Cofnodion:
Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad ynghylch Ymgyrch Gorfodi Parcio 2021, a oedd yn manylu ar y lefelau
staffio presennol yn is-adran gwasanaethau parcio'r awdurdod.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y
cyngor yn cyfyngu ar nifer yr hawlenni sy’n cael eu rhoi mewn perthynas â'r
lleoedd parcio sydd ar gael; ac os cafodd hyn unrhyw effaith ar y strydoedd
cyfagos, yn enwedig ardaloedd tai teras. O ran y polisi presennol, dywedwyd y
gallai dau breswylydd fesul aelwyd dderbyn hawlenni parcio; lleihawyd hyn i un
hawlen os oedd ardaloedd parcio oddi ar y ffordd neu os oedd garej yn yr eiddo.
Nid oedd y cynllun hawlenni presennol yn gwarantu lle yng nghilfachau
preswylwyr, fodd bynnag roedd yn cynnig cyfle gwell i breswylwyr barcio'n nes
at eu heiddo. Nodwyd, pan fydd Swyddogion yn asesu stryd, fod yn rhaid iddynt
gadw tua 30% o'r stryd yn anghyfyngedig, sy'n caniatáu i ymwelwyr a'r rheini
nad oeddent yn gallu parcio mewn cilfach, allu parcio mewn ardal anghyfyngedig;
lle'r oedd strydoedd cyfyngedig iawn, mae'n anochel weithiau y bydd yn rhaid i
breswylwyr barcio ar strydoedd cyfagos. Soniodd swyddogion, gyda chynnydd yn
nifer y cerbydau preifat, fod mwy o geir na lleoedd parcio ar y strydoedd mewn
rhai ardaloedd, yn enwedig lle'r oedd tai teras. Ychwanegwyd, er mwyn cyflwyno
hawlen ar gyfer parcio ar y stryd, mae'n rhaid i'r car fod wedi'i gofrestru i
eiddo ar y stryd.
Soniwyd bod rhai ardaloedd a
lleoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol a allai fod yn addas ar gyfer cilfachau
parcio ychwanegol, er enghraifft, ymylon; Gofynnwyd i swyddogion a allent
ymchwilio i'r math hwn o ateb i’r broblem ac a oedd unrhyw grantiau y gellid eu
defnyddio i gwblhau'r gwaith hwn. Dywedodd Swyddogion nad oedd grantiau penodol
ar gael i greu cilfachau parcio preswyl oddi ar y ffordd; yn y gorffennol, bu
cynlluniau lle'r oedd y cyngor yn gallu creu cilfachau parcio oddi ar y ffordd,
fodd bynnag ni fu unrhyw gynlluniau tebyg ers tro oherwydd y pwysau ar y
gyllideb cynnal a chadw priffyrdd. Nodwyd bod y math hwn o waith yn bosib pe
deuai arian heb ei gynllunio ar gael; roedd y tîm yn agored i awgrymiadau a
byddent bob amser yn ceisio creu lleoedd parcio ychwanegol, lle bo hynny'n
bosib, i breswylwyr. Esboniwyd y byddai angen hysbysu Swyddogion o broblemau
penodol yn wardiau'r Aelodau er mwyn iddynt nodi unrhyw gyfleoedd am gyllid i
ariannu prosiectau gwaith penodol.
