Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Cyhoeddwyd bod Eitem 9 ar
Agenda Bwrdd y Cabinet, 'Opsiynau dylunio ar gyfer gwaith adfer Tomen
Cilmaengwyn uwchben Ysgol Gynradd Godre’r Graig', wedi ei thynnu’n ôl o gael ei
hystyried yn y cyfarfod hwn i alluogi Swyddogion i geisio gwybodaeth atodol bellach.
Cadarnhawyd y byddai adroddiad ynghylch y mater hwn yn cael ei gyflwyno i'w
ystyried yn y cyfarfod nesaf. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr Aelod canlynol ddatganiad o fudd: Y Cyng. M Harvey - Parthed.
Eitem 8 Agenda Bwrdd y Cabinet - Adroddiad Parcio Blynyddol 2020/2021, oherwydd
yn ei rôl yn gweithio i Heddlu De Cymru, mae'n asesu meysydd parcio sy’n cael
eu crybwyll yn yr adroddiad fel rhan o'r Cynllun Parcio Mwy Diogel. |
|||
Ymgyrch Gorfodi Parcio 2021 PDF 99 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad ynghylch Ymgyrch Gorfodi Parcio 2021, a oedd yn manylu ar y lefelau
staffio presennol yn is-adran gwasanaethau parcio'r awdurdod. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y
cyngor yn cyfyngu ar nifer yr hawlenni sy’n cael eu rhoi mewn perthynas â'r
lleoedd parcio sydd ar gael; ac os cafodd hyn unrhyw effaith ar y strydoedd
cyfagos, yn enwedig ardaloedd tai teras. O ran y polisi presennol, dywedwyd y
gallai dau breswylydd fesul aelwyd dderbyn hawlenni parcio; lleihawyd hyn i un
hawlen os oedd ardaloedd parcio oddi ar y ffordd neu os oedd garej yn yr eiddo.
Nid oedd y cynllun hawlenni presennol yn gwarantu lle yng nghilfachau
preswylwyr, fodd bynnag roedd yn cynnig cyfle gwell i breswylwyr barcio'n nes
at eu heiddo. Nodwyd, pan fydd Swyddogion yn asesu stryd, fod yn rhaid iddynt
gadw tua 30% o'r stryd yn anghyfyngedig, sy'n caniatáu i ymwelwyr a'r rheini
nad oeddent yn gallu parcio mewn cilfach, allu parcio mewn ardal anghyfyngedig;
lle'r oedd strydoedd cyfyngedig iawn, mae'n anochel weithiau y bydd yn rhaid i
breswylwyr barcio ar strydoedd cyfagos. Soniodd swyddogion, gyda chynnydd yn
nifer y cerbydau preifat, fod mwy o geir na lleoedd parcio ar y strydoedd mewn
rhai ardaloedd, yn enwedig lle'r oedd tai teras. Ychwanegwyd, er mwyn cyflwyno
hawlen ar gyfer parcio ar y stryd, mae'n rhaid i'r car fod wedi'i gofrestru i
eiddo ar y stryd. Soniwyd bod rhai ardaloedd a
lleoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol a allai fod yn addas ar gyfer cilfachau
parcio ychwanegol, er enghraifft, ymylon; Gofynnwyd i swyddogion a allent
ymchwilio i'r math hwn o ateb i’r broblem ac a oedd unrhyw grantiau y gellid eu
defnyddio i gwblhau'r gwaith hwn. Dywedodd Swyddogion nad oedd grantiau penodol
ar gael i greu cilfachau parcio preswyl oddi ar y ffordd; yn y gorffennol, bu
cynlluniau lle'r oedd y cyngor yn gallu creu cilfachau parcio oddi ar y ffordd,
fodd bynnag ni fu unrhyw gynlluniau tebyg ers tro oherwydd y pwysau ar y
gyllideb cynnal a chadw priffyrdd. Nodwyd bod y math hwn o waith yn bosib pe
deuai arian heb ei gynllunio ar gael; roedd y tîm yn agored i awgrymiadau a
byddent bob amser yn ceisio creu lleoedd parcio ychwanegol, lle bo hynny'n
bosib, i breswylwyr. Esboniwyd y byddai angen hysbysu Swyddogion o broblemau
penodol yn wardiau'r Aelodau er mwyn iddynt nodi unrhyw gyfleoedd am gyllid i
ariannu prosiectau gwaith penodol. Cododd yr Aelodau bwyntiau’n ymwneud â phatrwm gwaith y staff a'r angen am ragor o adnoddau yn y gwasanaeth; a dywedon nhw er bod rhai elfennau gorfodi wedi bod yn effeithiol, fel y fan teledu cylch cyfyng, byddai angen rhagor ohonynt er mwyn gwneud y gwaith gorfodi’n fwy effeithiol. Cadarnhaodd Swyddogion fod y fan teledu cylch cyfyng wedi bod yn effeithiol iawn ers iddi gael ei chyflwyno; fodd bynnag, o dan y ddeddfwriaeth, gallai'r fan teledu cylch cyfyng orfodi rhai gorchmynion traffig yn unig, fel y rheini'n ymwneud â llinellau melyn dwbl, safleoedd bysus a chilfachau bysus, marciau igam ogam a gorchmynion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adolygiad Polisi Biniau Graean
Bob Tair Blynedd Rhoddwyd adolygiad o bolisi
biniau graean y cyngor i'r Aelodau. Esboniodd swyddogion fod y
polisi biniau graean wedi cael ei lunio yn 2012, a'i fod wedi'i gyflwyno i'r
Pwyllgor ar sail adolygiad tair blynedd ers hynny; ni fu unrhyw newidiadau i'r
polisi ers iddo gael ei lunio yn 2012. Tynnwyd sylw at y ffaith oherwydd
penderfyniadau anodd blaenorol ynghylch y gyllideb, gan gynnwys toriadau i'r
Gwasanaethau Cymdogaethau, nad oedd llawer o arian ar gael ar hyn o bryd ar
gyfer gweithgarwch ychwanegol yn y gwasanaeth. Hysbyswyd yr Aelodau fod
biniau graean wedi'u prynu mewn sypiau a'u bod yn cael eu hamnewid yn ôl yr
angen, ynghyd ag ail-lenwadau y gellid eu prynu yn unol â'r polisi; y llynedd,
adroddwyd bod tri bin graean wedi'u difrodi ac roedd naw bin graean yn absennol
o'u lleoliad arferol. Nodwyd bod cynnal biniau
graean yn creu swm sylweddol o waith a galw am wasanaeth i'r Tîm Cymdogaethau;
yn ogystal â'r gwaith o ail-lenwi rheolaidd a oedd fel arfer yn cael ei wneud,
cafwyd 100 cais am ail-lenwadau ychwanegol y llynedd. Tynnodd Swyddogion sylw
at y ffaith bod angen cydbwyso lefel gyfyngedig o adnoddau ar draws ystod o
weithgareddau y mae'r Tîm Cymdogaethau yn eu cyflawni; oherwydd y ffaith nad
oedd sefyllfa’r gyllideb wedi gwella, yr argymhelliad oedd cynnal y polisi am
gyfnod o dair blynedd ychwanegol. Ychwanegodd Swyddogion, pe bai'r Aelodau am
adolygu manylion y polisi, y byddai'n bwysig ystyried y ceisiadau am finiau
graean gan yr holl Aelodau Etholedig yn eu cyfanrwydd a sicrhau bod pa bynnag
newidiadau a wnaed yn cyd-fynd â'r gyllideb fel y gellid eu hariannu a'u
cynnal. Mynegodd yr aelodau eu
pryderon o ran y polisi biniau graean presennol gan dynnu sylw at yr anawsterau
a brofwyd yn ystod misoedd y gaeaf; yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oedd
llawer o finiau graean neu unrhyw rai o gwbl. Roedd yr aelodau wedi gobeithio y
byddai rhagor o finiau graean ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd lle roedd
rhiwiau; gofynnwyd a oedd ymarfer mapio wedi'i gwblhau i nodi ble roedd y
gwahanol finiau graean wedi'u lleoli ac a ellid edrych i mewn i'w
cyfartalrwydd. Cadarnhaodd Swyddogion fod gan
system gwybodaeth ddaearyddol y cyngor haen a oedd yn cynnwys lleoliad yr holl
finiau graean ar draws y fwrdeistref sirol. Soniwyd bod gan y polisi biniau
graean feini prawf cymhwysedd a oedd yn cynnwys y nodweddion a'r amodau
angenrheidiol o gael bin graean ar gyfer ardaloedd gwahanol; roedd mwy o
rhywiau mewn rhai ardaloedd yn y fwrdeistref sirol nag eraill, felly byddent yn
flaenoriaeth wrth gael gafael ar fin. Hysbyswyd yr Aelodau na fydd y
dosbarthiad yn gyfartal oherwydd hyn. Ychwanegwyd, dan y polisi presennol, bod
hawl gan Aelodau i symud bin graean i leoliad arall yn eu ward os oedd angen;
fodd bynnag, os nad oedd gan y ward fin graean i'w symud, yna ni fyddai hyn yn
gallu digwydd. Cafwyd trafodaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Cofnodion: Gofynnodd yr Aelodau i
wybodaeth yn ymwneud â gorfodi gwastraff ar yr ochr yn y Gwasanaeth Gwastraff
gael ei hychwanegu at y Blaenraglen Waith. Cytunwyd y byddai'r elfen hon yn
cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar orfodi sbwriel a thipio anghyfreithlon y
disgwylir iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar 28 Ionawr 2022. Nodwyd y Blaenraglen Waith ar
gyfer Pwyllgor Craffu’r Strydlun a Pheirianneg. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Cytundeb Adran 38 Deddf
Priffyrdd 1980, Taliad Swm Gohiriedig - Cae Morfa, Camau Tri a Phedwar Sgiwen Derbyniodd yr Aelodau
adroddiad mewn perthynas â sefyllfa Adran 38 Datblygiad Cae Morfa ynghylch
lefel y symiau gohiriedig ar gyfer cynnal a chadw'r datblygiad yn y tymor hir. Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad i fynd at Fwrdd y Cabinet. |