Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Strategaeth Adferiad PDF 559 KB Cofnodion: Cyflwynwyd strategaeth ddrafft i'r Aelodau ar
sefydlogi, y cyfnod rhwng ymateb ac adferiad, yn dilyn cychwyniad COVID-19.
Roedd y strategaeth yn disgrifio fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi
ymagwedd gyson a chydlynus wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y
strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i bob Pwyllgor Craffu ar gyfer
sylwadau cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020 i'w chymeradwyo. Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o gynnwys y
strategaeth, gan esbonio ei bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys
edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod cyfnod ymateb yr argyfwng,
edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb a map ffyrdd o gamau
gweithredu. Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn
ystod y cyfnod ymateb, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o gamau allweddol
wedi'u cymryd, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth cyfathrebu saith niwrnod yr
wythnos fel y gellid anfon canllawiau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac
Iechyd Cyhoeddus Cymru pan oeddent ar gael. Ychwanegwyd bod y cyngor wedi cau
gwasanaethau i helpu i leihau ymlediad y feirws ac wedi newid y ffordd yr oedd
rhai gwasanaethau hanfodol yn gweithredu er mwyn gweithredu'n ddiogel, er
enghraifft y gwasanaeth sbwriel. Soniodd swyddogion fod rhan gyntaf y
strategaeth hefyd yn nodi'r newidiadau a wnaed mewn perthynas ag arweinyddiaeth
a llywodraethu, gan gynnwys defnyddio'r ddarpariaeth Gweithredu Brys a nodir yn
y Cyfansoddiad, i sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn dal i gael eu gwneud
yn ystod y cyfnod ymateb. Esboniwyd ail ran y strategaeth i'r Aelodau, a oedd
yn cynnwys edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb i gyfnod
sefydlogi, sef y cam cyn symud i'r cyfnod adfer. Esboniwyd bod tri maes wedi'u nodi
fel ffocws wrth i'r cyngor symud ymlaen: 1. Y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu 2. Sut mae gwasanaethau a swyddogaethau'r cyngor yn ymdopi 3. Deall ac ymateb i'r effaith y mae'r feirws
wedi'i chael ar ddinasyddion, sefydliadau a busnesau ledled Castell-nedd Port
Talbot Ychwanegwyd bod yr ail ran hefyd yn nodi'r
newidiadau y bu'n ofynnol eu gwneud o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, yn
ogystal â rhai o'r risgiau a'r materion a nodwyd y bydd angen eu rheoli wrth
i'r cyngor fynd ati i roi'r strategaeth ar waith. Cyflwynwyd trydedd ran y strategaeth fel map ffyrdd
o gamau gweithredu a oedd wedi'i fframio ar sail system goleuadau traffig, a
oedd yn nodi sut i symud o sefyllfa o gyfyngiadau symud llwyr, drwy'r system
goleuadau traffig, i sefyllfa lle mae gwasanaethau'n gweithredu unwaith eto.
Nodwyd bod nifer o wasanaethau ar y map ffyrdd yn dod o fewn cylch gwaith
Pwyllgor Craffu'r Strydlun a Pheirianneg gan gynnwys trafnidiaeth, ffioedd
parcio, gorfodi parcio a sbwriel ac ailgylchu. Gofynnodd yr Aelodau am ba hyd y byddai Ysbyty Maes Llandarcy yn ei le, ac atebwyd nad oedd Swyddogion yn gallu rhoi dyddiad penodol ar hyn o bryd, gan y byddent yn ymateb i Bolisi Llywodraeth Cymru pan gaiff ei gyhoeddi. Fodd bynnag, roedd y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|
Gofal Strydoedd - Cynllunio Cyflenwi ac Adfer Gwasanaethau Cyfredol PDF 117 KB Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o sefyllfa bresennol
y gwasanaethau yn y maes Gofal Strydoedd a sut roedd gwasanaethau'n cael eu
darparu wrth i'r cyngor symud tuag at gyfnod adfer yr argyfwng coronafeirws. Cyflwynodd swyddogion graff o absenoldeb sy'n
gysylltiedig â COVID-19 ym maes gwasanaeth Gofal Strydoedd i'r pwyllgor, a
gynhwysir yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith ei
bod hi'n ofynnol cofnodi a choladu absenoldebau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn
wythnosol, ac roedd Swyddogion wedi bod yn gwneud hynny ers 13 Mawrth 2020.