Cododd yr Aelodau bwyntiau’n
ymwneud â phatrwm gwaith y staff a'r angen am ragor o adnoddau yn y gwasanaeth;
a dywedon nhw er bod rhai elfennau gorfodi wedi bod yn effeithiol, fel y fan
teledu cylch cyfyng, byddai angen rhagor ohonynt er mwyn gwneud y gwaith
gorfodi’n fwy effeithiol. Cadarnhaodd Swyddogion fod y fan teledu cylch cyfyng
wedi bod yn effeithiol iawn ers iddi gael ei chyflwyno; fodd bynnag, o dan y
ddeddfwriaeth, gallai'r fan teledu cylch cyfyng orfodi rhai gorchmynion traffig
yn unig, fel y rheini'n ymwneud â llinellau melyn dwbl, safleoedd bysus a
chilfachau bysus, marciau igam ogam a gorchmynion ysgol. Nodwyd y gwnaed
newidiadau cymhleth pan gyflwynwyd y cerbyd hwn oherwydd bod yn rhaid
digideiddio pob gorchymyn traffig ar draws y fwrdeistref sirol; roedd hyn
oherwydd bod y fan teledu cylch cyfyng yn codi lle mae gorchymyn yn dechrau ac
yn gorffen o System Leoli Fyd-eang. Ychwanegwyd bod Swyddogion yn cydnabod bod
yn rhaid rheoleiddio gorchmynion traffig o gwmpas ysgolion yn llwyr ar draws y
fwrdeistref sirol; cymerodd hyn gryn dipyn o amser i'w gwblhau. Cadarnhaodd
Swyddogion eu bod ar hyn o bryd yn gweithio trwy gostau i brynu cerbyd arall o
bosib oherwydd effeithiolrwydd y fan bresennol a nifer y ceisiadau am gerbyd
ychwanegol gan yr Aelodau Etholedig; byddai hyn yn cynyddu camau gorfodi yn y
fwrdeistref sirol, fodd bynnag gallai'r faniau fod mewn lleoliadau penodol ar
adegau penodol yn unig. Cadarnhawyd pan fyddai angen newid y fan bresennol, y
byddai cerbyd trydan ag allyriadau isel yn cael ei brynu a bydd yr un peth yn berthnasol
wrth brynu cerbydau ychwanegol.
O ran adnoddau, amlygwyd bod y
lefelau staffio wedi aros yr un peth fwy neu lai ers y rhoddwyd pwerau gorfodi
i awdurdodau lleol; ers hynny, dros yr 20 mlynedd diwethaf, cyflwynwyd tua 600
o orchmynion traffig gorfodadwy ychwanegol ar draws y fwrdeistref sirol, roedd
nifer y meysydd parcio awyr agored a meysydd parcio oddi ar y ffordd wedi
cynyddu, yn ogystal â rhai o feysydd parcio'r parciau gwledig y mae'r cyngor yn
eu gorfodi. Yn ogystal, soniwyd y bu cynnydd mewn gweithgarwch ar lan môr
Aberafan yn ystod misoedd yr haf a llawer o gyrchfannau twristaidd eraill yn y
fwrdeistref sirol; roedd hyn hefyd yn cael effaith ar y gwasanaeth oherwydd bod
yr ardaloedd hynny'n dod yn fwy poblogaidd, felly roedd yn rhaid i Swyddogion
ymateb i'r ffactorau hyn. Dywedwyd bod pwysau difrifol ar y gwasanaeth parcio
oherwydd y materion hyn a godwyd.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod
datblygiadau newydd wedi cael effaith sylweddol ar ardaloedd trefol, ac wedi
effeithio ar rai strydoedd preswyl; er enghraifft, cafwyd llawer o anawsterau
gyda cheir oedd wedi'u parcio heb ganiatâd ar gampws y brifysgol ar Fabian Way,
ac oherwydd hyn roedd Swyddogion wedi defnyddio camau gorfodi yn yr ardal pan
oedd y brifysgol yn weithredol.
Anhawster arall a nodwyd oedd
y safleoedd tacsis; fodd bynnag, roedd cydweithwyr yn y Tîm Trwyddedu wedi
cyflwyno adroddiad i'r Cabinet yn ddiweddar i alluogi ymagwedd fwy cydlynol at
orfodi'r safleoedd tacsis.
O ran lefelau staffio, nodwyd
bod gan y gwasanaeth gyfanswm o 10 Swyddog, gyda dau o'r rheini'n
Uwch-swyddogion; roedd un swydd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd gan fod
gweithiwr wedi gadael y cyngor yn ddiweddar. Cadarnhawyd, gyda'r recriwt
newydd, y byddai'r lefelau staffio’n gyfanswm o naw gweithiwr, gan fod un Uwch-swyddog
wedi'i ddefnyddio i gynorthwyo gyda'r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (POD).
Soniwyd bod y staff yn gweithio shifftiau a rennir, a thynnodd Swyddogion sylw
at yr amseroedd a'r dyddiau amrywiol a oedd yn yr amserlen; Gofynnwyd i
Swyddogion hefyd weithio goramser i gefnogi gorfodi gyda'r nos.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r peiriannau tocynnau parcio, sydd bellach yn derbyn taliadau digyffwrdd;
Holodd yr Aelodau a oeddent yn hawdd i'w defnyddio. Esboniwyd bod y nodwedd
ddigyffwrdd yn gymharol hawdd ei defnyddio; roedd yn gofyn i'r defnyddiwr nodi
rhif cofrestru’i gar a thapio’i gerdyn digyffwrdd yn erbyn y peiriant cyn y
byddai tocyn yn cael ei ddarparu. Dywedodd swyddogion y bu cynllun graddol i
adnewyddu'r holl beiriannau tocynnau parcio talu ac arddangos ar draws y
fwrdeistref sirol; roedd rhai bellach yn beiriannau wedi'u pweru gan ynni
solar, ac roedd eraill yn wifredig. Ychwanegwyd bod pob un o'r peiriannau
bellach yn ddwyieithog, a bod a opsiynau amrywiol i dalu am barcio; roedd hyn
yn cynnwys talu drwy sglodyn a PIN, trwy arian parod a thaliad digyffwrdd.
Hysbyswyd yr aelodau fod y gwasanaeth hefyd yn y broses o gyflwyno opsiwn talu
dros y ffôn trwy'r cyfleuster MiPermit, i bob maes parcio ledled y fwrdeistref
sirol; roedd hyn eisoes ar waith ym maes parcio ar lan môr Aberafan, ac yn
caniatáu i'r cyhoedd dalu am eu tocyn ar eu ffôn.
Amlygodd swyddogion fod casglu
arian parod o'r peiriannau tocynnau parcio wedi cael ei leihau'n sylweddol gan
fod mwy o bobl yn dewis talu trwy gerdyn neu trwy ddull di-arian; roedd y
gwasanaeth wedi gallu adolygu'r system casglu arian parod yn ei chyfanrwydd
oherwydd hyn. Nodwyd mai ychydig iawn o arian parod oedd bellach yn y
peiriannau, a gosodwyd arwyddion i hysbysu'r cyhoedd o hyn; cafwyd nifer o
ddigwyddiadau lle'r oedd unigolion wedi ceisio torri i mewn i'r peiriannau,
felly roedd yn bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol bod y system bellach
yn ddi-arian yn bennaf.
Gofynnwyd, lle'r oedd
problemau mawr gyda pharcio mewn rhai strydoedd, a fyddai modd cael gwared â
rhai o'r ymylon glaswelltog er mwyn caniatáu lleoedd parcio ychwanegol.
Cadarnhaodd Swyddogion eu bod yn fodlon nodi cyfleoedd lle y gellid cyflawni
hyn; roedd gwahanol gamau i wneud hyn, ac roedd un ohonynt yn cynnwys cysylltu
â’r Tîm Diogelwch Ffyrdd i gael eu barn o safbwynt diogelwch ffyrdd. Soniwyd
bod Swyddogion mewn rhai lleoliadau yn y fwrdeistref sirol wedi cynghori yn
erbyn creu lleoedd parcio ar ymylon glaswelltog yn enwedig o gwmpas ysgolion;
yn yr achosion hyn ystyriodd swyddogion roi mesurau lliniaru eraill ar waith.
Cadarnhawyd y byddai angen nodi a oedd cyllid cyfalaf ar gael ym mhob achos er
mwyn i'r gwaith gael ei wneud.
Rhoddodd Swyddogion wybodaeth
am y ddeddfwriaeth newydd y disgwylir iddi gael ei chyhoeddi yn ystod tymor
Llywodraeth bresennol Cymru; un o brif elfennau hyn oedd parcio ar balmentydd.
Esboniwyd bod pwerau gorfodi parcio ar balmant yn mynd i gael eu cymryd oddi
wrth yr heddlu a'u rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru; bydd hyn yn rhoi pwysau
ychwanegol sylweddol ar y timau gorfodi.
Gwnaed awgrym i
gynnwys preswylwyr mewn trafodaethau ynghylch dod i hyd i atebion i broblemau
parcio mewn ardaloedd preswyl.
Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: