Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 5ed Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cyhoeddwyd bod Eitem 9 ar Agenda Bwrdd y Cabinet, 'Opsiynau dylunio ar gyfer gwaith adfer Tomen Cilmaengwyn uwchben Ysgol Gynradd Godre’r Graig', wedi ei thynnu’n ôl o gael ei hystyried yn y cyfarfod hwn i alluogi Swyddogion i geisio gwybodaeth atodol bellach. Cadarnhawyd y byddai adroddiad ynghylch y mater hwn yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd:

 

Y Cyng. M Harvey -                         Parthed. Eitem 8 Agenda Bwrdd y Cabinet - Adroddiad Parcio Blynyddol 2020/2021, oherwydd yn ei rôl yn gweithio i Heddlu De Cymru, mae'n asesu meysydd parcio sy’n cael eu crybwyll yn yr adroddiad fel rhan o'r Cynllun Parcio Mwy Diogel.

 

 

3.

Ymgyrch Gorfodi Parcio 2021 pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch Ymgyrch Gorfodi Parcio 2021, a oedd yn manylu ar y lefelau staffio presennol yn is-adran gwasanaethau parcio'r awdurdod.

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y cyngor yn cyfyngu ar nifer yr hawlenni sy’n cael eu rhoi mewn perthynas â'r lleoedd parcio sydd ar gael; ac os cafodd hyn unrhyw effaith ar y strydoedd cyfagos, yn enwedig ardaloedd tai teras. O ran y polisi presennol, dywedwyd y gallai dau breswylydd fesul aelwyd dderbyn hawlenni parcio; lleihawyd hyn i un hawlen os oedd ardaloedd parcio oddi ar y ffordd neu os oedd garej yn yr eiddo. Nid oedd y cynllun hawlenni presennol yn gwarantu lle yng nghilfachau preswylwyr, fodd bynnag roedd yn cynnig cyfle gwell i breswylwyr barcio'n nes at eu heiddo. Nodwyd, pan fydd Swyddogion yn asesu stryd, fod yn rhaid iddynt gadw tua 30% o'r stryd yn anghyfyngedig, sy'n caniatáu i ymwelwyr a'r rheini nad oeddent yn gallu parcio mewn cilfach, allu parcio mewn ardal anghyfyngedig; lle'r oedd strydoedd cyfyngedig iawn, mae'n anochel weithiau y bydd yn rhaid i breswylwyr barcio ar strydoedd cyfagos. Soniodd swyddogion, gyda chynnydd yn nifer y cerbydau preifat, fod mwy o geir na lleoedd parcio ar y strydoedd mewn rhai ardaloedd, yn enwedig lle'r oedd tai teras. Ychwanegwyd, er mwyn cyflwyno hawlen ar gyfer parcio ar y stryd, mae'n rhaid i'r car fod wedi'i gofrestru i eiddo ar y stryd.

Soniwyd bod rhai ardaloedd a lleoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol a allai fod yn addas ar gyfer cilfachau parcio ychwanegol, er enghraifft, ymylon; Gofynnwyd i swyddogion a allent ymchwilio i'r math hwn o ateb i’r broblem ac a oedd unrhyw grantiau y gellid eu defnyddio i gwblhau'r gwaith hwn. Dywedodd Swyddogion nad oedd grantiau penodol ar gael i greu cilfachau parcio preswyl oddi ar y ffordd; yn y gorffennol, bu cynlluniau lle'r oedd y cyngor yn gallu creu cilfachau parcio oddi ar y ffordd, fodd bynnag ni fu unrhyw gynlluniau tebyg ers tro oherwydd y pwysau ar y gyllideb cynnal a chadw priffyrdd. Nodwyd bod y math hwn o waith yn bosib pe deuai arian heb ei gynllunio ar gael; roedd y tîm yn agored i awgrymiadau a byddent bob amser yn ceisio creu lleoedd parcio ychwanegol, lle bo hynny'n bosib, i breswylwyr. Esboniwyd y byddai angen hysbysu Swyddogion o broblemau penodol yn wardiau'r Aelodau er mwyn iddynt nodi unrhyw gyfleoedd am gyllid i ariannu prosiectau gwaith penodol.

Cododd yr Aelodau bwyntiau’n ymwneud â phatrwm gwaith y staff a'r angen am ragor o adnoddau yn y gwasanaeth; a dywedon nhw er bod rhai elfennau gorfodi wedi bod yn effeithiol, fel y fan teledu cylch cyfyng, byddai angen rhagor ohonynt er mwyn gwneud y gwaith gorfodi’n fwy effeithiol. Cadarnhaodd Swyddogion fod y fan teledu cylch cyfyng wedi bod yn effeithiol iawn ers iddi gael ei chyflwyno; fodd bynnag, o dan y ddeddfwriaeth, gallai'r fan teledu cylch cyfyng orfodi rhai gorchmynion traffig yn unig, fel y rheini'n ymwneud â llinellau melyn dwbl, safleoedd bysus a chilfachau bysus, marciau igam ogam a gorchmynion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Adolygiad Polisi Biniau Graean Bob Tair Blynedd

Rhoddwyd adolygiad o bolisi biniau graean y cyngor i'r Aelodau.

Esboniodd swyddogion fod y polisi biniau graean wedi cael ei lunio yn 2012, a'i fod wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor ar sail adolygiad tair blynedd ers hynny; ni fu unrhyw newidiadau i'r polisi ers iddo gael ei lunio yn 2012. Tynnwyd sylw at y ffaith oherwydd penderfyniadau anodd blaenorol ynghylch y gyllideb, gan gynnwys toriadau i'r Gwasanaethau Cymdogaethau, nad oedd llawer o arian ar gael ar hyn o bryd ar gyfer gweithgarwch ychwanegol yn y gwasanaeth.

Hysbyswyd yr Aelodau fod biniau graean wedi'u prynu mewn sypiau a'u bod yn cael eu hamnewid yn ôl yr angen, ynghyd ag ail-lenwadau y gellid eu prynu yn unol â'r polisi; y llynedd, adroddwyd bod tri bin graean wedi'u difrodi ac roedd naw bin graean yn absennol o'u lleoliad arferol. 

Nodwyd bod cynnal biniau graean yn creu swm sylweddol o waith a galw am wasanaeth i'r Tîm Cymdogaethau; yn ogystal â'r gwaith o ail-lenwi rheolaidd a oedd fel arfer yn cael ei wneud, cafwyd 100 cais am ail-lenwadau ychwanegol y llynedd. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod angen cydbwyso lefel gyfyngedig o adnoddau ar draws ystod o weithgareddau y mae'r Tîm Cymdogaethau yn eu cyflawni; oherwydd y ffaith nad oedd sefyllfa’r gyllideb wedi gwella, yr argymhelliad oedd cynnal y polisi am gyfnod o dair blynedd ychwanegol. Ychwanegodd Swyddogion, pe bai'r Aelodau am adolygu manylion y polisi, y byddai'n bwysig ystyried y ceisiadau am finiau graean gan yr holl Aelodau Etholedig yn eu cyfanrwydd a sicrhau bod pa bynnag newidiadau a wnaed yn cyd-fynd â'r gyllideb fel y gellid eu hariannu a'u cynnal.

Mynegodd yr aelodau eu pryderon o ran y polisi biniau graean presennol gan dynnu sylw at yr anawsterau a brofwyd yn ystod misoedd y gaeaf; yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oedd llawer o finiau graean neu unrhyw rai o gwbl. Roedd yr aelodau wedi gobeithio y byddai rhagor o finiau graean ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd lle roedd rhiwiau; gofynnwyd a oedd ymarfer mapio wedi'i gwblhau i nodi ble roedd y gwahanol finiau graean wedi'u lleoli ac a ellid edrych i mewn i'w cyfartalrwydd.

Cadarnhaodd Swyddogion fod gan system gwybodaeth ddaearyddol y cyngor haen a oedd yn cynnwys lleoliad yr holl finiau graean ar draws y fwrdeistref sirol. Soniwyd bod gan y polisi biniau graean feini prawf cymhwysedd a oedd yn cynnwys y nodweddion a'r amodau angenrheidiol o gael bin graean ar gyfer ardaloedd gwahanol; roedd mwy o rhywiau mewn rhai ardaloedd yn y fwrdeistref sirol nag eraill, felly byddent yn flaenoriaeth wrth gael gafael ar fin. Hysbyswyd yr Aelodau na fydd y dosbarthiad yn gyfartal oherwydd hyn. Ychwanegwyd, dan y polisi presennol, bod hawl gan Aelodau i symud bin graean i leoliad arall yn eu ward os oedd angen; fodd bynnag, os nad oedd gan y ward fin graean i'w symud, yna ni fyddai hyn yn gallu digwydd.

Cafwyd trafodaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 214 KB

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau i wybodaeth yn ymwneud â gorfodi gwastraff ar yr ochr yn y Gwasanaeth Gwastraff gael ei hychwanegu at y Blaenraglen Waith. Cytunwyd y byddai'r elfen hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar orfodi sbwriel a thipio anghyfreithlon y disgwylir iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar 28 Ionawr 2022. 

Nodwyd y Blaenraglen Waith ar gyfer Pwyllgor Craffu’r Strydlun a Pheirianneg.

 

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

7.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Cytundeb Adran 38 Deddf Priffyrdd 1980, Taliad Swm Gohiriedig - Cae Morfa, Camau Tri a Phedwar Sgiwen

Derbyniodd yr Aelodau adroddiad mewn perthynas â sefyllfa Adran 38 Datblygiad Cae Morfa ynghylch lefel y symiau gohiriedig ar gyfer cynnal a chadw'r datblygiad yn y tymor hir.

Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad i fynd at Fwrdd y Cabinet.