Dangosodd y graff sut roedd absenoldebau COVID-19 wedi amrywio ac yn benodol,
sut roedd cyfradd yr absenoldebau'n datblygu tua diwedd mis Mawrth, cyn i'r
cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno. Fel sy'n amlwg yn y graff, dywedwyd mai'r
elfen fwyaf sy'n gysylltiedig ag absenoldebau COVID-19 ar gyfer Gofal Strydoedd
oedd y rheini a oedd yn gwarchod, ac mae'r rhan fwyaf o absenoldebau bellach o
ganlyniad i warchod. Fodd bynnag, nodwyd y disgwylir i'r adolygiad nesaf ar gyfer y rheini sy'n
gwarchod gael ei gynnal ar 16 Awst 2020, gyda llythyrau'n cael eu hanfon yr
wythnos cyn hynny, a fyddai'n rhoi gwell dealltwriaeth o'r effaith. Yn dilyn hyn, cyflwynwyd sefyllfa darparu gwasanaethau
Gofal Strydoedd i'r Pwyllgor, a gynhwysir yn Atodiad B o'r adroddiad a
ddosbarthwyd, a oedd yn cwmpasu'r holl wasanaethau yng nghylch gwaith Gofal
Strydoedd. Aeth swyddogion drwy rai o'r sylwadau ar y statws sydd ohoni yn fyr
gan ddiweddaru'r Aelodau lle yn ôl yr angen. O ran glanhau traethau, soniwyd bod y gwasanaeth yn
gweithredu fel arfer, ond roedd rhagor o adnoddau'n cael eu defnyddio gan fod y
gwasanaeth yn ceisio dal i fyny â chlirio gwastraff oherwydd bod mwy o bobl yn
ymweld â'r traeth ac nid oeddent yn cael gwared ar eu sbwriel. Hysbyswyd yr Aelodau fod y canolfannau ailgylchu
wedi agor ar 26 Mai 2020 a bod system archebu wedi'i chyflwyno lle gallai'r
cyhoedd archebu slot amser o 15 munud i ollwng eu hailgylchu. Nodwyd bod y
system yn gweithio'n dda iawn, a bod cynghorau eraill ledled Cymru yn ystyried
cadw eu systemau archebu ar waith ar gyfer y dyfodol. Tynnodd swyddogion sylw
at y ffaith y gallai Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd ystyried cadw eu
system archebu. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y prosiect goleuadau
stryd gwerth £1 miliwn yn mynd rhagddo, lle byddai rhagor o oleuadau LED yn
cael eu cyflwyno yn lle’r goleuadau defnydd ynni uchel. Soniwyd bod y contract
wedi dechrau yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 13 Gorffennaf 2020 a bod y
contractwr wedi dechrau cwblhau'r profion trydanol cyn dechrau gosod goleuadau
newydd yn lle'r hen rai. Tynnwyd sylw at y ffaith bod casgliadau ailgylchu a
gwastraff yn faes yr oedd y gwasanaeth Gofal Strydoedd wedi'i flaenoriaethu,
gyda staff yn gweithio'n galed iawn dros gyfnod y cyfyngiadau symud i gadw'r
gwasanaeth i fynd ac i ddelio â'r cynnydd mewn gwastraff ac ailgylchu a
gynhyrchwyd. Soniwyd bod storfeydd a phrynu wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu gyda PPE ac offer, nid yn unig i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Peirianneg a Thrafnidiaeth - Cynllunio Cyflenwi ac Adfer Gwasanaeth Cyfredol PDF 340 KB Cofnodion: Darparwyd trosolwg i'r Aelodau
o'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar draws y Gwasanaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth, sut olwg fydd ar y gwasanaeth a sut bydd yn gweithredu wrth i'r
cyngor symud i'r cyfnod adfer. Ar draws y pum maes gwasanaeth,
dywedwyd bod Rheoli Datblygu Priffyrdd (RhDP) a Chludiant Teithwyr a Chludiant
o'r Cartref i'r Ysgol wedi'u galluogi'n llawn i barhau fel arfer yn effeithiol
cyn belled â'u bod yn gallu delio â gohebiaeth a gweithrediadau beunyddiol, yn
dilyn y cyhoeddiad am gau swyddfeydd. O ran y tîm Rheoli Datblygu
Priffyrdd, nodwyd eu bod wedi symud ymlaen gyda rhai ceisiadau cynllunio yr
ymdriniwyd â hwy yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, a bod pobl wedi bod yn
araf i fanteisio ar wasanaeth ar-lein y SAB (Corff Cymeradwyo SuDs) a aeth yn
fyw yn gynharach eleni, ond bod gwaith bellach yn mynd rhagddo yn y maes hwnnw.
Ychwanegwyd bod yr holl asesiadau risg ar waith ar gyfer ymweliadau safle
angenrheidiol er mwyn galluogi ceisiadau SAB i symud ymlaen. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod staff, yn enwedig y tîm Adeileddau, wedi bod yn rhan fawr o'r ymateb
i'r tair storm fawr ddiweddar, gan gynnwys storm Dennis. Yn dilyn hyn,
cynhaliwyd llawer iawn o archwiliadau ar adeileddau a phontydd Castell-nedd
Port Talbot. Nodwyd bod difrod saernïol yn effeithio'n fawr un bont ym
Mlaengwrach, ond yn dilyn cefnogaeth y Cabinet ar gyfer y bont newydd i'w gosod
yno, roedd y bont newydd bellach yn cael ei saernïo, ac roedd gwaith wedi
cychwyn er mwyn ei chwblhau erbyn diwedd yr haf. Esboniwyd i'r Aelodau fod
canlyniadau COVID-19 wedi effeithio ar rai meysydd o Ddiogelwch Ffyrdd a
Pherfformiad Busnes, yn bennaf oherwydd cau ysgolion. Dywedodd swyddogion fod
llawer o'r rhaglenni hyfforddi wedi'u gohirio a bod yn rhaid i staff ailfeddwl
sut y gallent symud ymlaen gyda'r rhaglenni; fodd bynnag, roedd rhaglenni
bellach yn cael eu datblygu a fyddai'n cael eu darparu ar-lein drwy'r hwb, a
byddai sgyrsiau ystafelloedd dosbarth yn cael eu cwblhau drwy dechnoleg byrddau
gwyn drwy Microsoft Teams. Diolchodd Dave Griffiths, y Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth, i'w cysylltiadau ag Addysg a TG, gan eu bod wedi helpu i gynnal
rhaglenni hyfforddi pwysig i bobl ifanc. Hysbyswyd yr Aelodau am y
cynllun beicio i'r gwaith newydd a lansiwyd ar ddechrau mis Gorffennaf, lle'r
oedd y nifer a fanteisiodd arno wedi bod yn dda iawn. Soniwyd bod tua 73 o bobl
wedi achub ar y cyfle i brynu beiciau drwy'r cynllun (archebwyd 33 o feiciau
trydan a thros 40 o feiciau traddodiadol) gydag Aelodau a Swyddogion o fewn y
cyngor yn manteisio ar y cynllun hefyd. Ychwanegwyd y byddai rhaglen
hyfforddi'n cael ei chyflwyno dros yr haf er mwyn i bobl allu dysgu sut i
reidio beic. O ran perfformiad busnes, nodwyd bod rhai gweithwyr cyflogedig yn yr ardal wedi'u hadleoli i'r gwasanaeth Tracio ac Olrhain i gynnal y llwyth gwaith a bod nifer o drefniadau newydd wedi'u llywio gan TGCh wedi'u cyflwyno; oherwydd canlyniadau cadarnhaol y trefniadau newydd hyn, dywedwyd y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |