Cofnodion:
Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o sefyllfa bresennol
y gwasanaethau yn y maes Gofal Strydoedd a sut roedd gwasanaethau'n cael eu
darparu wrth i'r cyngor symud tuag at gyfnod adfer yr argyfwng coronafeirws.
Cyflwynodd swyddogion graff o absenoldeb sy'n
gysylltiedig â COVID-19 ym maes gwasanaeth Gofal Strydoedd i'r pwyllgor, a
gynhwysir yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith ei
bod hi'n ofynnol cofnodi a choladu absenoldebau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn
wythnosol, ac roedd Swyddogion wedi bod yn gwneud hynny ers 13 Mawrth 2020.
Dangosodd y graff sut roedd absenoldebau COVID-19 wedi amrywio ac yn benodol,
sut roedd cyfradd yr absenoldebau'n datblygu tua diwedd mis Mawrth, cyn i'r
cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno. Fel sy'n amlwg yn y graff, dywedwyd mai'r
elfen fwyaf sy'n gysylltiedig ag absenoldebau COVID-19 ar gyfer Gofal Strydoedd
oedd y rheini a oedd yn gwarchod, ac mae'r rhan fwyaf o absenoldebau bellach o
ganlyniad i warchod. Fodd bynnag, nodwyd y disgwylir i'r adolygiad nesaf ar gyfer y rheini sy'n
gwarchod gael ei gynnal ar 16 Awst 2020, gyda llythyrau'n cael eu hanfon yr
wythnos cyn hynny, a fyddai'n rhoi gwell dealltwriaeth o'r effaith.
Yn dilyn hyn, cyflwynwyd sefyllfa darparu gwasanaethau
Gofal Strydoedd i'r Pwyllgor, a gynhwysir yn Atodiad B o'r adroddiad a
ddosbarthwyd, a oedd yn cwmpasu'r holl wasanaethau yng nghylch gwaith Gofal
Strydoedd. Aeth swyddogion drwy rai o'r sylwadau ar y statws sydd ohoni yn fyr
gan ddiweddaru'r Aelodau lle yn ôl yr angen.
O ran glanhau traethau, soniwyd bod y gwasanaeth yn
gweithredu fel arfer, ond roedd rhagor o adnoddau'n cael eu defnyddio gan fod y
gwasanaeth yn ceisio dal i fyny â chlirio gwastraff oherwydd bod mwy o bobl yn
ymweld â'r traeth ac nid oeddent yn cael gwared ar eu sbwriel.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y canolfannau ailgylchu
wedi agor ar 26 Mai 2020 a bod system archebu wedi'i chyflwyno lle gallai'r
cyhoedd archebu slot amser o 15 munud i ollwng eu hailgylchu. Nodwyd bod y
system yn gweithio'n dda iawn, a bod cynghorau eraill ledled Cymru yn ystyried
cadw eu systemau archebu ar waith ar gyfer y dyfodol. Tynnodd swyddogion sylw
at y ffaith y gallai Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd ystyried cadw eu
system archebu.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y prosiect goleuadau
stryd gwerth £1 miliwn yn mynd rhagddo, lle byddai rhagor o oleuadau LED yn
cael eu cyflwyno yn lle’r goleuadau defnydd ynni uchel. Soniwyd bod y contract
wedi dechrau yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 13 Gorffennaf 2020 a bod y
contractwr wedi dechrau cwblhau'r profion trydanol cyn dechrau gosod goleuadau
newydd yn lle'r hen rai.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod casgliadau ailgylchu a
gwastraff yn faes yr oedd y gwasanaeth Gofal Strydoedd wedi'i flaenoriaethu,
gyda staff yn gweithio'n galed iawn dros gyfnod y cyfyngiadau symud i gadw'r
gwasanaeth i fynd ac i ddelio â'r cynnydd mewn gwastraff ac ailgylchu a
gynhyrchwyd.
Soniwyd bod storfeydd a phrynu wedi chwarae rhan
bwysig wrth helpu gyda PPE ac offer, nid yn unig i Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd
ond hefyd wrth gynorthwyo meysydd eraill ar draws y cyngor.
Esboniodd swyddogion fod mwy o bwysau wedi bod ar y
gwasanaeth cynnal a chadw coed i docio coed a oedd wedi gordyfu ar hyd
priffyrdd oherwydd bysus deulawr ychwanegol, gan fod llawer o'r llwybrau bysus
unllawr wedi'u newid yn rhai bysus deulawr. Nodwyd y bu'n rhaid cwblhau llawer
o waith mewn cyfnod byr o amser i wneud y llwybrau hynny'n ddiogel i'r cyhoedd.
Hysbyswyd yr Aelodau bod gorfodi gwastraff ar
waith, ond bod oedi o 72 awr cyn agor bagiau gwastraff gan fod angen i'r broses
bellach fod yn un llawer mwy pwyllog a gofalus oherwydd y feirws. Soniwyd
hefyd, gan fod y cyhoedd wedi'i gwahardd rhag defnyddio adeiladau'r cyngor, nad
oedd cyfweliadau PACE wedi'u cynnal. Fodd bynnag roedd y staff ar hyn o bryd yn
edrych ar drefniadau i ddefnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Ddinesig
Castell-nedd fel y gellid parhau â'r cyfweliadau.
O ran rheoli datblygiad systemau draenio tir a
phriffyrdd, dywedwyd y byddai Mike Roberts a Dave Griffiths yn adolygu'r
swyddogaeth gorfodi draenio tir i weld a fyddai'n well iddi fod yn rhan o'r
isadran briffyrdd a draenio, er effeithlonrwydd. Nodwyd y byddai'r
gweithdrefnau angenrheidiol yn cael eu cynnal yn dilyn yr adolygiad er mwyn i'r
swyddogaeth symud pe bai angen.
Nodwyd mai'r brif broblem sy'n effeithio ar
wasanaethau oedd y broblem 'tri mewn cab'; fe'i nodwyd mewn adroddiad am yr
egwyddor rhagofal, ac fe'i newidiwyd fel na allai mwy na dau weithiwr fod mewn
cab, gyda'r rhan fwyaf o gynghorau eraill yng Nghymru yn rhoi'r un
gweithdrefnau ar waith. O ran casglu gwastraff, roedd hyn yn golygu bod angen
i'r trydydd gweithiwr fod mewn cerbyd arall y dywedwyd ei fod wedi cael effaith
sylweddol ar yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer meysydd gwasanaeth eraill; fodd
bynnag, nodwyd mai'r ffactor cadarnhaol a gafwyd o hyn fu cynnal y gwasanaeth
casglu gwastraff hanfodol, drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Dywedodd
Swyddogion, wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu codi ac wrth i fwy o wasanaethau
ddechrau gweithredu eto, fod y galwadau ar adnoddau mewnol yn cynyddu gan olygu
adnoddau cyfyngedig i rai meysydd gwasanaeth fel torri glaswellt, gwaredu
deunydd sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon a chasglu sbwriel. I gloi, dywedodd
Swyddogion eu bod wedi cysylltu â'r Undebau Llafur i gael gwybod a ellid rhoi
tri gweithiwr mewn cab a fyddai'n lliniaru’r sefyllfa o ran adnoddau; fodd
bynnag, dywedwyd mai sicrhau diogelwch staff oedd y ffactor pwysicaf, felly
byddai angen adolygu asesiadau risg a mesurau lliniaru.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd y gwasanaeth wedi
derbyn llawer o gwynion ynghylch triniaeth chwynladdwr, ac atebodd Swyddogion
nad oeddent wedi cael llawer, ond eu bod wedi cael rhai ymholiadau yn gynharach
yn y tymor, mewn perthynas â defnyddio plaladdwyr ac ymylon ffyrdd. Yn dilyn yr
ymholiad ynghylch ymylon ffyrdd a sut cawsant eu rheoli, dywedodd Swyddogion eu
bod yn cynnal trafodaethau â chydweithwyr yn y maes Cynllunio a Bioamrywiaeth
ynghylch ehangu nifer yr ymylon ffyrdd a reolir gan fioamrywiaeth. Ychwanegwyd
ei bod wedi mynd yn anos goruchwylio contractwyr a darparu adnoddau ar gyfer
triniaeth chwynladdwr oherwydd y feirws.
Gofynnwyd i swyddogion a fyddai gweithwyr mewn
canolfannau ailgylchu'n cael unrhyw fath o gysgod, yn dilyn arsylwadau nad oedd
unman iddynt gysgodi rhag y glaw a'r tywydd oer ar hyn o bryd. Nodwyd bod y
contractwr yn fodlon ar y trefniadau lles ar gyfer staff drwy'r haf, ond y
disgwylid i gontract newydd ddechrau ar 1 Hydref 2020 a oedd yn cynnwys bwth i
weithwyr wrth fynedfa'r canolfannau.
Dangosodd yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld y data o
wastraff ac ailgylchu'r CDGC yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Soniwyd y
bydd Aelodau'n derbyn ffigurau mewn adroddiad perfformiad chwarterol sydd ar
ddod, a fydd yn dangos ffigurau gwastraff a'r effaith y mae COVID-19 wedi'i
chael ar y ffigurau hynny. Dywedodd swyddogion eu bod yn ymwybodol bod COVID-19
wedi cael effaith ar y ffigurau ers mis Mawrth 2020, o edrych yn ôl ar
ffigurau'r llynedd (2019/20) o'u cymharu â'r data yr oeddent wedi bod yn ei
goladu'n ddiweddar. Ychwanegwyd y bydd yr adroddiad perfformiad chwarterol yn
rhoi darlun cyffredinol yn ogystal â chyfle i ymchwilio i bob effaith unigol.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â gwastraff dillad a
manteision ailddefnyddio dillad drwy fynd â nhw i siopau neu ddefnyddio 'Cash
for Clothes' yn lle ailgylchu. Soniwyd ei bod yn arbennig o bwysig lledaenu
ymwybyddiaeth o fudd ailddefnyddio gan y bu cynnydd yn nifer y bobl a oedd am
gael gwared ar ddillad.
Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.
Diolchodd y Pwyllgor i'r gwasanaeth Gofal Strydoedd
am eu holl waith caled yn ystod argyfwng COVID-19 a gofynnwyd i Mike Roberts,
Pennaeth Gofal Strydoedd, drosglwyddo'r neges i'w dimau.
Dogfennau ategol: