Cofnodion:
Darparwyd trosolwg i'r Aelodau
o'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar draws y Gwasanaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth, sut olwg fydd ar y gwasanaeth a sut bydd yn gweithredu wrth i'r
cyngor symud i'r cyfnod adfer.
Ar draws y pum maes gwasanaeth,
dywedwyd bod Rheoli Datblygu Priffyrdd (RhDP) a Chludiant Teithwyr a Chludiant
o'r Cartref i'r Ysgol wedi'u galluogi'n llawn i barhau fel arfer yn effeithiol
cyn belled â'u bod yn gallu delio â gohebiaeth a gweithrediadau beunyddiol, yn
dilyn y cyhoeddiad am gau swyddfeydd.
O ran y tîm Rheoli Datblygu
Priffyrdd, nodwyd eu bod wedi symud ymlaen gyda rhai ceisiadau cynllunio yr
ymdriniwyd â hwy yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, a bod pobl wedi bod yn
araf i fanteisio ar wasanaeth ar-lein y SAB (Corff Cymeradwyo SuDs) a aeth yn
fyw yn gynharach eleni, ond bod gwaith bellach yn mynd rhagddo yn y maes hwnnw.
Ychwanegwyd bod yr holl asesiadau risg ar waith ar gyfer ymweliadau safle
angenrheidiol er mwyn galluogi ceisiadau SAB i symud ymlaen.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod staff, yn enwedig y tîm Adeileddau, wedi bod yn rhan fawr o'r ymateb
i'r tair storm fawr ddiweddar, gan gynnwys storm Dennis. Yn dilyn hyn,
cynhaliwyd llawer iawn o archwiliadau ar adeileddau a phontydd Castell-nedd
Port Talbot. Nodwyd bod difrod saernïol yn effeithio'n fawr un bont ym
Mlaengwrach, ond yn dilyn cefnogaeth y Cabinet ar gyfer y bont newydd i'w gosod
yno, roedd y bont newydd bellach yn cael ei saernïo, ac roedd gwaith wedi
cychwyn er mwyn ei chwblhau erbyn diwedd yr haf.
Esboniwyd i'r Aelodau fod
canlyniadau COVID-19 wedi effeithio ar rai meysydd o Ddiogelwch Ffyrdd a
Pherfformiad Busnes, yn bennaf oherwydd cau ysgolion. Dywedodd swyddogion fod
llawer o'r rhaglenni hyfforddi wedi'u gohirio a bod yn rhaid i staff ailfeddwl
sut y gallent symud ymlaen gyda'r rhaglenni; fodd bynnag, roedd rhaglenni
bellach yn cael eu datblygu a fyddai'n cael eu darparu ar-lein drwy'r hwb, a
byddai sgyrsiau ystafelloedd dosbarth yn cael eu cwblhau drwy dechnoleg byrddau
gwyn drwy Microsoft Teams. Diolchodd Dave Griffiths, y Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth, i'w cysylltiadau ag Addysg a TG, gan eu bod wedi helpu i gynnal
rhaglenni hyfforddi pwysig i bobl ifanc.
Hysbyswyd yr Aelodau am y
cynllun beicio i'r gwaith newydd a lansiwyd ar ddechrau mis Gorffennaf, lle'r
oedd y nifer a fanteisiodd arno wedi bod yn dda iawn. Soniwyd bod tua 73 o bobl
wedi achub ar y cyfle i brynu beiciau drwy'r cynllun (archebwyd 33 o feiciau
trydan a thros 40 o feiciau traddodiadol) gydag Aelodau a Swyddogion o fewn y
cyngor yn manteisio ar y cynllun hefyd. Ychwanegwyd y byddai rhaglen
hyfforddi'n cael ei chyflwyno dros yr haf er mwyn i bobl allu dysgu sut i
reidio beic.
O ran perfformiad busnes,
nodwyd bod rhai gweithwyr cyflogedig yn yr ardal wedi'u hadleoli i'r gwasanaeth
Tracio ac Olrhain i gynnal y llwyth gwaith a bod nifer o drefniadau newydd
wedi'u llywio gan TGCh wedi'u cyflwyno; oherwydd canlyniadau cadarnhaol y
trefniadau newydd hyn, dywedwyd y byddai'r timau busnes ac ysgrifenyddol yn
cael eu hadolygu i nodi a ellid darparu'r gwasanaeth mewn ffordd fwy effeithlon
a chynhyrchiol wrth symud ymlaen. Ychwanegwyd y byddai Joy Smith, Rheolwr
Diogelwch Ffyrdd a Pherfformiad Busnes, a goruchwylwyr yn adolygu hyn ac y bydd
yr Aelodau'n cael clywed am y newidiadau mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Esboniodd swyddogion fod y tîm
Gwasanaethau Parcio wedi'i atal yn ystod cychwyniad y feirws, gan fod gorfodi
ar y stryd ac oddi ar y stryd wedi dod i ben dros dro. Cadarnhawyd y byddai
gwasanaethau gorfodi parcio ar y stryd yn ailgychwyn ar ddechrau mis
Gorffennaf, a gorfodi parcio oddi ar y stryd yn dechrau ar 1 Awst 2020. Ar 1
Medi byddai taliadau a gorfodi'n cael eu hailgyflwyno ym meysydd parcio canol
trefi; soniwyd y byddai hyn yn rhoi cymorth ychwanegol i ganol trefi a
manwerthwyr adfer ac i ganol trefi ddechrau agor.
Codwyd mater hawlenni parcio
rhithwir newydd, gyda Swyddogion yn egluro bod 1,400 o staff a'r holl
Gynghorwyr lleol wedi'u cofrestru ar gyfer hyn hyd yma ac o 1 Medi 2020 ymlaen,
ni fyddai angen hawlenni papur. Ychwanegwyd y gellid cyfnewid rhifau cofrestru
cerbydau ar-lein pe bai nifer o gerbydau'n cael eu defnyddio ac os oedd unrhyw
un yn cael anawsterau gyda hyn gallent gysylltu ag Ian Rees, y Goruchwyliwr
Gorfodi Parcio.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y tîm
cyfan a oedd yn rhan o'r Gwasanaeth Cludiant Cymunedol wedi'i ail-leoli i helpu
i sefydlu'r ganolfan dosbarthu bwyd a sefydlwyd i gefnogi'r Cynllun 'Safe and
Well', sydd wedi bod yn gweithredu drwy gydol y pandemig. Ychwanegwyd y
byddai'r sefyllfa warchod ar gyfer preswylwyr sy'n agored i niwed yn cael ei
newid ar 16 Awst 2020, ac o'r dyddiad hwnnw ni fyddai pecynnau bwyd yn cael eu
darparu mwyach.
Cadarnhaodd swyddogion, pe bai
angen i staff fynd i mewn i'r swyddfeydd ar gyfer unrhyw waith hanfodol, fod rota
wedi'i sefydlu er mwyn gwneud hyn yn ddiogel a chynnal mesurau pellter
cymdeithasol. Soniwyd bod rhai staff cynorthwyol gweinyddol wedi dechrau mynd i
mewn i'r swyddfa i roi cymorth i'r Gyfarwyddiaeth.
Diolchodd y Cynghorydd Simon
Knoyle i Dave Griffiths, y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, a gweddill y
tîm am y gwaith a gwblhawyd ar y bont a oedd yn cysylltu Glyn-nedd a
Chwmgwrach.
Yn dilyn craffu, cytunwyd i
nodi'r adroddiad.
Diolchodd y Pwyllgor
i'r gwasanaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth am eu holl waith caled yn ystod
argyfwng COVID-19 a gofynnodd i Dave Griffiths, Pennaeth Peirianneg a
Thrafnidiaeth, gyfleu'r neges i'w dimau.
Dogfennau ategol: