'r tarfu hynny. Yn flaenorol, nodwyd mai Cyngor
Castell-nedd Port Talbot oedd yr awdurdod arweiniol ar gyfer cymryd camau
gorfodi yn erbyn tipio anghyfreithlon; efallai fod hyn yn wir o hyd, fodd bynnag,
roedd y niferoedd wedi lleihau, gan y byddai pob awdurdod wedi profi anawsterau
yn ystod y pandemig. Esboniodd swyddogion nad oedd ganddynt y ffigurau cymharu
cenedlaethol presennol hyd yma, ond roedd y math hwn o wybodaeth yn debygol o
fod ar gael ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â ffyrdd ac ardaloedd heb eu mabwysiadu lle'r oedd tir wedi'i restru
dan berchnogaeth breifat, lle'r oedd tipio anghyfreithlon yn broblem. Hysbyswyd
yr aelodau y byddai llawer o berchnogion tir yn ymateb ar ôl i Swyddog Gorfodi
gysylltu â nhw, a byddant yn clirio'r gwastraff o'r ardal; fodd bynnag, roedd
eraill a oedd yn anos cysylltu â hwy, a bu'n rhaid i swyddogion gyflwyno
hysbysiadau gorfodi iddynt. Soniwyd bod rhywfaint o dir nad oedd wedi'i
gofrestru, ac roedd yn heriol i swyddogion ddod o hyd i bwy oedd yn berchen ar
y tir; gweithiodd y tîm yn agos gyda'r gwasanaeth prawf, sy'n mynd i'r
ardaloedd preifat, anhysbys ac yn cwblhau gwaith glanhau cymunedol. Ychwanegwyd
yr aethpwyd i'r afael â'r mathau hyn o ardaloedd yr un modd â'r rhai a oedd yn
hysbys ac wedi'u mabwysiadu.
Gofynnwyd a allai Cynghorwyr
Lleol gynorthwyo swyddogion i nodi pwyntiau 'casglu', lle'r oedd nifer mawr o
sachau du yn cael eu gadael - fel y nodwyd, a fyddai’n destun ymchwiliad drwy
orfodi. Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Strydoedd fod hyn yn bosib.
Tynnodd yr aelodau sylw at y
ffaith ei bod yn aml yn wir nad oedd y rhai y tybiwyd eu bod yn troseddu dro ar
ôl tro'n cael eu galw i'r llys oherwydd diffyg tystiolaeth; felly, gofynnwyd a
ellid cyflwyno datganiadau tyst fel tystiolaeth. Cadarnhaodd swyddogion y gall
datganiadau tyst chwarae rôl, ond efallai y bydd angen tystiolaeth arall o hyd
gan ddibynnu ar y drosedd. Cytunwyd y byddai swyddogion yn cysylltu â'r Gwasanaethau
Cyfreithiol i gasglu rhagor o wybodaeth am y defnydd o ddatganiadau tyst ar
gyfer troseddau.
Gofynnwyd i swyddogion a
oeddent yn teimlo bod y lonydd â gatiau’n lleihau achosion o dipio
anghyfreithlon, neu'n dwysáu'r mater; ac a fyddent yn ystyried cynllun peilot,
lle y symudwyd rhai giatiau o'r ardaloedd hyn. Cydnabuwyd nad oedd y gatiau,
mewn rhai ardaloedd, wedi helpu'r sefyllfa gyda gwastraff yn y lonydd, er
iddynt gael eu gosod ar gyfer materion troseddu eraill. Dywedodd swyddogion fod
hwn yn faes y gellid ymchwilio iddo o ran cynllun peilot, gyda chymorth y Tîm
Ystadau sy'n rheoli'r gatiau, er y byddai angen i swyddogion wirio'r sefyllfa
gyfreithiol ac unrhyw broses sy'n gysylltiedig â'r Gorchmynion Gatio.
Holwyd a oedd swyddogion mewn
trafodaethau â busnesau fel KFC, Morrisons, McDonalds a'r tebyg, lle'r oedd
preswylwyr gwirfoddol yn gweld cynnydd mewn sbwriel o amgylch y busnesau hynny.
Hysbyswyd y pwyllgor fod sbwriel ar ochr y ffordd yn fater cenedlaethol; roedd
gan rai o'r busnesau eu patrolau sbwriel eu hunain, ac yn y gorffennol mae
swyddogion gorfodi wedi ymweld â busnesau ac wedi trafod ffyrdd amrywiol o
geisio olrhain y sbwriel. Nodwyd y byddai'r tîm yn hapus i weithio gyda
Chynghorwyr Lleol ar y mater hwn, a cheisio gwneud gwelliannau yn eu
hardaloedd.
Gofynnodd yr aelodau faint yn
ychwanegol oedd yn cael ei wario ar finiau ailgylchu plastig; roedd llawer o'r
preswylwyr wedi dweud bod eu rhai nhw wedi torri ar ôl i'w gwastraff bwyd gael
ei gasglu, ac roedd angen un newydd. Gofynnwyd hefyd a oedd y plastig o'r
biniau a dorrwyd yn cael ei ailgylchu. Cytunodd swyddogion i gynnal
dadansoddiad a rhoi manylion ffeithiol i'r aelodau am faint oedd yn cael ei
wario, y tu allan i'r cyfarfod. O ran rhan olaf y cwestiwn, tynnwyd sylw at y
ffaith bod y plastig wedi'i ailgylchu yn hanesyddol wrth i’r biniau gael eu
disodli fel rhan o newidiadau i'r system, yn ogystal â biniau sydd wedi torri y
gellid eu hailgylchu.
O ran casglu ailgylchu,
mynegwyd bod aelodau wedi derbyn llawer o gwynion yn ymwneud â'r llanast a
adawyd ar ôl gan bersonél. Hysbyswyd y pwyllgor fod gan y cerbydau casglu
gamerâu CCTV o'u cwmpas, a oedd yn helpu swyddogion i ddeall y cwynion a wnaed;
mewn rhai achosion, ni ellid cyfiawnhau'r cwynion, ond dilynwyd y rhai y gellid
eu cyfiawnhau gan oruchwylwyr. Nodwyd bod arian ychwanegol yn cael ei glustnodi
i'r gwasanaeth ar gyfer tâl ychwanegol, a fydd yn rhyddhau rhagor o amser
goruchwylio ar gyfer goruchwylio ar y safle; bydd hyn yn caniatáu i'r
goruchwylwyr fynd allan i'r gymuned a sicrhau bod pob agwedd ar y gwasanaeth yn
cael ei darparu i'r safon briodol. Esboniodd swyddogion fod 40 aelod o staff
wedi bod i ffwrdd o'r gwaith yn ddiweddar oherwydd ton ddiweddaraf y pandemig;
Bu'n rhaid i swyddogion adleoli staff i wahanol ddyletswyddau a chriwiau, nad
oeddent fel arfer yn gwneud y math hwn o waith, a bu'n rhaid iddynt gyflogi
gweithwyr asiantaeth ychwanegol. Sicrhawyd yr aelodau fod y ffigurau'n gostwng,
ac roedd y gwasanaeth yn dechrau sefydlogi eto.
Mynegwyd pryderon ynglŷn
â'r amser a gymerodd i'r aelodau gael ymateb am wybodaeth sy'n ymwneud â
sbwriel ac ailgylchu. Soniwyd bod y rhestr gyswllt ar gyfer Gofal Strydoedd
wedi'i diweddaru a'i dosbarthu i'r holl aelodau yn ddiweddar; dangosodd y
rhestr fod swydd Rheolwr y Gwasanaeth Gwastraff yn wag ar hyn o bryd. Hysbyswyd
yr aelodau fod mesurau ad hoc, dros dro ar waith, a oedd yn golygu nad oedd
rhai o'r materion a godwyd yn cael y sylw yr oedd ei angen arnynt, a allai
arwain at oedi. Roedd swyddogion yn gobeithio y byddai'r swydd hon yn cael ei
llenwi'n fuan i roi sylw i rai o'r materion.
Tynnodd yr aelodau sylw at
broblem o ran unigolion sy'n gosod sachau du mewn biniau stryd sy'n eiddo i'r
cyngor sydd wedi’u lleoli ar draws y Fwrdeistref Sirol; roedd hyn yn achosi i
finiau orlifo a nifer cynyddol o sachau’n cael eu gadael wrth ymyl y biniau.
Gofynnwyd a ellid gosod camerâu mewn rhai ardaloedd targed i geisio mynd i'r
afael â'r mater hwn. Cadarnhaodd swyddogion y gallent ymchwilio i ddefnyddio
camera cudd mewn rhai mannau. Ychwanegodd Aelod y Cabinet hefyd y gallai cael
gwared ar finiau penodol a oedd yn cael eu targedu fod yn opsiwn i ddatrys y
mater hwn. Nodwyd bod y mater hwn hefyd yn cysylltu â'r rhesymau pam fod
swyddogion gwastraff yn ceisio hysbysiadau dyletswydd gofal gan fusnesau yn yr
ardal, er mwyn sicrhau bod gan bob busnes y contractau a'r trefniadau
angenrheidiol ar waith. O ran preswylwyr, nodwyd bod y broses o gynyddu
ailgylchu a lleihau gwastraff wedi bod yn broses barhaus, tymor hir o newid
ymddygiad, gan fod llawer o'r materion hyn yn cysylltu â'r rhai nad ydynt yn
ailgylchu; er y bu newidiadau cadarnhaol o ran cynnydd cynyddol i dargedau
cenedlaethol tymor hir. Cadarnhawyd y bydd swyddogion yn darparu'r wybodaeth
ddiweddaraf am y mater hwn i'r weinyddiaeth newydd.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: