Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Adolygiad Polisi Biniau Graean
Bob Tair Blynedd
Rhoddwyd adolygiad o bolisi
biniau graean y cyngor i'r Aelodau.
Esboniodd swyddogion fod y
polisi biniau graean wedi cael ei lunio yn 2012, a'i fod wedi'i gyflwyno i'r
Pwyllgor ar sail adolygiad tair blynedd ers hynny; ni fu unrhyw newidiadau i'r
polisi ers iddo gael ei lunio yn 2012. Tynnwyd sylw at y ffaith oherwydd
penderfyniadau anodd blaenorol ynghylch y gyllideb, gan gynnwys toriadau i'r
Gwasanaethau Cymdogaethau, nad oedd llawer o arian ar gael ar hyn o bryd ar
gyfer gweithgarwch ychwanegol yn y gwasanaeth.
Hysbyswyd yr Aelodau fod
biniau graean wedi'u prynu mewn sypiau a'u bod yn cael eu hamnewid yn ôl yr
angen, ynghyd ag ail-lenwadau y gellid eu prynu yn unol â'r polisi; y llynedd,
adroddwyd bod tri bin graean wedi'u difrodi ac roedd naw bin graean yn absennol
o'u lleoliad arferol.
Nodwyd bod cynnal biniau
graean yn creu swm sylweddol o waith a galw am wasanaeth i'r Tîm Cymdogaethau;
yn ogystal â'r gwaith o ail-lenwi rheolaidd a oedd fel arfer yn cael ei wneud,
cafwyd 100 cais am ail-lenwadau ychwanegol y llynedd. Tynnodd Swyddogion sylw
at y ffaith bod angen cydbwyso lefel gyfyngedig o adnoddau ar draws ystod o
weithgareddau y mae'r Tîm Cymdogaethau yn eu cyflawni; oherwydd y ffaith nad
oedd sefyllfa’r gyllideb wedi gwella, yr argymhelliad oedd cynnal y polisi am
gyfnod o dair blynedd ychwanegol. Ychwanegodd Swyddogion, pe bai'r Aelodau am
adolygu manylion y polisi, y byddai'n bwysig ystyried y ceisiadau am finiau
graean gan yr holl Aelodau Etholedig yn eu cyfanrwydd a sicrhau bod pa bynnag
newidiadau a wnaed yn cyd-fynd â'r gyllideb fel y gellid eu hariannu a'u
cynnal.
Mynegodd yr aelodau eu
pryderon o ran y polisi biniau graean presennol gan dynnu sylw at yr anawsterau
a brofwyd yn ystod misoedd y gaeaf; yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oedd
llawer o finiau graean neu unrhyw rai o gwbl. Roedd yr aelodau wedi gobeithio y
byddai rhagor o finiau graean ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd lle roedd
rhiwiau; gofynnwyd a oedd ymarfer mapio wedi'i gwblhau i nodi ble roedd y
gwahanol finiau graean wedi'u lleoli ac a ellid edrych i mewn i'w
cyfartalrwydd.
Cadarnhaodd Swyddogion fod gan
system gwybodaeth ddaearyddol y cyngor haen a oedd yn cynnwys lleoliad yr holl
finiau graean ar draws y fwrdeistref sirol. Soniwyd bod gan y polisi biniau
graean feini prawf cymhwysedd a oedd yn cynnwys y nodweddion a'r amodau
angenrheidiol o gael bin graean ar gyfer ardaloedd gwahanol; roedd mwy o
rhywiau mewn rhai ardaloedd yn y fwrdeistref sirol nag eraill, felly byddent yn
flaenoriaeth wrth gael gafael ar fin. Hysbyswyd yr Aelodau na fydd y
dosbarthiad yn gyfartal oherwydd hyn. Ychwanegwyd, dan y polisi presennol, bod
hawl gan Aelodau i symud bin graean i leoliad arall yn eu ward os oedd angen;
fodd bynnag, os nad oedd gan y ward fin graean i'w symud, yna ni fyddai hyn yn
gallu digwydd.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r canllawiau presennol a gynhwyswyd yn y polisi. Gwnaeth yr Aelodau
awgrymiadau amrywiol yn ymwneud â'r hyn y gellid ei ychwanegu at y polisi a'i
adolygu er mwyn gwneud gwelliannau; er enghraifft, ystyried oedran a
diamddiffynnedd preswylwyr, nodi a oedd ardaloedd penodol yn dueddol o gael
rhew yn ystod tymor y gaeaf a rhoi disgresiwn i Swyddogion pe bai achos cadarn
dros ddarparu bin graean i ardal.
Yn dilyn y trafodaethau a'r
pryderon a godwyd gan yr Aelodau, cynigiwyd ac eiliwyd diwygiad ffurfiol i'r
argymhelliad a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:
'Bod y Polisi Biniau Graean
presennol yn parhau nes y bydd Pwyllgor Craffu’r Strydlun a Pheirianneg yn
adolygu’r polisi ac y rhoddir adroddiad i’w ystyried mewn cyfarfod Bwrdd
Strydlun a Pheirianneg y Cabinet yn y dyfodol'.
Penderfynwyd bod y Pwyllgor o
blaid y gwelliant i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Dangosyddion Perfformiad
Allweddol 2021/2022 - Perfformiad Chwarter 1 (1 Ebrill 2021 - 30 Mehefin 2021)
Adroddodd Swyddogion am ddata
rheoli perfformiad chwarter 1 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 30 Mehefin
2021.
Cyfeiriodd yr
Aelodau at y dangosydd perfformiad yn ymwneud â chanran y gwastraff, boed
wedi'i ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio; a thynnodd sylw at y
ffaith bod y ffigurau targed yn cynyddu. Cadarnhaodd Swyddogion mai'r targed
cyfredol ar gyfer y dangosydd perfformiad hwn oedd 64%, a fyddai'n cynyddu i
70% ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2024/25.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.